Coleg Caerdydd a’r Fro yn dathlu ei ddysgwyr Addysg Uwch mewn Seremoni Raddio arbennig

15 Hyd 2024

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cynnal seremoni raddio arbennig i ddathlu llwyddiannau ei fyfyrwyr Addysg Uwch.

Bob blwyddyn, mae miloedd o ddysgwyr yn mynychu CCAF i ennill y sgiliau a’r cymwysterau angenrheidiol i gamu ymlaen yn eu dewis yrfaoedd. Mae nifer ohonynt yn dilyn amrywiaeth unigryw’r Coleg o gyrsiau gradd neu lefel gradd (sef cyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd) er mwyn iddynt gael eu trochi mewn pynciau sydd o ddiddordeb ysol iddynt ac ennill sgiliau a chymwysterau a all eu helpu i newid eu gyrfa neu gamu ymlaen at yrfaoedd yn y dyfodol.

Un dysgwr o’r fath a raddiodd eleni yw Arwel Thomas, a enillodd Dystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PgCE/AHO). Ac yntau wastad wedi dymuno bod yn athro, daeth cyfle yn yr ysgol lle gweithiai i lenwi bwlch yn ystod cyfnod tadolaeth un o’r athrawon, felly penderfynodd fachu ar y cyfle hwnnw.

“Roeddwn i’n teimlo bod y cwrs hwn yn rhoi’r arweiniad a’r cymorth ychwanegol roeddwn i eu hangen i lwyddo yn y rôl honno,” medd Arwel. “Y peth gorau ynglŷn â’r cwrs oedd gallu defnyddio’r pethau a ddysgais yn syth yn fy rôl fel athro amser llawn, a hefyd rhoddodd y cwrs fwy o hyder imi sefyll o flaen dosbarth a bod yn hyderus ac yn frwd ynglŷn â’r hyn roeddwn i’n ei wneud. Yn ogystal, cefais flas mawr ar yr aseiniadau gweledol a’r aseiniadau dylunio, oherwydd cefais gyfle i ddefnyddio fy nghefndir mewn dylunio graffeg.


Mae Arwel yn dal i weithio yn yr ysgol oherwydd llwyddodd i gael swydd barhaol.


“Buaswn yn argymell yn gryf y dylai pawb sy’n danbaid dros weithio yn y byd addysgu roi cynnig ar y cwrs hwn, PgCE neu AHO,” ychwanegodd Arwel. “Yn ddi-os, mae’r cymorth a’r arweiniad a gefais wedi helpu i greu’r fersiwn orau ohonof fi fel unigolyn ynghyd â’r athro gorau y gallaf fod i’m myfyrwyr ADY.”


Daeth Heather Curtis-Rich i CCAF i astudio BSc mewn Seiberddiogelwch, gan raddio gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Bu modd iddi fwynhau astudio cwrs lefel gradd heb orfod gadael ei dinas i fynd i ffwrdd i’r brifysgol.


“Fe wnes i fwynhau delio â’r agwedd gyfreithiol ar seiberddiogelwch a sut allwn ni ddatblygu mwy ar ymdrin â’r elfennau cyfreithiol sy’n perthyn i seiberddiogelwch,” medd Heather. “Dewisais astudio cwrs Addysg Uwch yn CCAF gan fy mod eisiau aros yn y ddinas a oedd yn gyfarwydd imi, a hefyd er mwyn cywain yr wybodaeth angenrheidiol ar gyfer datblygu fy ngyrfa yn y maes seiberddiogelwch.


“A minnau wedi graddio erbyn hyn, rydw i’n awyddus i ddilyn gyrfa’n ymwneud â’r agweddau cyfreithiol ar seiberddiogelwch a gweld sut alla’ i ddatblygu mwy ar ymdrin â data personol. Hefyd, hoffwn ychwanegu fy mod yn hoff o’r tiwtoriaid a’r modd y gwnaethon nhw fy nghefnogi drwy gydol y cwrs."


Hefyd, mae CCAF yn dyfarnu Cymrodoriaethau Anrhydeddus yn ei Seremonïau Graddio Addysg Uwch. Y Cymrawd Anrhydeddus eleni oedd Ken Poole MBE, Pennaeth Datblygu Economaidd yng Nghyngor Caerdydd. Dyfarnwyd y gymrodoriaeth iddo ar sail ei gyfraniad amhrisiadwy at dwf economaidd ac adfywio yng Nghaerdydd a’r rhanbarth ehangach.

“Anrhydedd mawr yw derbyn y Gymrodoriaeth hon,” medd Ken. “Braint o’r mwyaf yw cael cydnabyddiaeth o’r fath gan sefydliad a chanddo rôl mor bwysig o ran llunio dyfodol ein gweithlu yn y brifddinas a’r rhanbarth.

“Ar adeg pan mae newidiadau economaidd a chymdeithasol yn digwydd yn gyflymach nag erioed, mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi dal ar y cyfle. Mae wedi arfogi pobl ifanc â’r arfau y byddan nhw eu hangen i ffynnu, boed hynny mewn diwydiannau digidol, yn y sectorau creadigol, yn y diwydiant gweithgynhyrchu neu yn yr economi werdd.”

Medd Sharon James-Evans, Pennaeth CCAF: “Mae gweld ein myfyrwyr yn graddio gyda chymwysterau Addysg Uwch, ynghyd â’r sgiliau a ddysgon nhw ar hyd y ffordd, yn destun balchder mawr i mi a ’nghydweithwyr yn y Coleg. Mae nifer ohonyn nhw wedi dychwelyd at addysg ar ôl cyfnod yn gwneud rhywbeth arall – a dyma her na ddylid byth bythoedd ei bychanu. Mae’n dangos faint o ymroddiad ac ymrwymiad sy’n angenrheidiol i lwyddo; ac yn ddi-os, maen nhw wedi llwyddo.

“Mae ein graddedigion yn ein gadael yn bobl ddawnus ac addysgedig, ac rydw i’n gwybod y byddan nhw’n mynd yn eu blaen i gyflawni eu nod. Edrychaf ymlaen at glywed am eu holl lwyddiannau dros y blynyddoedd nesaf.”

Mae CCAF yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau Addysg Uwch, gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Gorllewin Llundain, Prifysgol Kingston a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Edrychwch ar https://cavc.ac.uk/cy/he i gael rhagor o wybodaeth.