Blwyddyn arall o lwyddiant Safon Uwch a BTEC heb ei hail yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro

16 Awst 2023

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn dathlu blwyddyn arall heb ei hail o lwyddiant, gyda mwy o fyfyrwyr nag erioed o’r blaen yn cyflawni yn eu cymwysterau Uwch Gyfrannol, Safon Uwch a BTEC.

Yn y flwyddyn orau eto i’r Coleg, safodd bron i 600 o ddysgwyr eu cymwysterau Safon Uwch. Yn lleoliad poblogaidd i ddilyn cyrsiau Safon Uwch, mae dros 900 o ddysgwyr wedi astudio cyrsiau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch eleni mewn 40 o bynciau gwahanol, a’r rheini yn hynod amrywiol – gyda chyrsiau Celf a Gwareiddiad Clasurol, Busnes, Dawns, Saesneg, Ffrangeg, Mathemateg Bellach, Daearyddiaeth, Gwleidyddiaeth a'r Llywodraeth, Cerdd a Drama, Ffotograffiaeth ac Addysg Gorfforol i gyd yn ennill cyfraddau llwyddo o 100%.

Yn ogystal â hynny, dathlodd y Coleg lwyddiannau ei ddysgwyr BTEC, gyda 800 o ddysgwyr yn derbyn canlyniadau eu cymwysterau BTEC Lefel 3, sy’n gyfwerth â chymwysterau Safon Uwch, naill ai fel cymwysterau annibynnol neu ochr yn ochr â chymwysterau Safon Uwch.

Ac mae cannoedd o ddysgwyr wedi dathlu eu dilyniant, gyda dros 600 yn gwneud cais i fynd i’r brifysgol eleni, a channoedd mwy yn sicrhau llwybrau dilyniant eraill, gan gynnwys prentisiaethau uwch, cymwysterau proffesiynol a chyflogaeth.

Dywedodd Pennaeth CAVC, Sharon James: “Pleser o'r mwyaf yw dathlu ein dysgwyr ar Ddiwrnod Canlyniadau Safon Uwch a BTEC wrth i’r bobl ifanc hyn ddechrau ar bennod newydd yn eu bywydau. Da iawn bawb!

"Rydym yn falch iawn o'r holl ddysgwyr yn casglu eu canlyniadau heddiw. Mae eu llwyddiannau yn dyst o’u gwaith caled dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae staff y Coleg wedi gweithio’n ddiflino i gefnogi dysgwyr i gyflawni’r canlyniadau hyn. Gwych yw gweld cynifer yn manteisio ar y canlyniadau hyn, a’r sgiliau a’r profiadau ehangach maent wedi’u cael yn ystod eu cyfnod yn CAVC, i serennu a mynd ymlaen i’r prif brifysgolion a llwybrau dilyniant arbennig eraill, fel prentisiaethau uwch.”

Un dysgwr a wnaeth y gorau o'r hyn sydd ar gynnig gan CAVC yw myfyriwr Safon Uwch, Kallie Chappell. Ar ôl cyflawni A* mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig, A mewn Mathemateg a Ffiseg a B mewn Gwareiddiad Clasurol, y cam nesaf yw astudio Ffiseg Damcaniaethol ym Mhrifysgol Bryste.


Kallie Chappell

"Rwy'n hapus iawn gyda fy nghanlyniadau - rydw i ar ben fy nigon," meddai. “Roedd pawb yma yn gwneud i astudio ymddangos yn haws; roedd y staff a’r athrawon yn wych.”

Cofrestrodd Kallie i Raglen Ysgolheigion CAVC, sydd wedi'i chynllunio i gynnig cyfle i ddysgwyr ehangu eu profiad dysgu y tu hwnt i gwricwlwm traddodiadol Safon Uwch, a chynnig cymorth gydag ymgeisio i brifysgolion elitaidd a’r prif brifysgolion.

“Bûm yn rhan o'r Rhaglen Ysgolheigion sy’n rhaglen dda iawn,” meddai Kallie. “Mae’n gefnogol iawn a chewch flas ar sut beth yw astudio yn y brifysgol go iawn. Taniodd fy awydd i wneud hynny.

"Rwyf wir wedi cael amser da yn CAVC. Gadewais Ysgol Uwchradd Gymreig oherwydd y gallwn weld bod gan y Coleg ffordd wahanol o fynd o’i chwmpas hi. Ystyriodd yr athrawon sut oeddwn eisiau dysgu, yn hytrach na beth oedd angen i mi ei ddysgu.”

