Mae grŵp Blwyddyn 3 myfyrwyr Peirianneg Awyrennau BEng Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cael llwyddiant ysgubol mewn un categori ac wedi dod yn ail mewn categori arall yng nghystadleuaeth Syniadau Disglair fawreddog Prifysgol Kingston.
Yn ystod y cyfnod cyn y rownd derfynol, roedd 233 o dimau i ddechrau, cyn eu cwtogi i 49 ar draws saith categori. Rhannodd grŵp CAVC yn ddau dîm mewn categorïau gwahanol.
Roedd Tîm 1 CAVC yn cystadlu yn y categori Gwella Cyfforddusrwydd Gorffwysfreichiau Awyrennau (CEAA) gyda'u dyluniad amgen ar gyfer gorffwysfreichiau seddi economi. Fe wnaethon nhw ennill gwobr Dewis y Bobl o £500, gwobr Enillwyr Cyffredinol Categori 1 Peirianneg o £1,000 am eu syniad disglair a gwobr Cyfryngau Cymdeithasol o £250 am eu cyflwyniad a’u fideo hyrwyddo.
Yn y cyfamser, bu Tîm 2 CAVC yn cystadlu yn y categori Generadur Pŵer Solar Ffenestri Awyrennau gan ennill yr Ail Wobr o £250.
Cynhaliwyd rowndiau terfynol y gystadleuaeth ym Mhrifysgol Kingston a chyhoeddwyd enwau’r enillwyr mewn seremoni rithwir a wyliwyd gan y dysgwyr gyda Phennaeth CAVC, Sharon James, ar Gampws Canol y Ddinas.
Roedd Charlie John yn rhan o’r tîm gorffwysfreichiau CEAA. Esboniodd fod ei dîm wedi dewis y categori hwnnw ar ôl cynnal arolwg o fyfyrwyr a staff ar gampws y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Hyfforddiant Awyrofod (ICAT) a daeth gorffwysfreichiau seddi economi cwmnïau hedfan i’r amlwg fel yr anghyfleustra mwyaf wrth hedfan.
“Cyn dechrau’r Gystadleuaeth Syniadau Disglair, doedd dim un aelod o’r tîm wedi gwneud cynnig mewn arddull busnes,” meddai Charlie. “Felly rydyn ni i gyd yn credu bod ein sgiliau cynnig syniad ni wedi gwella, sy’n golygu y bydden ni i gyd yn teimlo’n gyfforddus pe baen ni’n gwneud hynny eto.
“Mae’r sgiliau eraill rydyn ni i gyd wedi llwyddo i’w gwella yn cynnwys ein sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu. Er mwyn sicrhau bod pob agwedd ar y prosiect yn ddigon manwl roedd rhaid i ni gyd weithio ar y cyd. I Giuseppe a fi, fe wnaeth ein sgiliau arwain ni elwa o'r Gystadleuaeth Syniadau Disglair. Er hynny, wedi dweud hyn, mae lle i wella bob amser.”
Ychwanegodd Charlie nad oedd y tîm yn disgwyl buddugoliaeth ond eu bod wedi mwynhau'r profiad ac yn hapus i fod wedi cymryd rhan.
“Ar ddiwrnod y seremoni wobrwyo, roedden ni i gyd yn eistedd o gwmpas yn gwylio’n eiddgar i ddarganfod sut aeth hi,” meddai. “Ar y dechrau, fe gawson ni ein cyhoeddi fel enillwyr y wobr Cyfryngau Cymdeithasol a wnaeth i ni i gyd deimlo’n dda.
“Pan oedd enwau’r rhai oedd yn ail yn cael eu cyhoeddi roedd y tensiwn yn yr ystafell yn afreal. Pan na chafodd ein henw ni ei gyhoeddi, fe wnaethon ni deimlo ychydig bach o hyder ond roedden ni’n ansicr hefyd.
“Wedyn fe ddechreuwyd cyhoeddi enillwyr y Categorïau. Wrth i bob categori fynd heibio roedd y tensiwn yn gwaethygu. Pan ddaeth y sleid gyda’r Categori Peirianneg 1 i fyny ar y sgrin, fe aeth yr ystafell yn dawel.
“Pan wnaethon ni glywed ein henw a chael gwybod ein bod ni wedi ennill, fe ffrwydrodd yr ystafell. Fe lwyddodd un o’n darlithwyr ni oedd yn bresennol i gofnodi’r cyfan ac mae’n wych gwylio ein holl nerfusrwydd ni’n troi’n ddathlu mawr.
“Roedd yn teimlo mor swreal i ni ein bod ni wedi ennill. Unwaith y cyhoeddwyd gwobr Dewis y Bobl fe ffrwydrodd yr ystafell am yr eildro oherwydd doedden ni ddim yn gallu credu beth oedd yn digwydd!”
Dywedodd Pennaeth CAVC, Sharon James: “Llongyfarchiadau i’r ddau dîm a’r staff sydd wedi eu cefnogi nhw – am gamp anhygoel! Mae cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau fel hyn yn brofiad mor gyfoethog i’n myfyrwyr ni gan eu bod nhw’n rhoi hwb ychwanegol mawr ac yn sicrhau dealltwriaeth werthfawr o’u pwnc.”