Estyn yn amlygu dull strategol a chydweithredol Coleg Caerdydd a'r Fro o ddarparu prentisiaethau sy'n creu effaith

31 Ion 2024

Mae Estyn, sef Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru, wedi cyhoeddi adroddiad arolygu sy'n tynnu sylw at y gwaith cadarnhaol a wneir drwy ddarpariaeth prentisiaethau Coleg Caerdydd a'r Fro.


Grŵp CAVC yw'r darparwr prentisiaethau mwyaf yn y wlad, ac mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn gweithio gyda miloedd o brentisiaid bob blwyddyn, mewn 50 o wahanol sectorau. Ochr yn ochr â'i ddarpariaeth ei hun, mae'r Coleg yn cydweithio â rhwydwaith o 19 o is-gontractwyr arbenigol i sicrhau bod prentisiaethau o safon uchel yn cael eu darparu ar ran Llywodraeth Cymru. 

Mae'r adroddiad cadarnhaol a gyhoeddwyd heddiw [ddydd Mercher 31 Ionawr] yn tynnu sylw at ansawdd uchel darpariaeth prentisiaethau CAVC, gan gynnwys arferion effeithiol ac arloesol y mae Estyn yn ystyried eu bod yn werth eu hefelychu a'u rhannu ag eraill. Mae hefyd yn arddangos yr effaith nodedig a gaiff prentisiaethau ar brentisiaid, cyflogwyr a'r economi.

Yn yr adroddiad, ceir manylion ynghylch yr effaith hynod gadarnhaol a geir ar brentisiaid, drwy ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau proffesiynol, swydd-benodol, ynghyd â sgiliau cyflogadwyedd ehangach, ochr yn ochr â'r datblygiad personol a wneir. Mae'n tynnu sylw at 'flaengarwch da' ac 'agwedd gadarnhaol' prentisiaid, y ffaith eu bod yn 'awyddus a brwdfrydig' a bod llawer ohonynt yn 'uchelgeisiol ac yn benderfynol o ddatblygu yn eu sefydliadau'. Mae hefyd yn amlygu effaith gynaliadwy prentisiaethau, wrth i 'lawer ddod yn aelodau gwerthfawr o staff eu cyflogwr a datblygu ystod eang o sgiliau penodol i'r diwydiant, sy'n eu galluogi i barhau mewn cyflogaeth a symud ymlaen yn eu gyrfa'.

Oherwydd yr amrywiaeth o brentisiaethau a gynigir drwy CAVC a'r ystod anferthol o gyflogwyr sydd wedi ymrwymo i'r rhain er mwyn cynyddu eu gweithlu, mae mwy a mwy o bobl ifanc yn dewis gwneud prentisiaeth. Nodir yn yr adroddiad bod tua 2,500 o brentisiaid yn dysgu gyda CAVC, gyda 71% o'r rhain yn 16-18 oed, a bod y rhaglenni'n denu pobl ifanc o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gydag 8% o'r dysgwyr yn dod o grwpiau amrywiol o ran ethnigrwydd a 35% yn dod o ardaloedd sydd â lefel uchel o amddifadedd. 

Mae Omer Waheed, 23 o Gaerdydd, yn llysgennad gwych dros brentisiaethau. Llwyddodd Omer i gael prentisiaeth Atgyweirio Corff Cerbyd gyda Davies Motor Company yng Nghaerdydd, sy'n ymdrin â cherbydau moethus, gan gynnwys Bentley ac Aston Martin. Oherwydd lefel uchel sgiliau Omer, llwyddodd i sicrhau ei brentisiaeth ac enillodd fedalau mewn cystadlaethau sgiliau diwydiant ar lefel Cymru a'r DU, ynghyd â sicrhau ei swydd. Dywedodd Omer: "Mae'r Coleg a fy mhrentisiaeth wedi fy helpu i gyflawni fy amcanion, a'm galluogi i gyrraedd lle'r ydw i heddiw.”

