Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cael ei ailachredu ar gyfer statws Arweinwyr mewn Amrywiaeth anrhydeddus, gan adlewyrchu’r gwaith sylweddol mae’n ei wneud i hyrwyddo Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynwysoldeb ac Ymgysylltu (FREDIE) o fewn y cymunedau mae’n eu gwasanaethu.
Nododd yr adroddiad ailachredu gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth bod gwaith y Coleg i hyrwyddo a meithrin cysylltiadau da ymhlith yr holl nodweddion gwarchodedig yn rhagorol. Rhoddodd enghraifft o weithgareddau cysylltiedig â FREDIE ar draws y Coleg ar gyfer dysgwyr a staff, y tiwtorial a’r hyfforddiant, gan gynnwys CCAF yn cynnal ei Iftar Cymunedol cyntaf i nodi wythnos olaf Ramadan, presenoldeb staff a myfyrwyr yn PRIDE, a hyfforddiant profiad byw ar gyfer gwrth-hiliaeth a thrawsffobia.
Tynnodd sylw hefyd at sut mae CCAF yn parhau i fod yn esiampl o arfer da, gan gyflawni gwaith rhagorol a hefyd ymdrechu bob amser i wneud mwy.
Nododd aseswr ei fod yn "ysbrydoledig siarad â'r tîm yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Mae eu hymrwymiad a'u brwdfrydedd i sicrhau’r ddarpariaeth o’r safon uchaf i ddysgwyr ac amgylchedd gwaith cadarnhaol a chefnogol lle mae cydweithwyr yn cael eu cefnogi i ddatblygu a ffynnu yn parhau i fod heb bylu dim”.
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynrychioli un o’r cymunedau mwyaf bywiog ac amrywiol yng Nghymru. Dyma hefyd y darparwr mwyaf ar gyrsiau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yng Nghymru, gan ei roi mewn sefyllfa dda i estyn allan at gymunedau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar draws y Brifddinas-Ranbarth a thu hwnt.
Prif Weithredwr Grŵp CCAF Mike James yw Cadeirydd Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Colegau Cymru ac yn 2022 daeth y Coleg y coleg cyntaf yng Nghymru i ddod yn aelod o’r Grŵp Arweinyddiaeth Pobl Dduon.
Hefyd, yn 2022, enillodd CCAF Wobr Beacon y DU gyfan Cymdeithas y Colegau (AoC) am ei waith arloesol i gofleidio cydraddoldeb a chynhwysiant, a Gwobr Llysgennad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant WorldSkills y DU.
Dywedodd Mike James: “Mae’n anrhydedd cael ein hailachredu ar gyfer statws Arweinwyr mewn Amrywiaeth.
“Fel y Coleg sy’n gwasanaethu un o’r cymunedau mwyaf amrywiol a bywiog yng Nghymru, rydyn ni’n hynod falch o’r canlyniad hwn. Mae’n golygu llawer i ni gan ein bod yn credu ein bod wrth galon y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu a bod yr holl fyfyrwyr a staff yn rhan o Deulu CCAF.
“Mae hyn yn dyst i’r bobl ar draws y Coleg sy’n gweithio mor galed i sicrhau bod CCAF yn defnyddio dull hollgynhwysol o reoli cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud ac fe hoffwn i ddiolch iddyn nhw i gyd am hynny.”