Mae myfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro wedi ennill 36 o fedalau gwych yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru – mwy nag y mae’r Coleg wedi’i ennill erioed o’r blaen a mwy nag unrhyw goleg unigol yng Nghymru.
Enillodd dysgwyr CAVC, gan gynnwys prentisiaid, y nifer uchaf erioed o 36 o fedalau – saith aur, 15 arian ac 14 efydd. Cymerodd mwy o fyfyrwyr ran yn y gystadleuaeth ar draws ystod o ddisgyblaethau nag erioed o'r blaen.
Roedd y cyfanswm yn cynnwys medalau tro cyntaf mewn amrywiaeth o gystadlaethau – Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Sgiliau Byw Cynhwysol ac Ynni Adnewyddadwy. Enillodd myfyrwyr CAVC fedal aur mewn Ailorffen Cerbydau, Atgyweirio Cyrff Cerbydau, Sgiliau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynhwysol, Sgiliau Bywyd Cynhwysol, Trin Gwallt Cynhwysol, a Thrin Gwallt.
Gwelwyd enillwyr hefyd yn y gystadleuaeth Sgiliau Cynhwysol ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol – cymerodd CAVC ran ym mhob categori ar wahân i Waith Coed a gwelwyd 13 o fyfyrwyr yn dod â medalau adref. Mewn Sgiliau Cynhwysol Trin Gwallt, enillodd y dysgwyr Casey West, Tineyah Ward a Cerys Bowen aur, arian ac efydd yn y drefn honno.
Bydd llawer o’r enillwyr yn mynd ymlaen nawr i gystadlu yn Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU, a gallent fod â siawns o gynrychioli’r DU yn Rowndiau Terfynol Rhyngwladol WorldSkills yn Lyon y flwyddyn nesaf.
Mae Asrar Alsharif ar gwrs Trin Gwallt Lefel 3 gyda'r Coleg. Enillodd y ferch 18 oed o Gaerdydd fedal aur mewn Trin Gwallt.
“Pan glywais i fy enw i'n cael ei ddarllen yn y seremoni wobrwyo, fe ges i sioc a syndod oherwydd roedd gwaith pawb yn anhygoel,” meddai Asrar. “Rydw i’n hynod falch ohono' i fy hun ac yn ddiolchgar i bawb sydd wedi fy nghefnogi i ac wedi credu yno i.”
Mae Asrar yn teimlo bod cymryd rhan mewn cystadleuaeth sgiliau fel Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a WorldSkills yn ychwanegiad gwerthfawr at ei chwrs yn CAVC.
“Rydw i’n teimlo’n fwy hyderus yn fy ngwaith nawr,” esboniodd Asrar. “Fe fyddwn i'n argymell cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau oherwydd rydw i’n teimlo y gall pawb elwa o hyn fel y gwnes i.”
Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro a Chynrychiolydd WorldSkills UK o Gymru, Mike James: “Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr ni ar flwyddyn arall o ganlyniadau rhagorol. Mae CAVC yn credu'n gryf ym mhwysigrwydd cystadlaethau sgiliau a'r rôl maen nhw'n ei chwarae wrth ddatblygu cyfresi sgiliau cadarn a chreu ffynhonnell o dalent y dyfodol a fydd yn ychwanegu gwerth ar unwaith i unrhyw gyflogwr.
“Fy nod i yw cael cymaint o aelodau o Gymru â phosibl yn Nhîm y DU yn WorldSkills Lyon 2024 ac mae’r ystod eang o dalent sydd i'w gweld ar draws Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn hynod addawol. Da iawn i bawb, yn staff a myfyrwyr, sydd wedi cymryd rhan.”