Mae CF10, y sefydliad sy’n darparu siopau coffi, ffreuturau, siopau, Subway a llogi lleoliadau Coleg Caerdydd a’r Fro, wedi’i raddio fel un o’r 35 o Gwmnïau Gorau i Weithio iddyn nhw yn y DU yn y categori Hamdden a Lletygarwch.
Roedd CF10 yn safle 32 yn y categori Hamdden a Lletygarwch ac yn 96 ymhlith y 100 Cwmni Bach Gorau i Weithio iddyn nhw ar y rhestr gyffredinol yn y DU. Cafodd ei gydnabod hefyd fel cwmni “Da i'w Wylio”, gan sicrhau gradd Dda yn gyffredinol.
Mae’r gwobrau proffil uchel yn cynnwys banciau, clybiau pêl-droed yr uwch gynghrair, gwestai a chwmnïau o bob sector a maint yn sicrhau lle ar y rhestr fel un o Gwmnïau Gorau’r DU i Weithio iddyn nhw. Maen nhw’n cydnabod ymrwymiad cwmni i’w gyflogeion a’r gymuned leol.
Mae proffil CF10 ar y wefan Cwmnïau Gorau yn nodi ymrwymiad y cwmni i les a datblygiad proffesiynol ei staff. Mae hefyd yn tynnu sylw at ymgysylltu cymunedol CF10, gan gynnwys darparu parseli bwyd i elusennau lleol, codi arian ar gyfer elusennau canser a darparu miloedd o frecwastau am ddim i ddysgwyr CCAF a noddi chwaraeon ieuenctid.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Llongyfarchiadau i bawb yn CF10 ar ennill y wobr haeddiannol yma. Dyma’r bedwaredd flwyddyn iddyn nhw ymddangos ar y rhestr ac mae wir yn pwysleisio sut mae CF10 yn rhoi ei gyflogeion, ein dysgwyr ni a’r gymuned ehangach wrth galon popeth mae’n ei wneud.”