Bydd Coleg Caerdydd a’r Fro yn buddsoddi £100m yn nyfodol sgiliau Bro Morgannwg a phoblogaeth ehangach Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor y Fro a Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer dau gampws newydd i CAVC yn y Fro. Gall y prosiect symud ymlaen yn awr tuag at ddatblygu a chyflwyno Achos Busnes Llawn i weinidogion ei ystyried yn ystod y misoedd nesaf.
Yn amodol ar gymeradwyo Achos Busnes Llawn CAVC, byddai’r prosiect gwerth £100m hwn yn gweld dau gampws newydd – coleg Addysg Bellach (AB) cyffredinol hygyrch yng nghanol Glannau’r Barri gyda mynediad hwylus at drafnidiaeth gyhoeddus; a Chanolfan Technoleg Uwch arloesol ym Maes Awyr Caerdydd, gerllaw Canolfan Ryngwladol enwog CAVC ar gyfer Hyfforddiant Awyrofod (ICAT).
Bydd y Ganolfan Technoleg Uwch newydd yn cyflwyno cwricwlwm arloesol, gan baratoi dysgwyr ifanc ar gyfer byd gwaith y dyfodol ac uwchsgilio gweithwyr presennol sy’n oedolion mewn meysydd twf allweddol. Bydd y rhain yn cynnwys deallusrwydd artiffisial (AI), Cyfansoddion, Prototeipio Cyflym a gweithgynhyrchu, dylunio uwch, electroneg a dulliau newydd o ymdrin â thechnolegau adnewyddadwy Sero Net fel gwynt, tonnau, niwclear ac e-danwydd.
Bydd hefyd yn cefnogi'r diwydiannau sy'n cefnogi ac yn cael eu heffeithio gan y dechnoleg hon, gan gynnwys peirianneg, adeiladu, gwasanaethau adeiladu ac awyrofod - gydag ICAT yn parhau i fod yn ganolbwynt hyfforddi ar gyfer y diwydiant hwn.
Bydd y coleg AB cyffredinol yn Ardal Arloesi Glannau’r Barri yn cynnig ystod eang o gyrsiau galwedigaethol a chyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd i bobl ifanc ac oedolion.
Mae cynaliadwyedd yn ganolog i’r ddau gampws a’r rhain fydd y datblygiadau AB Carbon Sero Net newydd cyntaf yng Nghymru. Bydd CAVC yn symud nawr i'r cyfnod cynllunio cyn y gellir dechrau adeiladu'r campysau.
Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro, Mike James: “Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ein hymrwymiad i’r prosiect gwerth £100m yma mewn addysg a hyfforddiant ar gyfer Bro Morgannwg, a fydd ag arwyddocâd gwirioneddol i economi’r rhanbarth ehangach a thu hwnt.
“Bydd y Ganolfan Dechnoleg Uwch o bwysigrwydd rhanbarthol, gan ddarparu sgiliau lefel uchel a chefnogi parc busnes Bro Tathan, Maes Awyr Caerdydd a’r datblygiad ynni gwyrdd arfaethedig yn Aberddawan, ochr yn ochr â chyflogwyr o bob rhan o Gymru. Mae’n bleser mawr gen i ddweud ein bod yn cyflawni ein hymrwymiad i ddarparu amgylcheddau addysgu a dysgu o’r radd flaenaf i ddysgwyr a’r gymuned ym Mro Morgannwg.”
Dywedodd Aelod Seneddol Bro Morgannwg, Jane Hutt: “Diolch i bawb yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro am eu hymrwymiad i ddysgwyr ar gyfer hyfforddiant ac addysg ym Mro Morgannwg sydd wedi arwain at y cynlluniau ysbrydoledig yma i ddarparu cyfleusterau o safon byd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg.”
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae hwn yn gyhoeddiad cyffrous iawn sy’n cynrychioli tirnod arwyddocaol ar gyfer addysg yn y Fro ac yng Nghymru gyfan.
“Bydd y campysau newydd yma’n darparu cyfleusterau hynod fodern i ddysgwyr y Fro a’r sgiliau angenrheidiol i arwain y ffordd mewn nifer o feysydd cyffrous sy’n dod i’r amlwg.
“Rydyn ni’n falch y bydd datblygiadau blaengar o’r fath yn cael eu lleoli yn y Fro ac y bydd pwyslais ar gynaliadwyedd amgylcheddol a ffynonellau ynni amgen. Mae hyn yn cyd-fynd yn berffaith â nodau hirdymor y Cyngor a’n hymrwymiad Prosiect Sero i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.”