Coroni prentisiaid o Goleg Caerdydd a’r Fro, Duncan a Nathan, fel y goreuon yn eu crefft yng Nghymru

3 Chw 2023

Wrth i ni ddechrau ar yr Wythnos Prentisiaethau, mae Duncan Kinnaird a Nathan Kelly, dau brentis sy’n astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, wedi’u henwi fel y rhai gorau yn eu crefft yn y wlad.

Enillodd Duncan, prentis Gosodiadau Trydanol, rownd Cymru Dysgwr y Flwyddyn Sparks, ac enillodd Nathan, prentis Gwresogi ac Awyru, rownd Cymru Dysgwr y Flwyddyn Plymio HIP. Enillodd y ddau arian parod a chit gwaith i'w helpu yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol a byddant nawr yn mynd ymlaen i gystadlu yn rowndiau terfynol cenedlaethol y DU yn ddiweddarach eleni.

“Mae’n teimlo’n dda fy mod i wedi ennill,” meddai Duncan, sy’n 20 oed ac yn dod o Gaerdydd. “Rydw i’n hapus iawn gyda’r gwaith wnes i ei gynhyrchu ac rydw i’n teimlo fy mod i wedi dysgu sgiliau rheoli amser gwych drwy gystadlu.

“Roeddwn i braidd yn nerfus ar y dechrau, ond ar ôl yr awr gyntaf roedd yn teimlo fel diwrnod arferol.

“Rydw i’n edrych ymlaen at gwrdd â’r cystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol ac yn gobeithio y gallaf wneud yn dda yn y fan honno hefyd. Er hynny, fe fydd yn anodd cadw fy nerfau dan reolaeth wrth gystadlu yn erbyn prentisiaid da iawn eraill.”

Dywedodd Nathan, 23 oed ac o Gaerdydd: “Mae’n teimlo’n dda iawn ac rydw i’n teimlo ei bod hi’n fraint cael ennill y wobr yma. Roedd cymryd rhan yn brofiad da – fe wnes i deimlo llawer o bwysau oherwydd rydych chi a'ch sgiliau’n cael eu dangos i bawb.

“Rydw i’n edrych ymlaen at y rowndiau terfynol. Rydw i’n gobeithio y gallaf wneud cystal yn y gystadleuaeth honno hefyd."

Mae Nathan yn cael ei gyflogi gan CMB Engineering ac yn mwynhau ei brentisiaeth.

“Rydw i’n mwynhau fy mhrentisiaeth yn fawr,” meddai. “Dyma fy ail dro i yn y Coleg yn gwneud cwrs gwahanol felly mae hynny’n dangos cymaint rydw i’n ei werthfawrogi.

“Rydw i’n mwynhau’r dysgu a’r datblygiad cyson.”

Yn cael ei gyflogi gan Amberwell, mae Duncan hefyd yn gwerthfawrogi ei brentisiaeth yn CCAF.

“Rydw i wir yn mwynhau fy amser yn CCAF,” meddai Duncan. “Rydw i’n mwynhau dysgu am y theori ac agweddau mewnol fy ngwaith i. Mae'r bobl rydw i’n gweithio gyda nhw yn barod iawn i helpu ac yn gefnogol iawn.

“Fy hoff beth i am wneud prentisiaeth Gosodiadau Trydan yw’r holl bobl rydych chi’n cwrdd â nhw y tu mewn a’r tu allan i’r gwaith a sut maen nhw’n eich helpu chi i ddatblygu ymhellach mewn bywyd a chyflawni nodau yn nes ymlaen. Fe fyddan nhw hefyd yn ffrindiau oes.”

Mae Duncan a Nathan yn credu bod cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau fel Dysgwr y Flwyddyn HIP a Sparks wedi bod yn ychwanegiad gwerthfawr at eu siwrnai fel dysgwyr yn CCAF.

“Rydw i’n bendant yn meddwl y bydd cymryd rhan yn y cystadlaethau yma’n fy helpu i i ddatblygu fy sgiliau, yn enwedig fy sgiliau rheoli amser,” dywedodd Duncan. “Fe fydd yn fy ngalluogi i i weithio i amser penodol yn ogystal â chadw’r gwaith o safon uchel.

“O hyn, rydw i hefyd wedi dysgu bod ansawdd y gwaith sy’n cael ei gynhyrchu’n bwysicach na faint sy’n cael ei gynhyrchu. Bydd hyn yn fy helpu i tuag at fy AM2 pan fyddaf yn barod i’w gwblhau.”

“Fe ddylai mwy o bobl geisio cymryd rhan yn y cystadlaethau yma gan ei fod yn eich helpu chi i weithio dan bwysau a chael eich cydnabod o fewn y diwydiant,” ychwanegodd Nathan.

Unwaith y bydd wedi cwblhau ei brentisiaeth, mae Duncan yn gobeithio symud i Awstralia un diwrnod a sefydlu ei fusnes ei hun yno.

“Mae CCAF wir wedi fy helpu i i gyflawni fy nodau,” meddai. “Mae'r athrawon - yn enwedig Geoff Shaw - wedi fy helpu i'n fawr; maen nhw bob amser yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gen i yn ogystal â fy llongyfarch i ar fy holl gyflawniadau.

“Fe hoffwn i ddiolch hefyd i Amberwell am fy nerbyn i fel prentis a dysgu rhywbeth newydd i mi bob dydd y gallaf ei gynnwys yn fy mywyd yn y dyfodol.”

Yn y pen draw, mae Nathan yn gobeithio mynd i faes rheolaeth ac efallai symud ymlaen i brentisiaeth Lefel 4.

“Mae digon o gyfleoedd i bobl yn CCAF i bawb gyrraedd lle maen nhw eisiau bod,” meddai.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Llongyfarchiadau i Duncan a Nathan – rydyn ni i gyd yn falch iawn ohonoch chi!

“Mae ennill rowndiau Cymru yng nghystadlaethau mawreddog Dysgwr y Flwyddyn HIP a Sparks yn gyflawniad enfawr a dymunwn bob lwc iddyn nhw yn y rowndiau terfynol. Da iawn Duncan a Nathan, a da iawn i diwtoriaid yr Adran Gwasanaethau Adeiladu am eu cefnogi i gyrraedd safonau mor uchel.”