Fel un yn perthyn i’r genhedlaeth pandemig Covid-19, nid oedd gan Kallie unrhyw brofiad o sefyll arholiadau.

“Oherwydd Covid, doeddwn i erioed wedi sefyll arholiad – yr unig arholiad i mi erioed ei sefyll o’r blaen oedd TGAU Mathemateg, ond cefais gymorth i baratoi gan yr athrawon yma,” eglurodd Kallie.

“Rwyf wir yn dyheu am gael gweithio ym maes ymchwil Mater Tywyll – dyna pam y dewisais Brifysgol Bryste gan eu bod nhw’n ymchwilio i Fater Tywyll mewn ffordd wahanol. Cefais gynnig diamod oherwydd fel rhan o Raglen Ysgolheigion CAVC, dysgais am ysgolion haf ac felly mynychais rai ohonynt a bu hynny’n fuddiol.”

Derbyniodd Usman Aslam A* yn y Gyfraith, ac A mewn Llenyddiaeth Saesneg, Iaith Saesneg a Seicoleg. Y cam nesaf iddo ef yw astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Queen’s Belffast.


Usman Aslam

"Rwy'n falch iawn o fy nghanlyniadau,” meddai Usman. “Cefais amser da iawn yn y Coleg a hoffwn i sôn yn benodol am fy Nhiwtor Personol, Emma Williams – bu i’r syniad o adael y coleg groesi fy meddwl ond cefais gefnogaeth werthfawr ganddi. Wynebais ychydig o broblemau iechyd meddwl, ond buodd hi’n gefn mawr.

“Gweithiais hefyd fel Swyddog Sabothol yn ystod fy mlwyddyn gyntaf ac roedd hwnnw’n brofiad ychwanegol da.

“Yn y pendraw, hoffwn i gymhwyso’n dwrnai ac mae gen i fryd ar ddod yn gyfreithiwr. Mae'r Coleg wedi bod yn gymorth mawr ar hyd y daith.”

Mae CAVC hefyd yn cynnig cyfleoedd unigryw eraill ar gyfer yr holl fyfyrwyr ochr yn ochr â'u hastudiaethau, gan gynnwys academïau chwaraeon adnabyddus. Mae un o chwaraewyr yr Academi Rygbi, Lucas de la Rua, wedi cyflawni’n academaidd ac hefyd wedi cynrychioli Academi Rygbi CAVC. Daeth yr Academi yn fuddugol yng Nghwpan Colegau ac Ysgolion Undeb Rygbi Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae Lucas hefyd wedi chwarae i dîm dan 20 Cymru.

Cyflawnodd Lucas A mewn Mathemateg a Bioleg a B mewn Cemeg. Bydd yn cymryd blwyddyn allan i ganolbwyntio ar ei hyfforddiant rygbi.


Lucas de la Rua

“Rwy’n hapus iawn gyda fy nghanlyniadau, o ystyried yr holl hyfforddiant yr wyf wedi bod yn ei wneud ochr yn ochr ag astudio,” meddai Lucas.

“Mae’r Coleg wedi bod yn gymorth mawr. Un o’r prif resymau y dewisais ddod i Goleg Caerdydd a’r Fro oedd enw da yr Academi Rygbi. Mae’r rhaglen rygbi wir wedi bod yn gymorth, o ran cydbwyso fy nghyrsiau Safon Uwch gyda rygbi; ac roedd yr Academi yn deall fy ymrwymiadau i fy nghyrsiau Safon Uwch.”

Yn CAVC, caiff myfyrwyr eu hannog i gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau i wella eu hunain a rhoi hwb ychwanegol i'w cyflogadwyedd. Ymhlith y rhain mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’, WorldSkills.

Enillodd Karim Champenois dair gradd Rhagoriaeth mewn BTEC TGCh a Chyfrifiadura a bydd yn mynd ymlaen i Brentisiaeth Gradd gyda Bentley Motors.


Karim Champenois

"Rwy'n hapus iawn gyda fy nghanlyniadau. Rwy’n edrych ymlaen at gyfuniad o weithio yn Bentley ac astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion,” meddai Karim.

“Hoffwn i gamu i'r byd peirianneg meddalwedd neu seiberddiogelwch; byddaf yn gweithio fel datblygwr meddalwedd yn Bentley Motors.

“Does dim amheuaeth bod y Coleg wedi fy helpu. Rwyf wedi cael llwyth o gefnogaeth, nid yn unig gyda’r cwrs ond gyda'r cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd hefyd. A chyfleoedd arbennig fel cystadlu yng nghystadleuaeth WorldSkills.”