Ymunodd Olivia Headley-Grant, 19 o'r Barri, â thîm cynllunio strategol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn ystod y pandemig, gan ychwanegu gwerth i sefydliad ei chyflogwr ar unwaith, yn sgil ei hawydd heintus i wneud pethau yn well, yn gyflymach ac yn fwy effeithlon. Dyma ddywedodd Olivia, a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol i brentisiaid ac sydd wedi datblygu yn ei gyrfa gyda'r GIG ers hynny: "Roedd gweithio ochr yn ochr â dysgu yn gweddu i mi - bu'n help mawr i fagu hyder a gwella fy ngwybodaeth. Byddwn i'n sicr yn argymell prentisiaeth.”

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cydweithio â mwy na mil o gyflogwyr yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, o fusnesau amlwladol i ystod amrywiol o fusnesau bach a chanolig, i ddarparu prentisiaethau sy'n diwallu eu hanghenion nawr ac at y dyfodol. Mae'r adroddiad yn cydnabod hyn, gan nodi 'r ffordd y mae CAVC 'yn gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr lleol a chenedlaethol i ddatblygu darpariaeth deilwredig er mwyn diwallu eu hanghenion penodol o ran eu gweithlu.'

Rhoddir sylw manwl yn yr adroddiad i ddull strategol y Coleg o gyflawni hyn, gan gydnabod bod CAVC yn 'gyfarwydd iawn â blaenoriaethau lleol a blaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag anghenion cyflogwyr lleol a chenedlaethol o ran sgiliau,' a'i fod yn sicrhau bod ei ddarpariaeth yn cyd-fynd â hyn. Mae hefyd yn gwneud y sylw fod y Coleg yn 'rhagweithiol' ac 'yn ffurfio partneriaethau strategol allweddol gyda rhanddeiliaid pwysig, yn enwedig yn y brifddinas-ranbarth, er mwyn ymestyn y ddealltwriaeth o brentisiaethau a'u manteision,' gan helpu i fynd i'r afael â bylchau o ran sgiliau. Adeg yr arolwg, roedd 95% o'r prentisiaid sylfaen, 93% o'r prentisiaid a 65% o'r prentisiaid uwch wrthi'n gwneud prentisiaeth mewn sectorau blaenoriaeth.

Mae hefyd yn amlygu'r ffordd y mae CAVC yn 'ymgysylltu'n dda â chyflogwyr newydd sy'n cynnig cyfleodd prentisiaeth, er mwyn diwallu eu hanghenion o ran recriwtio a hyfforddi' ac yn 'effeithiol iawn wrth sicrhau hyfforddiant prentisiaeth ar gyfer nifer o gyflogwyr blaenllaw', gan greu prentisiaethau arloesol, llwyddiannus a hynod boblogaidd mewn sectorau megis hedfanaeth, gwasanaethau ariannol a'r diwydiannau creadigol.

Un enghraifft o hyn yw'r cwmni gwasanaethau proffesiynol, Deloitte. Fel yr esboniodd Ross Flanigan, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Busnes ac Arweinydd Canolfan Gyflawni Caerdydd: "Pan oeddem yn agor ein Canolfan Gyflawni yng Nghaerdydd, gwnaethom weithio mewn partneriaeth â CAVC i ddylunio llwybr prentisiaeth, recriwtio ar ei gyfer a'i gyflwyno gan sicrhau ei fod yn cynnig rolau yn ein busnes ar gyfer pobl na fyddai wedi cael rôl mewn cwmni o'r fath fel arall. Mae wedi bod yn llwyddiant mawr, gyda rhai unigolion arbennig yn ymuno â'r busnes ac yn symud ymlaen i yrfaoedd gwerth chweil. 

"Mae'r cynllun yn cynnig opsiwn lleol a chynaliadwy er mwyn creu tîm amrywiol a thalentog. Mae tua 130 o bobl wedi ymuno â ni drwy'r brentisiaeth hon - y mwyafrif ohonyn nhw'n dal i fod gyda ni, a dull cydweithredol CAVC sydd wedi sicrhau llwyddiant y cynllun."

