Dathlu prentisiaid gorau’r rhanbarth yng Ngwobrau Prentisiaethau Coleg Caerdydd a’r Fro 2023

21 Chw 2023

Mae un ar hugain o’r prentisiaid gorau sy’n gweithio yng Nghymru wedi cael dathlu eu gwaith caled a’u hymroddiad yng Ngwobrau Prentisiaethau cyntaf Coleg Caerdydd a’r Fro i gael eu cynnal ar y campws ers dwy flynedd.


Cafodd cyflogwyr ac ymarferyddion sydd wedi mynd yr ail filltir yn eu hymrwymiad i ddysgu seiliedig ar waith eu cydnabod hefyd yn y seremoni, a gynhaliwyd yn amgylchedd ysblennydd Campws Canol y Ddinas Coleg Caerdydd a’r Fro gyda Ross Harries yn cyflwyno.


Mae Gwobrau Prentisiaethau CCAF, a gynhaliwyd yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, yn cydnabod cyflawniadau prentisiaid ar draws rhwydwaith CCAF o 21 o isgontractwyr prentisiaethau, gan hyfforddi mwy na 2,600 o ddysgwyr seiliedig ar waith ar draws 44 o lwybrau prentisiaeth. Mae rhestr lawn o'r enillwyr i’w gweld isod.


Yr isgontractwyr hynny yw: Bosch, Brothers Constantinou, Clwb Pêl Droed Dinas Caerdydd, Coleg QS Training, Focus On Training, JGR Group, JTL Training, KwikFit, More Training, NDGTA, Pengwin Training, PeoplePlus, Remit Training, Risual, Safe and Secure Training, Sgil Cymru, Skillnet, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Tydfil Training a WBTA.


Dywedodd Prif Weithredwr Coleg Caerdydd a’r Fro, Mike James: “Yng Grŵp CCAF – fel y darparwr prentisiaethau mwyaf yng Nghymru – rydyn ni’n credu’n angerddol ym mhŵer prentisiaethau.


“Drwy waith ACT a Choleg Caerdydd a’r Fro, ynghyd â’n rhwydwaith o isgontractwyr arbenigol, rydyn ni’n darparu hyfforddiant prentisiaeth o ansawdd uchel i bawb. Rydyn ni’n edrych yn barhaus ar anghenion ein rhanbarth ni, yn gwrando ar anghenion y diwydiant ac yn ymateb iddyn nhw, ac yn cynnig portffolio deinamig o brentisiaethau sy’n cael ei arwain gan alw. Ac rydyn ni’n ymdrechu i ddatblygu llwybrau a ffyrdd newydd o weithio i ddiwallu anghenion cyflogwyr a’n cymuned ni ymhellach – ac mae ein henillwyr ni’n brawf o hynny.”


Eleni roedd dau enillydd Gwobr Prentis y Flwyddyn Cyffredinol: dysgwr Prentisiaeth Lefel 2 mewn Cyrff Cerbydau a Phaent, Ieuan Morris-Brown, a phrentis Diploma Lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Joanne Satherley.


Hefyd yn enillydd y Wobr Prentisiaeth Uwch, rhagorodd Joanne wrth symud Dolen Gymunedol Duffryn ymlaen i ymestyn ei chyrhaeddiad fel Rheolwr Gweithredol. Roedd hyn ar adeg pan oedd Duffryn yn mynd drwy lawer o newidiadau yn fewnol ac yn allanol, yn enwedig gyda phandemig Covid.


Cyflawnodd Joanne hyn i gyd fel mam yn gweithio i dri o blant, gan gwrdd â holl ddyddiadau cau y brentisiaeth a chwblhau’r holl waith papur cysylltiedig. Bu hefyd yn helpu i yrru staff eraill ymlaen yn eu datblygiad personol eu hunain ac yn helpu i gyflwyno rhaglen DPP llawer gwell.


