Coleg Caerdydd a'r Fro yn cyrraedd y pump olaf yng Ngwobrau Cylchgrawn PQ

2 Mai 2023

Coleg Caerdydd a'r Fro oedd yr unig goleg Addysg Bellach i gyrraedd rhestr fer Gwobrau Cylchgrawn PQ yng nghategori Coleg Cyhoeddus y Flwyddyn am ansawdd ei ddarpariaeth cyfrifeg.

Cylchgrawn PQ yw'r prif gyhoeddiad ar gyfer cyfrifwyr sydd wedi cymhwyso'n rhannol, ac mae'r rhestr fer yn adlewyrchu darpariaeth ansawdd CAVC o gyrsiau cyfrifeg AAT, gan gynnwys partneriaeth â'r darparwr dysgu ar-lein Mindful UK. Enillodd Mindful Dîm Cyfrifeg y Flwyddyn yn y gwobrau.

Mae'r Coleg wedi bod yn cyflwyno cyrsiau AAT ers 1990, ac mae 60+ o fyfyrwyr yn ennill eu cymwysterau bob blwyddyn. Mae CAVC yn cynnig cymwysterau cyfrifo a chadw llyfrau o lefelau 1 i 4 i fyfyrwyr o bob cefndir bob blwyddyn, gan gynnwys carfan fach o gyrsiau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) CAVC.

Yn 2018, enillodd Mike Webster, darlithydd Cyfrifeg, Wobr Cyflawniad Oes AAT.

Gall astudio AAT naill ai'n llawn amser neu'n rhan-amser yn CAVC alluogi pobl i gymhwyso fel cyfrifydd yn lle mynd i'r brifysgol. Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i weithio neu ymarfer yn y diwydiant gyda llawer yn mynd ymlaen i ennill cymwysterau lefel uwch gan rai o brif gyrff cyfrifeg y byd: ACCA, CIMA ac ICAEW. Mae rhai cyn-ddysgwyr hyd yn oed yn mynd ymlaen i sefydlu eu cwmnïau eu hunain.

Dywedodd Sharon James, Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro: "Llongyfarchiadau i dîm Cyfrifeg AAT am y llwyddiant anhygoel hwn! Mae cael eich rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Coleg Cyhoeddus y Flwyddyn yn ddigon o gyflawniad ynddo'i hun, ond mae bod yr unig goleg i gystadlu yn erbyn pedair prifysgol fawr wir yn dangos ansawdd y ddarpariaeth maen nhw'n ei gynnig i'n dysgwyr.”