Gyrfa newydd yn y Flwyddyn Newydd gyda chyrsiau unigryw i oedolion yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro

22 Rhag 2023

Awydd dechrau newydd? Eisiau symud ymlaen neu newid gyrfa yn y Flwyddyn Newydd? Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynnig amrywiaeth enfawr o gyrsiau i oedolion sy’n dechrau o fis Ionawr 2024 – ac mae llawer ohonynt am ddim neu â ffioedd isel.

Mae ystod eang o gyrsiau i ddatblygu eich sgiliau i dyfu neu newid eich gyrfa, gan gynnwys cymwysterau proffesiynol poblogaidd, gyda’r ffi’n cael ei dileu ar gyfer llawer o oedolion sy’n gweithio. Mae'r cyrsiau hefyd wedi'u cynllunio ar gyfer oedolion fel eich bod yn gallu ffitio’r dysgu o amgylch eich oriau gwaith, bywyd teuluol neu ymrwymiadau eraill.

Roedd Kyriacos Kanias yn farbwr wrth ei grefft, ond ar ôl 25 mlynedd roedd ffansi newid gyrfa.

“Rydw i wedi cael llawer o broblemau iechyd ac rydw i wedi bod yn cael trafferth gyda’r swydd felly roeddwn i eisiau astudio a newid gyrfa,” esboniodd. “Yn 50 oed fe benderfynais i fynd yn ôl i ddysgu ac mae wedi bod yn wych!”

Ar ôl cael rhywfaint o brofiad blaenorol o TG, dewisodd Kyriacos radd BSc CCAF mewn Seibrddiogelwch, gan raddio yn yr haf.

“Mae wedi bod yn gyffrous ac rydw i wedi mwynhau pob munud ohono,” meddai Kyriacos. “Roedd yn wych ac rydw i’n mynd i golli dod yma. Rydw i hyd yn oed yn mynd i golli'r pwysau ychydig, oherwydd fe wnes i fwynhau cymaint! Rydw i mewn sefyllfa nawr lle gallaf chwilio am gyflogaeth mewn llwybr gyrfa newydd.

“Mae’r Coleg yn bendant wedi fy helpu i gyflawni fy uchelgeisiau. Fe fyddwn i’n dweud wrth unrhyw un sy’n dymuno gwneud cwrs fel hwn i ddod yma – mae’r dosbarthiadau’n fach ac felly rydych chi’n cael hyfforddiant un i un bron ac yn y rhan fwyaf o brifysgolion dydw i ddim yn meddwl bod hynny’n bosibl.”

Mae cyrsiau Mynediad ar gael hefyd ar gyfer symud ymlaen i brifysgol, Cyrsiau Addysg Sylfaenol i Oedolion ar gyfer y rhai sy'n dymuno datblygu eu sgiliau a chyrsiau byr i bobl ddatblygu diddordeb.

Roedd Kath Fraser yn gweithio fel Asesydd NVQ yn y Diwydiant Gwastraff ond roedd yn chwilio am gyflogaeth fwy diogel. Roedd hi wedi hoffi tryciau erioed ac roedd cael trwydded HGV bob amser wedi bod ar ei rhestr bwced.

Mae CCAF yn cynnig ystod eang o gyrsiau am ddim i oedolion cyflogedig o dan y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol (PLA) a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cyrsiau’n cynnig cymwysterau proffesiynol mewn sectorau sy’n tyfu yn y rhanbarth ac y mae cyflogwyr lleol yn chwilio amdanynt.

“Fe wnes i astudio’r cwrs PLA HGV Dosbarth 1 gyda Choleg Caerdydd a’r Fro a Road to Logistics,” meddai. “Roedd trwydded Dosbarth 1 yn rhywbeth roeddwn i ei eisiau erioed - roedd un neu ddau o fy nghydweithwyr i eisoes wedi ei chael.”

Yn anffodus, tua'r amser y gwnaeth Kath gais, cafodd ddiagnosis o ganser y fron. Fodd bynnag, roedd natur hyblyg y cwrs yn golygu bod posib gweithio o amgylch ei hamserlen brysur gan na allai fforddio rhoi'r gorau i weithio.

“Fe wnes i fwynhau astudio’r cwrs oherwydd roeddwn i’n mynd trwy driniaeth canser y fron ac roeddwn i’n gweithio’n llawn amser hefyd,” esboniodd Kath. “Roeddwn i’n gallu ei ffitio o amgylch y triniaethau, bywyd personol a bywyd gwaith.”

Bu triniaeth Kath yn llwyddiannus, ac mae hi bellach yn gweithio i Gyngor Caerdydd.

“Rydw i’n cael y cyfle i fynd allan i yrru lori,” meddai Kath. “Rydw i’n gallu mynd allan i’r cerbydau gwastraff ac rydw i’n codi’r gwastraff i Gyngor Caerdydd – mae’n wych.

“Fe fyddwn i yn bendant yn argymell cwrs PLA o Goleg Caerdydd a’r Fro i ffrindiau neu deulu oherwydd mae ymgeisio yn hawdd ac fe all ffitio o amgylch eich ffordd o fyw. Fe wnaeth e weithio i mi.”

Am restr lawn o gyrsiau i oedolion neu i wneud cais ewch i: https://cavc.ac.uk/coursesforadults

Mae ceisiadau ar gyfer pob cwrs ar-lein yn https://cavc.ac.uk/coursesforadults. Mae CCAF hefyd yn cynnal Sesiwn Galw Heibio’r Cyrsiau i Oedolion ddydd Mercher 17eg Ionawr, 4.00pm-7.00pm ar Gampws Canol y Ddinas i oedolion sgwrsio ag athrawon neu ddarganfod a ydynt yn gymwys i ddysgu am ddim.


Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Rydyn ni’n falch o fod yn cynnig ystod mor eang o gyrsiau i oedolion o ddechrau 2024. Bob blwyddyn mae miloedd o oedolion yn dysgu gyda ni i ennill cymwysterau proffesiynol i symud ymlaen neu newid gyrfa – ac rydyn ni’n gweld yr effaith y gall hynny ei chael.

“Rydyn ni’n cynnig cyrsiau sy’n darparu’r sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen ar gyflogwyr. Mae rhai o'n rhaglenni hyfforddi ni yn unigryw hefyd, ac mae ein gwaith ni gyda chyflogwyr yn cefnogi pobl i mewn i swyddi sydd eu hangen ac y maen nhw eu heisiau. Mae gennym ni hefyd nifer fawr o oedolion sy'n ymuno â ni i ddatblygu eu sgiliau ar gyfer gwaith, bywyd a chefnogi eu teuluoedd.

“Gyda chyllid ar gael o hyd i’n galluogi ni i gynnig y cyrsiau hyn am ddim neu am ffioedd is i lawer, nawr yw’r amser i ddysgu gyda Choleg Caerdydd a’r Fro.”