Mae dysgwyr Pobi, Patisserie a Melysion o Goleg Caerdydd a’r Fro wedi ennill casgliad o wobrau yng Nghystadlaethau Cynhadledd Flynyddol Cynghrair Myfyrwyr a Hyfforddeion Pobi (ABST) 2023.
Mae'r ABST wedi bod yn cefnogi myfyrwyr a hyfforddeion pobi ers 1925. Eleni cynhaliwyd ei Chynhadledd Flynyddol a’i Chystadlaethau yn Alton Towers, ac roedd dysgwyr CAVC ar dân, gan ddod â chasgliad trawiadol o dlysau a thystysgrifau adref.
• Enillodd Lucy Thomas a Maisy Fry y Tlws Her Buddugoliaeth i greu tŷ sinsir addurnedig, a enillodd yr Eitem Melysion Orau yn Gyffredinol hefyd
• Enillodd Eleri Jones Gwpan Renshaw am greu Cacen Ddathlu addurnedig
• Daeth Caitlyn Virgin a Lauren Wallis yn gyntaf ac yn ail yn y drefn honno mewn Peipio Byw, gan addurno pedair cacen fach gyda thema.
• Daeth Sophie Youde yn gyntaf mewn Modelu Marsipan Byw
• Daeth Ellie Griffiths yn ail am greu Cacen Nofelti Wedi’i Cherfio
• Daeth Zeynep Kayan yn ail yn y Wobr Arloesedd Bwyta'n Iach
Cafodd myfyrwyr CAVC ganmoliaeth uchel hefyd yn y cystadlaethau Cacen Briodas ac Arloesedd Bwyta'n Iach.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Llongyfarchiadau i’n dysgwyr Becws, Patisserie a Melysion ni ar y cyflawniad anhygoel yma! Roedd hwn yn gyfle gwych iddyn nhw arddangos eu doniau ac rydyn ni’n falch iawn ohonyn nhw i gyd – ac rydw i hefyd yn falch o’r staff sydd wedi eu cefnogi i gyrraedd y lefel yma.”