Mae defnydd arloesol Coleg Caerdydd a’r Fro o dechnoleg i greu profiadau dysgu cyfranogol a chynhwysol wedi golygu ei fod wedi cadw ei statws fel Coleg Arddangos Microsoft am y bumed flwyddyn yn olynol.
Coronwyd CAVC fel y Coleg Arddangos Microsoft cyntaf yng Nghymru yn 2018. Mae’r statws hwn yn dynodi bod y Coleg yn arloeswr yn sector Addysg Bellach Cymru a bod ganddo strategaeth ddigidol gadarn.
Mae statws Coleg Arddangos Microsoft hefyd yn adlewyrchu arbenigedd y staff ar draws y Coleg a'u sgiliau digidol uwch ym maes y technolegau addysgu a dysgu diweddaraf i gefnogi’r myfyrwyr. Mae defnyddio'r adnoddau, yr wybodaeth a’r technolegau diweddaraf yn helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer byd gwaith, sy'n golygu y gallant roi gwerth ar unwaith i unrhyw gyflogwr.
Mae gan CAVC gyfran helaeth o ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig yn ddigidol felly mae’n gweithio i gofleidio anghenion y dysgwyr hynny a chynnig y gwasanaeth mwyaf cynhwysol posibl yn ddigidol. Mae Office 365 ar gael i bob dysgwr yn y Coleg a gartref – gall y myfyrwyr lawrlwytho Office 365 i bump o’u dyfeisiau personol.
Defnyddir Microsoft HoloLens yn aml i ddarparu profiadau cyfranogol - fel modelau anatomeg rhithwir. Gall y dysgwyr gymryd rhan mewn sesiynau gemau digidol yn Makerspace CAVC i'w helpu i ddysgu sut i ddefnyddio meddalwedd labordy gemau Microsoft Kodu ac mae campws rhithwir CAVC yn cynnig cyfleoedd di-ri i’r staff a’r myfyrwyr archwilio cynnwys byd real mewn amgylchedd diogel, cyfranogol; er enghraifft, mae’r ddarpariaeth Gwyddorau Fforensig yn y Coleg wedi cael ei gwella drwy ddefnyddio lleoliadau troseddu rhithwir ar y campws.
Eleni, creodd athrawon dan hyfforddiant TAR y Coleg gofnodion fideo gan ddefnyddio avatars 3D, golygu yn offer golygu Fideo Microsoft a defnyddio Stream i'w rhannu gyda'u dosbarth. Mae tîm Technoleg Dysgu Uwch (TEL) CAVC yn gweithio gydag Academi’r darlledwr Jason Mohammad, sy’n rhoi cyfle i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau darlledu a phodledu ochr yn ochr â’u cwrs, ac mae clustffonau VR ar gael i’r staff eu hymgorffori yn eu haddysgu, gan roi mynediad i’r dysgwyr i ystod o apiau i helpu i ddatblygu sgiliau parod ar gyfer y dyfodol.
Profodd y dysgwyr Plymio a Gwresogi senarios realistig gan ddefnyddio efelychiadau VR ac AR, a phrofodd y myfyrwyr Gwasanaethau Cyhoeddus efelychiad o derfysg mewn carchar a senarios defnydd o darianau ac erlid ar droed, gyda’r nod o ddatblygu sgiliau plismona. Mae TEL hefyd yn cynnig amrywiaeth o glybiau gwirfoddol lle gall y dysgwyr ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i feithrin eu sgiliau digidol.
Mae tîm TEL yn ymchwilio ar hyn o bryd i AI a sut gellir ei weithredu ar draws cwricwlwm CAVC i alluogi’r dysgwyr i baratoi ar gyfer byd gwaith yn y dyfodol. Mae'r Coleg wedi ymrwymo i helpu ei ddysgwyr i baratoi ar gyfer swyddi a diwydiannau sy'n dod i'r amlwg nad ydynt yn bodoli ar hyn o bryd.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Rydyn ni wrth ein bodd bod Microsoft wedi parhau i gydnabod ein hymrwymiad ni i Ddysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg. Mae gennym ni strategaeth sgiliau digidol i ddarparu’n barhaus gyfleoedd a thechnoleg i staff a myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau digidol eu hunain ac mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud gyda Microsoft yn cefnogi’r ymrwymiad hwnnw.
“Mae hyn nid yn unig yn gwneud y profiad o weithio a dysgu gyda ni yn ddifyr, ond hefyd mae’n sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i addysgu a chefnogi ein dysgwyr. Office365 a phecynnau fel teams ac Outlook yw’r platfformau sy’n cael eu defnyddio fwyaf mewn busnesau ar draws y byd ac mae pob un o’r dysgwyr yn gadael y Coleg yn ddefnyddwyr hyderus o dechnoleg Microsoft, dim ots pa gwrs maen nhw wedi bod arno – ac fe fydd hynny’n ychwanegu gwerth ar unwaith i unrhyw gyflogwr.”