Gwnaeth argraff fawr iawn ar ymddiriedolwyr Duffryn ac o ganlyniad dyrchafwyd Joanne yn Brif Swyddog Gweithredol y llynedd – cyflawniad aruthrol a chyfle gyrfaol ardderchog.



“Rydw i’n ddiolchgar iawn ac rydw i’n falch iawn o fod wedi derbyn hwn,” meddai Joanne. “Mae wir yn golygu llawer.


“Mae’r brentisiaeth yma wedi bod yn werthfawr iawn i mi ac i fy ngyrfa i. Roeddwn i’n gyflogedig mewn rôl reoli am nifer o flynyddoedd, ond mae’r brentisiaeth yma wedi fy ngalluogi i symud ymlaen i lefel Prif Swyddog Gweithredol yn yr elusen rydw i’n gweithio iddi.


“O fy mhrofiad fy hun, ac o siarad ag eraill yn fy nosbarthiadau i, rydw i wedi gweld y gall y prentisiaethau yma fod yn opsiwn arall gwych yn lle prifysgol. Rydw i wedi eu gweld nhw’n helpu i feithrin hyder pobl, datblygu eu sgiliau a gwneud rhyfeddodau ar gyfer eu gyrfaoedd.”


Enillodd Ieuan Morris-Brown y Wobr Atgyweirio Cyrff Cerbydau hefyd.


Fe wnaeth Ieuan gynnydd aruthrol yn ystod ei brentisiaeth ac yn ystod ei gyfnod yn astudio yn CCAF. Mae wedi dangos ymrwymiad mawr i bob agwedd ar ei astudiaethau ac wedi profi bod ganddo allu ymarferol heb ei ail.


Ar ôl cystadlu yng ngemau rhagbrofol cenedlaethol WorldSkills y DU yn Hull, aeth Ieuan ymlaen i ennill aur yn rowndiau terfynol cenedlaethol Atgyweirio Cyrff Cerbydau WorldSkills a gynhaliwyd yn CCAF ym mis Tachwedd 2022. Mae bellach ar y rhestr fer ar gyfer lle yng ngharfan y DU a fydd yn cystadlu yn Rowndiau Terfynol Rhyngwladol WorldSkills yn Lyon, Ffrainc, yn 2024.



“Mae’n wych bod wedi ennill y gwobrau yma,” meddai Ieuan.


“Mae fy mhrentisiaeth i wedi fy helpu i symud ymlaen yn fy ngyrfa mewn atgyweirio cyrff cerbydau yn IRG yng Nghaerdydd. Mae wedi rhoi cyfle i mi ennill arian wrth ddysgu. Rydw i wedi mwynhau fy amser yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn fawr ac fe fyddwn i’n bendant yn argymell y llwybr yma.”


Enillodd y prentis Atgyweirio Cyrff Cerbydau Lefel 3, Omer Waheed, a Phrentis Busnes Lefel 2, Olivia Headley-Grant, wobrau Model Rôl am ddangos rhagoriaeth yn ystod eu prentisiaethau, gan ddangos cyflawniad ysbrydoledig.


Profodd uchelgais Olivia i wneud pethau’n well, yn gyflymach ac yn fwy effeithlon yn heintus yn ei thîm ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Ymunodd Olivia â thîm y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ym maes cynllunio strategol fel prentis yn ystod y pandemig ac mae wedi gwneud argraff ar bawb gyda’i gwaith ar ystod o brosiectau ar draws y GIG, awdurdodau lleol a’r trydydd sector i helpu i wella profiad pobl o ofal drwy wasanaethau cydgysylltiedig.


Cafodd gwaith gwych Olivia ei gydnabod pan gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2022.



“Mae fy mhrentisiaeth i wedi bod yn brofiad pleserus iawn,” dywedodd Olivia. “Mae gweithio a dysgu ar yr un pryd wedi bod o help mawr gyda fy hyder i ac wedi dyfnhau fy ngwybodaeth i.


