Tîm Teuluoedd yn Dysgu Gyda’u Gilydd CAVC yn ennill Gwobr fawreddog Inspire! mewn pryd ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion

17 Medi 2023

Wrth i ni ddechrau ar yr Wythnos Addysg Oedolion, mae’r tîm Teuluoedd yn Dysgu Gyda’u Gilydd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro wedi ennill Gwobr fawreddog Inspire! am yr effaith gadarnhaol y mae wedi’i chael ar gymunedau ar draws y Brifddinas-Ranbarth.

Mae Teuluoedd yn Dysgu Gyda’u Gilydd yn cynnig ystod eang o gyrsiau i oedolion, rhieni a gofalwyr mewn mwy nag 80 o ysgolion ledled Caerdydd a Bro Morgannwg ac mae wedi helpu miloedd o deuluoedd dros y blynyddoedd diwethaf.

Wedi’u cynllunio i helpu rhieni a gofalwyr i gefnogi dysgu eu plentyn, mae’r cyrsiau’n seiliedig ar weithgareddau ac yn rhoi’r adnoddau iddynt i ddatblygu eu dysgu eu hunain hefyd. Mae pob cwrs wedi’i deilwra i anghenion y grŵp teuluol ac yn cefnogi datblygiad Llythrennedd, Rhifedd, Cymraeg, Siarad a Gwrando, Gwyddoniaeth, Sgiliau Digidol a Saesneg fel Ail Iaith (ESOL).

I gydnabod ei waith anhygoel gyda theuluoedd ar draws Caerdydd a’r Fro, mae’r tîm Teuluoedd yn Dysgu Gyda’u Gilydd wedi ennill ‘Gwobr Hywel Francis am Effaith Gymunedol’ yng Ngwobrau Inspire! eleni. Cydlynir y gwobrau gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Mae pob cwrs sy’n cael ei gynnig gan Deuluoedd yn Dysgu Gyda'u Gilydd yn rhedeg am ddeg wythnos, gydag oddeutu tair awr o ddysgu bob wythnos, a chynhelir dosbarthiadau wyneb yn wyneb mewn ysgolion. Mae hyn yn galluogi meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda’r ysgol ac yn darparu rhaglen strwythuredig o ddysgu ar y cyd rhwng oedolion a phlant.

Dywedodd Pennaeth Ehangu Cyfranogiad CAVC, Wayne Carter: “Mae wedi bod yn brofiad gwylaidd iawn gwrando ar ddysgwyr yn rhannu straeon am yr effaith y mae dysgu wedi’i chael arnyn nhw, eu plant a’u teuluoedd.

“Yn ein sesiynau Teuluoedd yn Dysgu Gyda’u Gilydd, mae llawer o’r oedolion sy’n dysgu yn siarad am y gobaith maen nhw’n ei deimlo, yr ymdeimlad o berthyn maen nhw wedi’i ddarganfod, a’u cyffro am eu dyfodol. Mae’n wych bod yn rhan o rywbeth sy’n annog oedolion i fod yn falch o’u cyflawniadau a hefyd darparu dyfodol cadarnhaol i’w plant.”

Dechreuodd Claire Gurton a'i mab Mackenzie fynychu sesiynau Teuluoedd yn Dysgu Gyda'u Gilydd ychydig flynyddoedd yn ôl ar ôl i Claire orfod gadael ei swydd oherwydd problemau iechyd parhaus.

Meddai: “Roeddwn i bob amser yn meddwl na fyddwn i’n gallu gwneud yr un gweithgareddau â rhieni eraill. Nawr fy mod i'n gwybod fy mod i’n gallu gwneud hynny, rydw i'n llawer mwy hyderus ac annibynnol. Rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd ac wedi gwella fy sgiliau sylfaenol fy hun. Rydw i’n falch o’r hyn mae Mackenzie a minnau wedi gallu ei gyflawni.”

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Llongyfarchiadau i Deuluoedd yn Dysgu Gyda’u Gilydd CAVC am ennill y Wobr Inspire! – mae’n gwbl haeddiannol. Mae Teuluoedd yn Dysgu wedi gweithio gyda miloedd o deuluoedd dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i gynifer o bobl.

“Yn CAVC ein nod ni yw bod wrth galon y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ac mae’r gwaith gwych y mae Teuluoedd yn Dysgu Gyda’u Gilydd yn ei wneud yn ymgorffori’r ymrwymiad hwnnw. Da iawn i'r tîm! Rydyn ni i gyd yn falch iawn ohonoch chi.”

Rhwng mis Medi 2022 a mis Rhagfyr 2022, mae Teuluoedd yn Dysgu Gyda’u Gilydd wedi darparu 57 o gyrsiau mewn 46 o ysgolion ledled Caerdydd a’r Fro, gyda 435 o oedolion sy’n dysgu yn datblygu sgiliau newydd, 890 o blant ac oedolion wedi ymgysylltu ac ymateb boddhad y dysgwyr yn 100% yn gadarnhaol.

Yr Wythnos Addysg Oedolion yw’r dathliad mwyaf o ddysgu gydol oes yng Nghymru gyda mwy na 10,000 o oedolion yn cymryd rhan bob blwyddyn. Cydlynir yr ymgyrch gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.

Nod yr ymgyrch yw ysbrydoli mwy o bobl i ddarganfod angerdd dros ddysgu a datblygu sgiliau ar gyfer gwaith a thrwy gydol eu hoes. Bydd yr Wythnos Addysg Oedolion yn cyfeirio at gannoedd o gyrsiau, digwyddiadau, sesiynau blasu, dyddiau agored, ac adnoddau dysgu sydd am ddim ac yn hygyrch i bawb.