Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynnal Iftar Cymunedol am y tro cyntaf

17 Ebr 2023

Ar ddydd Llun 17 Ebrill, yn ystod wythnos olaf Ramadan, cynhaliodd Coleg Caerdydd a’r Fro (CAVC) ei ddigwyddiad Iftar cymunedol cyntaf erioed ar gyfer myfyrwyr a staff ar ei Gampws Canol y Ddinas.

Roedd y noson yn agored i bobl o bob ffydd a chefndir o fewn cymuned CAVC, p’un a oeddent yn dilyn arferion Ramadan ai peidio, i ddod i ddathlu’r rhan bwysig hon o grefydd pob Mwslim. Iftar yw enw’r pryd sy’n cael ei fwyta ar ôl torri ympryd yn ystod Ramadan, y mis pan mae Mwslemiaid yn ymprydio rhwng Fajr (gweddi gwawr haul) a Maghrib (gweddi machlud haul).

Roedd yr Iftar, a fynychwyd gan tua 150 o staff a myfyrwyr, yn cynnwys y cyfle i glywed gan y rhai a oedd yn ymprydio, gwrando ar gyflwyniadau gan staff ar arwyddocâd Ramadam a grym addysg, yn ogystal â chael profiad o’r Alwad i Weddi dan arweiniad dysgwr CAVC.

Torrodd y mynychwyr eu hympryd gyda dêts a dŵr, cyn mwynhau bwyd a ddarparwyd gan Eastern Cuisine Wales a thîm arlwyo’r Coleg.

Dywedodd Sharon James, Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro: “Yn CAVC rydym yn ymfalchïo mewn bod wrth galon y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi cynnal ein Iftar CAVC cyntaf.

“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cynhwysol, croesawgar i bawb weithio a dysgu gyda ni – ac mae achlysuron fel y rhain yn ein galluogi i gysylltu a dysgu mwy am ein gilydd.”

Mae lluniau o'r noson i’w gweld yma.