“Mae wedi rhoi cymwysterau a mynediad i waith i mi. Ar ôl gweithio fel Cynorthwy-ydd Gweinyddol, rydw i bellach wedi symud ymlaen i fod yn Gynorthwy-ydd Gweithredol yn y GIG. Fe fyddwn i’n sicr yn argymell prentisiaeth yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro!”


Enillodd Thomas Lodge y Wobr Lletygarwch ac Arlwyo.


Yn Brentis Lefel 2 mewn Cynhyrchu Bwyd a Choginio, mae Thomas yn brentis brwdfrydig a fydd bob amser yn mynd yr ail filltir i ennill y profiad a'r wybodaeth sydd eu hangen i symud ymlaen yn y diwydiant. Mae wedi bod yn rhagweithiol wrth gyflwyno ei hun i haenau uwch byd y cogyddion profiadol ac, o ganlyniad, mae wedi mwynhau profiad gwaith yn The Savoy yn Llundain ac ym Mwyty River Gordon Ramsay.


Mae Thomas wedi cwblhau ei brentisiaeth yn ddiweddar ac mae bellach yn gweithio i sefydlu ei fwyty ei hun yn Padstow yng Nghernyw.



“Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i mi ddatblygu fy ngyrfa,” dywedodd Thomas. “Diolch i fy mhrentisiaeth i, rydw i wedi gallu coginio ar hyd a lled y wlad, gan weithio gyda Stephen Terry a Gordon Ramsey! Mae’r staff yma yn wych, maen nhw’n gefnogol iawn ac mae’r cyfleusterau’n anhygoel.


“Ar hyn o bryd rydw i’n gweithio fel ymgynghorydd yn y diwydiant lletygarwch wrth i mi ddechrau fy musnes fy hun. Y cam nesaf i mi ydi agor fy mwyty newydd yng Nghernyw yn nes ymlaen eleni.


“Fe fyddwn ni’n gweini bwyd stryd wedi’i ysbrydoli gan gourmet i bobl Padstow. Ar ôl hynny, rydw i’n gobeithio agor ail leoliad yma yng Nghymru. Rydw i'n gobeithio eich gweld chi yno!"


Enillodd prentis Lefel 3 mewn Plymio a Gwresogi Domestig, Hamza Zahid, y Wobr Plymio.


Yn brentis gweithgar a dibynadwy, mae Hamza bob amser yn barod i ddysgu ac ehangu ei wybodaeth. Gwnaeth gyfraniad mawr at glirio’r ôl-groniad yng Nghyngor Caerdydd o waith gosod rheiddiaduron a serenodd wrth basio ei gymhwyster, ar ôl rhagori wrth gwblhau’r gwaith a osodwyd ar ei gyfer yn y Coleg.


Mae Hamza yn cael ei adnabod fel prentis hoffus, poblogaidd ac uchel ei barch – ac enillodd Wobr Gwasanaethau Cwsmeriaid yn 2019 gyda Chyngor Caerdydd, sy’n dangos ansawdd ei ryngweithio â chwsmeriaid.



“Mae wedi bod yn wych cwrdd â chymaint o bobl newydd a datblygu fy sgiliau yma yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro,” dywedodd Hamza. “Mae wedi bod yn broses hynod fuddiol i mi ac rydw i’n edrych ymlaen at ddechrau ar fy ngyrfa newydd fel peiriannydd nwy.”


Enillodd Uwch Swyddog Addysg Academi Clwb Pêl Droed Dinas Caerdydd, Olivia Linton-Perry, a Thiwtor / Asesydd Tydfil Training, Phillip Hopkins, Wobrau Ymarferyddion Dysgu Seiliedig ar Waith am eu cefnogaeth ragorol i brentisiaid a chydweithwyr ac am y gwerth maent yn ei gyfrannu at eu sefydliadau.


