Croesawodd Coleg Caerdydd a’r Fro a Cholegau Cymru Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yr wythnos ddiwethaf ar ymweliad i weld rôl Lles Actif mewn Addysg Bellach.
Roedd yr ymweliad â Champws Canol y Ddinas CCAF yn cynnwys cyfleusterau chwaraeon a lles y Coleg, a rhoddodd gyfle i gwrdd â staff a dysgwyr, arsylwi gweithgaredd ar waith a gweld yn uniongyrchol effaith manteision buddsoddi mewn cyfleusterau ar ddysgu, lles ac ymgysylltu â’r gymuned.
Ymwelodd y pwyllgor hefyd â’r Gromen Chwaraeon dan do ar Gampws Canol y Ddinas i sgwrsio gyda’r dysgwyr a gwylio rhai o’r gweithgareddau sydd ar gael. Roedd cyfle iddyn nhw gwrdd â Phrentisiaid Iau CCAF, dysgwyr Adeiladu a Pheirianneg a dysgwyr ar gyrsiau Sgiliau Byw yn Annibynnol.
Roedd yr ymweliad yn rhan o ymchwiliad ehangach y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Atal Salwch – Gordewdra.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Roedd yn wych cael croesawu Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd i’n Campws ni yng Nghanol y Ddinas a chael y cyfle i arddangos ein rhaglen Lles Actif ni ar waith.
“Yn CCAF, rydyn ni’n credu’n gryf ym manteision ymarfer corff a gweithgarwch a’r hyn y gall ei wneud i les corfforol a meddyliol person ifanc. Mae ein rhaglen Lles Actif ni’n ymgysylltu â miloedd o ddysgwyr o'r rhai sy'n anoddach eu cyrraedd yr holl ffordd drwodd i'r rhai sy'n cystadlu ar lefel genedlaethol drwy ein Hacademïau Chwaraeon.
“Yn ogystal â chanolbwyntio ar greu pobl fedrus a chyflogadwy, rydyn ni’n frwd dros sicrhau bod ein pobl ifanc ni’n sefydlu arferion iach a’u bod nhw’n gallu eu datblygu yn eu dyfodol. Mae ein rhaglen Lles Actif ni’n ymgysylltu â dysgwyr na fyddai’n gorfforol actif fel arall efallai ac yn darparu cyfleusterau a chyfleoedd iddyn nhw integreiddio gweithgarwch yn eu bywydau."
Dywedodd Rheolwr Prosiect Lles Actif a Chwaraeon ColegauCymru, Rob Baynham: “Roedd heddiw’n gyfle gwych i aelodau’r Pwyllgor weld Lles Actif ar waith. Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi bod yn arwain y sector wrth ddatblygu ei ddarpariaeth Lles Actif, yn enwedig ers datblygu cyfleusterau newydd ar ei gampws yng Nghanol y Ddinas. Mae’r coleg wedi mabwysiadu dull rhagweithiol o weithredu gydag ymgorffori gweithgarwch yn amserlen ddyddiol y dysgwyr gan roi cyfle iddyn nhw wneud y gorau o’r cyfleusterau sydd ar gael.”
Ar lefel genedlaethol, mae Prosiect Lles Actif ColegauCymru yn gweithio gydag 11 o golegau AB ac yn ymgysylltu â mwy na 5,000 o ddysgwyr AB y flwyddyn. Yn nodweddiadol, mae’r prosiect yn gweithio gyda’r dysgwyr hynny sydd ddim yn cymryd rhan eisoes mewn gweithgarwch corfforol neu chwaraeon, gan ganolbwyntio ar ddysgwyr benywaidd a grwpiau eraill sydd â nodweddion gwarchodedig (cymunedau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, anabledd dysgu, cefndir cymdeithasol) a allai arwain at rwystrau i gyfranogiad.