Ar lefel busnesau bach a chanolig, ceir sawl enghraifft o brentisiaethau'n chwarae rhan greiddiol wrth ddatblygu gweithluoedd arbenigol, tra medrus. Er enghraifft, cwmni aerdymheru Snap Services yng Nghaerdydd. Esboniodd y Cyfarwyddwyr, Peter Hopson a Nathan Kersley: "Fel peirianwyr prentis y dechreuodd y ddau ohonom ein gyrfaoedd ac yna dringo drwy'r rhengoedd gan ennill gwybodaeth a phrofiad gwerthfawr ar hyd y ffordd. Wrth ddatblygu ein busnes ein hunain, mae hyfforddiant drwy brentisiaeth yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod aelodau ein gweithlu yn weithwyr proffesiynol medrus yn y diwydiant, wrth ddatblygu talent newydd ac ehangu sgiliau ein staff yn barhaus."

Mae Estyn yn tynnu sylw at ansawdd uchel y ddarpariaeth prentisiaethau yn gyffredinol yn CAVC, gan gydnabod cyfraddau llwyddiant da, y pwyslais ar ddeilliannau dysgwyr a'r trefniadau sicrhau ansawdd sydd ar waith. Mae'n gwneud y sylw fod 'athrawon ac aseswyr yn ymarferwyr profiadol o'r diwydiant, sy'n gwneud defnydd helaeth o'u profiadau eu hunain er mwyn rhoi'r addysgu a dysgu mewn cyd-destun gweithle go iawn i'r dysgwyr'. Mae hefyd yn tynnu sylw at y cymorth sylweddol sydd ar gael o ran llesiant, cefnogaeth ac arweiniad. Fel rhan o hyn, roedd Estyn yn cydnabod y gefnogaeth gref i ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol fel ymarfer sy'n werth ei efelychu a'i rannu'n ehangach ar draws y sector. O ran y profiad cyffredinol hwn, mae cymaint â 95% o'r prentisiaid yn dweud eu bod yn mwynhau eu profiad dysgu.

Mae Estyn hefyd yn pwysleisio fod gan CAVC 'ymrwymiad cryf i ddysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau, ei fod yn cynnig cyfeiriad strategol clir o ran cyflawni ei gontract â Llywodraeth Cymru', a'i fod yn 'cynllunio ei arlwy yn llwyddiannus, mewn ffordd strategol a chydweithredol' gan sicrhau bod ei waith yn 'cyd-fynd â blaenoriaethau lleol a chenedlaethol'.

Dywedodd Sharon James-Evans, Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro: "Yn CAVC, ry'n ni'n deall grym prentisiaethau a'r effaith sylweddol maen nhw'n ei chael ar unigolion, cyflogwyr a'n heconomi. Gellir gweld hyn yn ein gwaith gydag ystod enfawr o gyflogwyr, gyda phob un ohonyn nhw'n gweld y budd i'w gweithlu a'u busnes. Ry'n ni'n falch iawn fod Estyn wedi cydnabod hyn ac yn ystyried bod y pwyslais a roddwn ar sicrhau bod prentisiaethau'n diwallu anghenion ein cymunedau a'n cyflogwyr yn arfer flaenllaw.

"Rydw i hefyd yn hynod falch fod ansawdd uchel ein hyfforddiant prentisiaethau wedi cael ei gydnabod. Y llynedd, roedd ein cyfraddau llwyddiant yr uchaf hyd yma, gyda chyfraddau llwyddiant Prentisiaethau a Phrentisiaethau Sylfaen bron i 9% yn uwch na'r cymharydd cenedlaethol, a gwnaethom weithio gyda mwy o gyflogwyr nag erioed. Mae'n braf gweld ymroddiad ein tîm yn CAVC ac ar draws ein rhwydwaith gwerthfawr o is-gontractwyr arbenigol, o ran y gefnogaeth i'n prentisiaid a chyflogwyr, yn cael ei gydnabod yn haeddiannol."