Mewn ffair yrfaoedd arbennig a gynhaliwyd yn ddiweddar, cafodd dysgwyr Coleg Caerdydd a’r Fro gyfle i archwilio’r uchelfannau y gellir eu cyrraedd trwy ddilyn gyrfa yn y diwydiant Awyrofod.
Cynhaliwyd y ffair ym mhrif adeilad awyrennau Canolfan Ryngwladol Hyfforddiant Awyrofod (ICAT) enwog y Coleg, lle bu 23 o gyflogwyr sy’n gysylltiedig â’r maes awyrofod yn siarad ag oddeutu 350 o ddysgwyr sy’n dilyn cyrsiau Peirianneg, Awyrofod a Chriw Caban yn y Coleg, er mwyn sôn am y cyfleoedd sydd ar gael. Roedd y cyflogwyr yn deillio o bob rhan o’r diwydiant ac roeddynt yn cynnwys BA, easyJet, Ryanair, ecube, Caerdav, AerFin, Space Forge, Swissport, Boeing a Belcan.
Medd Paul Nash, Rheolwr Cynnal a Chadw Canolfannau yn Caerdav: “Mae gweld cynifer o fyfyrwyr brwd ac uchelgeisiol wedi rhoi hwb ychwanegol i Caerdav er mwyn sicrhau y gallwn berswadio’r rhai gorau i ymuno â’n rhaglen brentisiaeth ar gyfer 2023.
“Mae staff ICAT wedi gwneud gwaith gwych o ran addysgu’r bobl ifanc hyn hyd at lefel eithriadol o dda, a byddem yn falch o gael eu tywys ymhellach ar eu siwrnai yn y diwydiant awyrennau.”
Yn ôl Lisa Hale, Rheolwr Prentisiaid Cynnal a Chadw Awyrennau yn Boeing: “Braint i Boeing oedd cael gwahoddiad i Ffair Yrfaoedd CAVC i hyrwyddo cyfleuster ein darparwr hyfforddiant gwych ac i annog y bobl ifanc sy’n astudio pynciau awyrofod i ystyried prentisiaeth fel dewis ymarferol. Bu’r digwyddiad yn llwyddiant ysgubol – cafodd partneriaid sy’n rhan o’r diwydiant gyfle i ddod ynghyd a thrafod y prinder sgiliau sydd yn y diwydiant, yn ogystal â thynnu sylw myfyrwyr CAVC at y llwybrau gwych y gallwn eu cynnig i’r diwydiant.”
Medd Liz Cridland, Rheolwr Adnoddau Dynol yn AerFin: “Bu’n gyfle anhygoel, nid yn unig o ran gweld cyfleusterau ICAT ond hefyd o ran cael siarad ag amryw byd o fyfyrwyr sy’n danbaid dros y diwydiant awyrennau.”
Yn ôl Sharon James, Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro: “Yn CAVC, dydyn ni ddim eisiau bod yn ‘ffatri cymwysterau’ sy’n cynhyrchu pobl â’r darnau papur priodol ond heb unrhyw syniad sut le yw’r byd gwaith. Gwell gennym fod yn ‘beiriant sgiliau’, gan gynhyrchu pobl fedrus a chyflogadwy sy’n meddu ar y blaengarwch a’r dalent entrepreneuraidd a all ychwanegu gwerth yn syth at unrhyw gyflogwr.
“Dyna pam rydym yn gweithio gyda miloedd o gyflogwyr bach a mawr er mwyn sicrhau bod yr hyn a gynigiwn yn berthnasol i anghenion y farchnad lafur, yn awr ac yn y dyfodol. Mae cynnal digwyddiadau fel y ffair yrfaoedd yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr ymgysylltu ag amrywiaeth o gyflogwyr pwysig yn eu dewis ddiwydiant, gan gynnig cyfleoedd gwirioneddol iddynt gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd.”