Myfyrwyr Gofal Iechyd Cyflenwol Coleg Caerdydd a’r Fro yn hybu lles cleifion yn Ysbyty Athrofaol Cymru

24 Mai 2023

Mae myfyrwyr HND Lefel 5 Gofal Iechyd Cyflenwol gyda Statws Ymarferydd Coleg Caerdydd a'r Fro wedi bod yn defnyddio eu sgiliau therapi i helpu cleifion yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Nod y cymhwyster HND yw galluogi’r myfyrwyr i ddefnyddio eu therapïau ochr yn ochr â'r proffesiwn meddygol a gweithio gyda salwch. Mae'r myfyrwyr wedi bod yn mynychu’r wardiau Haematoleg a Chanser yr Arddegau yn Ysbyty Athrofaol Cymru unwaith yr wythnos i ddarparu triniaethau adweitheg lles i gleifion sy'n cael cemotherapi a thriniaethau canser eraill.

Dywedodd Abbie Day, dysgwraig ar y cwrs HND Gofal Iechyd Cyflenwol gyda Statws Ymarferydd: “Yn Ysbyty Athrofaol Cymru rydyn ni’n darparu triniaethau adweitheg yn y ward haematoleg ac yn y ward gofal lliniarol. Rydyn ni’n gallu mynd i mewn a hybu morâl yr holl gleifion ar y wardiau.

“Mae’r profiad gwaith yn bendant yn helpu ar gyfer y dyfodol – rydyn ni’n gallu ei roi ar ein CV fel profiad ac rydyn ni’n gallu cael blas ar yr hyn sy’n aros amdanom ni ar y tu allan pan ddaw ein cyrsiau ni i ben.”

Mae'r ymweliadau therapi wythnosol wedi helpu Abbie i benderfynu ar y llwybr gyrfa yr hoffai ei ddilyn.

“Ar ôl gorffen y cwrs fe hoffwn fynd i bractis clinigol mewn ysbyty a gweithio gyda gofal lliniarol diwedd oes a gobeithio gwella lles cleifion,” esboniodd.

“Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn sicr yn fy helpu i gyflawni fy uchelgeisiau. Mae gallu symud ymlaen o gwrs Lefel 3 hyd at Lefel 5 ar yr un campws wedi bod yn ddelfrydol – oni bai bod y Coleg yn cynnig y cwrs yma mae’n debyg na fyddwn i’n gwneud yr hyn ydw i heddiw.”

Dywedodd Arweinydd a Darlithydd HND Gofal Iechyd Cyflenwol CCAF, Catherine Palmer: “Rydyn ni wedi cael adborth gwych gan yr ysbyty ac maen nhw wedi cysylltu â mi yn ddiweddar i weld oes mwy y gallwn ni ei gynnig.”

Mae cynlluniau yn eu lle ar gyfer ystafell driniaeth barhaol yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar gyfer y myfyrwyr, ac ehangu'r ddarpariaeth i wardiau mewn ysbytai eraill.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Da iawn Catherine a’r dysgwyr HND. Nid yn unig maen nhw’n dysgu ar gyfer eu cymwysterau mewn sefyllfa sy’n real ac nid dim ond yn realistig, ond hefyd maen nhw’n darparu gwasanaeth lles gwerthfawr i bobl sy’n cael triniaethau canser.”