Diweddariad RAAC

14 Medi 2023

Diweddariad RAAC

Mae RAAC (Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth) yn bresennol mewn rhan fach ac ynysig o Gampws y Barri Coleg Caerdydd a’r Fro, fel nifer o adeiladau o oedran tebyg.

Mae’r Coleg wedi cymryd camau rhagweithiol i gau nifer fechan iawn o ystafelloedd ar Gampws y Barri i’r holl staff a dysgwyr fel mesur rhagofalus. Mae adolygiad gan beiriannydd strwythurol wedi canfod nad oes unrhyw arwydd o fethiant ac nid oes angen gweithredu ar frys. Er mwyn sicrhau Iechyd a Diogelwch holl staff a dysgwyr CAVC, mae mesurau rhagofalus pellach yn cael eu rhoi ar waith er mwyn parhau ag addysgu a dysgu’n ddiogel yn yr ystafelloedd hyn.