Ansawdd y ddarpariaeth Addysg Uwch yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro wedi'i gadarnhau gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch

20 Meh 2023

Mae ansawdd a safonau cyrsiau lefel prifysgol Coleg Caerdydd a’r Fro wedi’u cadarnhau gan adolygiad gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA).

CAVC oedd y coleg cyntaf yng Nghymru i gael y golau gwyrdd o Adolygiad Gateway gan y QAA, gan ei alluogi i gynnig a dyfarnu mwy o gyrsiau Addysg Uwch (AU) yn 2019. Ni wnaeth yr Adolygiad Gateway dilynol diweddar o Ddarpariaeth AU y Coleg unrhyw argymhellion ar gyfer datblygu neu wella.

Edrychodd tîm o adolygwyr y QAA ar dystiolaeth ddogfennol a chyfarfod ag ystod eang o staff a myfyrwyr y Coleg. Roeddent o’r farn bod y Coleg yn gallu dangos “tystiolaeth gadarn” gan ddangos cyrsiau wedi’u cynllunio’n dda sy’n darparu profiad academaidd o ansawdd uchel.

Canfuwyd hefyd bod y gefnogaeth academaidd a bugeiliol i ddysgwyr AU yn CAVC o ansawdd uchel, gan ganiatáu iddynt lwyddo mewn Addysg Uwch ac elwa ohoni.

Fel y coleg mwyaf yng Nghymru ac un o'r rhai mwyaf yn y DU, mae CAVC yn cynnig ystod eang o gyrsiau Addysg Uwch i gannoedd o bobl bob blwyddyn ac mae'n eu gweithredu mewn partneriaeth â phrifysgolion sy'n flaenllaw yn y pynciau. Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn 2022, sgoriodd CAVC 9% yn uwch na chyfartaledd y sector ar gyfer cefnogaeth academaidd a 12% yn uwch ar gyfer asesu ac adborth.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Rydyn ni wrth ein bodd bod Adolygiad Gateway diweddaraf y QAA wedi cadarnhau ein hymroddiad ni i ddarparu cyrsiau Addysg Uwch o safon yn CAVC. Mae'r Coleg yn cynnig ystod eang o gymwysterau mewn ystod eang o bynciau o HNC i TAR ac rydyn ni mewn sefyllfa dda i ddatblygu cyrsiau sy'n diwallu anghenion cyflogwyr yn y rhanbarth.

“Rydyn ni’n ymfalchïo yn y gefnogaeth eithriadol rydyn ni’n ei chynnig i’n myfyrwyr a’r agwedd bersonol at ein haddysgu, felly rydyn ni hefyd yn falch o nodi bod adolygwyr y QAA wedi sôn am ei hansawdd. Da iawn i bawb sy’n helpu i wneud AU yn CAVC yn brofiad mor dda fel nad oedd angen i’r QAA nodi unrhyw feysydd i’w datblygu neu eu gwella.”