Derbyniodd Jade Francis A* mewn Gwleidyddiaeth a’r Llywodraeth, Mathemateg a Chymdeithaseg ac A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig. Bydd hi’n mynd i astudio Gwleidyddiaeth a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Warwig.


Ffrindiau – Jade Francis (chwith) a Kady Morgan a gafodd A* mewn Gwleidyddiaeth a Saesneg ac A mewn Ffilm. Bydd hi’n mynd i Brifysgol Bryste i astudio Ffilm a Theledu

“Rwyf wedi gwirioni gyda fy nghanlyniadau, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at fynd i astudio yn y brifysgol,” meddai Jade.

“Cefais hwyl yn y Coleg ac rwyf wedi mwynhau gwneud ffrindiau. Roedd y staff yn hynod gefnogol a gwnaethant fy helpu i archwilio’r pynciau sy’n fy niddori. Rwy’n cadw fy opsiynau yn agored o ran fy ngham nesaf oherwydd hoffwn gael blas ar sawl maes gwahanol yn y brifysgol.

“Does dim amheuaeth bod Coleg Caerdydd a'r Fro wedi fy helpu i gyflawni fy uchelgeisiau – roedd yr athrawon yn gefnogol tu hwnt. Pan gyrhaeddais y Coleg, doeddwn i ddim am astudio Cymdeithaseg, ond fe newidiodd hynny o’u herwydd nhw. Gwnaethant fy helpu i archwilio’r pwnc.”

Cafodd Alicia Amor, 17, A* mewn Llenyddiaeth Saesneg, A yn y Clasuron ac A mewn Seicoleg a bydd hi’n mynd ymlaen i astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Sheffield. “Dewisais astudio yn y Coleg oherwydd yr amrywiaeth o bynciau, fel y Clasuron a oedd yn apelio’n fawr i mi,” meddai Alicia. “Byddwn yn argymell y Coleg. Rwyf wirioneddol wedi mwynhau’r profiad o astudio pynciau y mae gennyf ddiddordeb mawr ynddynt a gwneud ffrindiau am oes drwy hynny”.

Dysgwr arall a ddewisodd bwnc yr oedd yn frwd drosto oedd Seb Thomas, 20, a astudiodd BTEC Chwaraeon gan lwyddo i ennill tair gradd Rhagoriaeth. Bydd ef nawr yn mynd i Brifysgol John Moores yn Lerpwl i astudio gradd mewn Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff.

“Rwyf wastad wedi mwynhau chwaraeon ac rwy’n awyddus i ddatblygu gyrfa yn y maes,” meddai Seb. “Mae mynychu’r Coleg wedi bod yn brofiad gwerth chweil ac mae Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd yn amgylchedd gwych i astudio ynddo. Does dim dwywaith y byddwn yn ei argymell. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at gael dechrau yn y brifysgol”.

Cymeradwyodd nifer o fyfyrwyr yr amgylchedd astudio a gynigir gan y Coleg a'r gefnogaeth a gawsant i gyflawni eu nodau.

Derbyniodd Griffin Doyle, 18, A* mewn Mathemateg, Mathemateg Bellach ac A mewn Ffiseg. “Rwyf ar ben fy nigon gyda fy nghanlyniadau,” meddai Griffin. “Mae astudio yma wedi bod yn brofiad gwych – rwyf wedi mwynhau'r rhyddid, y gefnogaeth a'r amgylchedd dysgu. Mae'n gwbl wahanol i’r ysgol uwchradd ac mae wedi bod o gymorth i mi gyflawni fy mhotensial”

Cafodd James Mates C mewn Ffotograffiaeth, Celf a Ffilm. Bydd ef yn mynd i astudio Ffilm a Chynhyrchu ym Mhrifysgol De Cymru.

“Rwyf wedi gwirioni – mae'r canlyniadau hyn wedi bod yn boen meddwl i mi!” meddai.

“Mae fy nhiwtoriaid wedi fy helpu i benderfynu ar fy ngham nesaf. I ddechrau, roeddwn am gamu i’r maes ffotograffiaeth ond gwnaethant ddangos i mi bod modd cyfuno ffotograffiaeth gyda gwneud ffilmiau, ac felly dyna'r bennod nesaf i mi. Gwnes i fwynhau fy amser yn y Coleg; teimlais yn nerfus i ddechrau ond mae'r Coleg wedi gwneud byd o ddaioni i fy hyder, ac rwyf wedi gwneud ffrindiau - profiad da iawn.

“Rwyf wrth fy modd. Rwyf am wneud fy ngorau glas yn y brifysgol!”