Roedd cyflogwyr sy'n mynd yr ail filltir i annog a chefnogi prentisiaid yn cael eu cydnabod hefyd. Eleni enillodd Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, Undeb Myfyrwyr Caerdydd, Dow Chemical a’r grŵp o gyflogwyr sy’n cefnogi Prentisiaeth Ffilm a Theledu CRIW CCAF / Sgil Cymru Wobrau Cyflogwr y Flwyddyn.


Dywedodd Pennaeth CCAF, Sharon James: “Yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro rydyn ni’n hynod o falch o weithio gyda rhwydwaith dawnus o isgontractwyr arbenigol i gyflawni hyn i gyd.


“Mae pob un yn arbenigwyr yn eu meysydd, ac rydyn ni’n dod at ein gilydd i feddwl yn greadigol, cydweithio, a chwrdd ag anghenion prentisiaid, cyflogwyr a sectorau cyfan wrth iddyn nhw newid. Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i rannu arfer gorau a darparu prentisiaethau o’r ansawdd gorau i bawb.


“Mae’r cyflawniadau, y cyfraddau llwyddiant, y lefelau boddhad a’r galw cynyddol rydyn ni’n ei weld am brentisiaethau i gyd yn dangos eu bod nhw’n gweithio. Fel y mae’r llu o enillwyr gwobrau gwych rydyn ni wedi clywed amdanyn nhw heno.”


Dywedodd Pennaeth Grŵp CCAF, Kay Martin: “Mae’r gwobrau yma wir yn dangos beth yw pwrpas prentisiaethau – a’u bod nhw’n gweithio. Fe hoffwn i ddiolch yn fawr i bob un o’r prentisiaid gwych yma a’u llongyfarch, a hefyd y cyflogwyr sy’n buddsoddi cymaint yn eu staff a’r hyfforddwyr, yr aseswyr, yr athrawon a’r staff gweithgar ar draws ein rhwydwaith ni o isgontractwyr sydd wedi cefnogi’r prentisiaid yma.”


Photos yma


Categori

Enillydd

Cyflogwyd gan

Atgyweirio Cyrff Cerbydau

Ieuan Morris-Brown

IRG

Cerbydau Ysgafn Modurol

Dafydd Green

Ford Cas-gwent

Gweinyddu Busnes

Kara Humphries

A.F. Blakemore

Adeiladu

Lewis Mruk

CSW Process

Diwydiannau Creadigol

Jacob Page

ATA

Electrodechnegol

Harry Gough

Evans Electrical Ltd

Peirianneg

Gary Morgan

Dow Chemical

Gwasanaethau Ariannol

Ellese Clode

Yr AA

Trin Gwallt

Paris Davies

Blu Hair Design

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Anthony Roberts

Accomplish Group – Kington House

Lletygarwch ac Arlwyo

Thomas Lodge

Hunangyflogedig

TGCh

Sally Richardson

Celtic Manor

Newyddiaduraeth

Lauren Meredith

Tindle Newspapers

Rheolaeth

Catherine Docherty

Byddin yr Iachawdwriaeth

Plymio

Hamza Zahid

Cyngor Caerdydd

Oergelloedd ac Awyru

Ryan Davies

Emis Facilities Management

Chwaraeon

Joshua Ripon

Clwb Pêl Droed Dinas Caerdydd

Rheolaeth Gynaliadwy ar Adnoddau

Kadell Savage

Cyngor Caerdydd

Model Rôl

Omer Waheed

Davies Motor Company


Olivia Headley-Grant

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith

Olivia Linton-Perry

Academi Clwb Pêl Droed Dinas Caerdydd


Phillip Hopkins

Tydfil Training

Prentis Uwch

Joanne Satherley

Dolen Gymunedol Duffryn

Cyflogwr y Flwyddyn

Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria



Undeb Myfyrwyr Caerdydd



Dow Chemical



Cyflogwyr PrentisiaethCRIW


Prentis Cyffredinol y Flwyddyn

Ieuan Morris-Brown

IRG


Joanne Satherley

Dolen Gymunedol Duffryn