Coleg Caerdydd a’r Fro yn codi i'r 2il safle mewn mynegai amrywiaeth mawreddog ac yn ennill gwobr Darparwr Addysg Bellach y Flwyddyn

22 Tach 2024

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi symud i fyny o'r 3ydd safle i’r 2il safle ym Mynegai 100 Cyflogwr Mwyaf Cynhwysol 2024 y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth, ac wedi derbyn eu Gwobr Darparwr Addysg Bellach y Flwyddyn.

Mae’r cyflawniadau yn adlewyrchu’r gwaith sy’n cael ei wneud ar draws y Coleg i ymgorffori Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE). Y coleg yw’r unig sefydliad Addysg Bellach yng Nghymru sydd yn y 10 Uchaf.

Mae gwaith y coleg i hyrwyddo a meithrin cysylltiadau da ymysg yr holl nodweddion gwarchodedig wedi’i ganmol gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth. Mae’n cynnwys gweithgareddau sy’n gysylltiedig â FREDIE ar draws CCAF ar gyfer dysgwyr a staff, y tiwtorial a’r hyfforddiant, gan gynnwys y Coleg yn cynnal prydau Iftar Cymunedol i nodi wythnos olaf Ramadan, gweithgareddau staff a myfyrwyr yn PRIDE, a hyfforddiant profiad byw ar gyfer gwrth-hiliaeth a thrawsffobia.

Yn ei hadroddiad ail-achredu diweddaraf ar gyfer statws Arweinwyr Amrywiaeth y Coleg, nododd y Ganolfan fod CCAF yn parhau i fod yn esiampl o arfer da, gan gyflawni gwaith rhagorol a phob amser yn ymdrechu i wneud mwy.

Nododd aseswr ei bod yn “ysbrydoledig cael siarad â’r tîm yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Mae eu hymrwymiad a’u brwdfrydedd pan ddaw i sicrhau darpariaeth o’r safon uchaf ar gyfer dysgwyr ac amgylchedd cadarnhaol a chefnogol ble caiff cyd-weithwyr eu cefnogi i ddatblygu a ffynnu yn parhau'r un mor amlwg.”

Mae CCAF hefyd wedi bod yn gweithio â Llywodraeth Cymru, yn arwain ar brosiect i ddatblygu modiwlau cwricwlwm gwrth-hiliaeth yn y sector Addysg Bellach. Mae’r cwricwlwm ar ffurf metafyd, gan ddarparu profiad dysgu trochol a hygyrch a ddatblygwyd a chynhyrchwyd ar y cyd ag arbenigwyr lleiafrifoedd ethnig o ysgolion, colegau, prifysgol a thrydydd partïon.

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynrychioli un o’r cymunedau mwyaf bywiog ac amrywiol yng Nghymru. Mae hefyd yn ddarparwr mwyaf cyrsiau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yng Nghymru, gan ei roi mewn sefyllfa dda i estyn allan i gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar draws y Brifddinas-Ranbarth a thu hwnt.

Prif Weithredwr Grŵp CCAF Mike James yw Cadeirydd Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Colegau Cymru ac yn 2022 daeth y Coleg y coleg cyntaf yng Nghymru i ddod yn gysylltiedig â’r Black Leadership Group.

Yn 2022 enillodd CCAF Wobr Beacon Du-gyfan Cymdeithas y Colegau (AoC) am ei waith arloesol i ymgorffori cydraddoldeb a chynhwysiant, a Gwobr Llysgennad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant WorldSkills y DU.

Ymwybyddiaeth Canser ESOL, partneriaeth rhwng CCAF a Chanolfan Ganser Felindre, oedd adnodd Ymwybyddiaeth Iechyd a Chanser cyntaf y DU ar gyfer cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig pan gafodd ei lansio yn 2018.

Dywedodd Solar Chaudhry, Prif Weithredwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth: “Hoffwn longyfarch Coleg Caerdydd a’r Fro am gyrraedd rhif 2 yn llwyddiannus ym Mynegai 100 Cyflogwr Mwyaf Cynhwysol y DU 2024.

“Mae’r sefydliadau ysbrydoledig sy’n cyrraedd y 100 Uchaf yn dangos lefelau rhagorol o gadw a recriwtio gweithwyr ac yn dangos yn glir sut maent yn gwerthfawrogi ac yn parchu’r bobl sy’n gweithio iddynt.  

“Beth well na chael eich cydnabod gan gymheiriaid a’r rhai sy’n rhannu’r un nod gyffredin o Degwch yn y gweithle. Mae’n hynod ysgogol.” 

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Rydym wrth ein boddau o fod wedi symud i fyny i’r ail safle ym Mynegai 100 Cyflogwr Mwyaf Cynhwysol mawreddog y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth. Ac mae derbyn gwobr Darparwr Addysg Bellach y Flwyddyn yn rhywbeth i fod yn falch iawn ohono.

“Fel y Coleg sy’n gwasanaethu rhai o’r cymunedau mwyaf amrywiol a bywiog yng Nghymru, rydym yn hynod falch o’r canlyniad hwn. Mae’n golygu llawer inni oherwydd credwn ein bod wrth galon y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a bod yr holl fyfyrwyr a staff yn rhan o Deulu CCAF.

“Mae hyn yn dyst i’r bobl ar draws y Coleg sy’n gweithio’n galed i sicrhau fod CCAF yn defnyddio dull hollgynhwysol i reoli cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiaeth ar draws popeth a wnawn a hoffwn ddiolch iddynt am hynny.”