Mae Pennaeth Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin MBE, yn ymddeol ar ddiwedd 2023, ar ôl mwy na 40 mlynedd o wasanaeth i addysg yn Ne Cymru.
Fel un o'r arweinwyr addysg mwyaf dylanwadol yn y wlad, mae Kay yn ymddeol fel Pennaeth Grŵp y pumed grŵp colegau mwyaf yn y DU a'r mwyaf yng Nghymru.
Yn ystod ei chyfnod fel Pennaeth ac wedyn Pennaeth Grŵp, mae Grŵp Colegau Caerdydd a’r Fro wedi dod yn un o'r colegau mwyaf a mwyaf llwyddiannus yn y DU. Ennill gwobrau cenedlaethol mawreddog, cynyddu cyfraddau llwyddiant myfyrwyr i fod ymhlith y gorau yn y sector, sefydlu dulliau unigryw a thrawsnewidiol o ddysgu, a chefnogi twf busnes arloesol; y cyfan wrth weithio mewn rhanbarth gyda'r dirwedd fwyaf amrywiol yn y wlad.
Ar ôl chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o greu Coleg Caerdydd a’r Fro, mae Kay wedi bod ar flaen y gad wrth i’r coleg wynebu twf nodedig ar draws ei ddarpariaeth, a niferoedd y myfyrwyr o ganlyniad. Mae'r degawd diwethaf hefyd wedi cynnwys newid enfawr a chadarnhaol gyda datblygiad campysau newydd sbon nodedig ledled Caerdydd a nawr y Fro, a sefydlu ardaloedd darparu blaenllaw newydd, y cyfan gan sicrhau addysgu a dysgu o ansawdd uchel yn gyson, gydag arolygiadau cadarnhaol ar draws ei ddarpariaeth.
Yn sgîl datblygu Grŵp CAVC, gyda darparwyr hyfforddiant enwog fel ACT Training ac ALS yn ymuno â CAVC i ffurfio'r darparwr prentisiaethau mwyaf yng Nghymru, gwelwyd Kay yn symud i fod yn Bennaeth y Grŵp, gan oruchwylio'r cwricwlwm ac ansawdd y ddarpariaeth yn gyffredinol.
Mae Kay wedi chwarae rhan hynod ddylanwadol wrth drawsnewid addysg a hyfforddiant ar draws prifddinas ranbarth Cymru sy'n rhychwantu Addysg Bellach, Addysg Uwch, Dysgu Seiliedig ar Waith, Dysgu Oedolion a Chymunedol ac Addysg Uwchradd, a dyfarnwyd MBE iddi am wasanaethau i addysg yng Nghymru ar Restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines ym mis Mehefin 2022.
Fel aelod bwrdd dylanwadol, mae dyletswyddau Kay wedi cynnwys bod yn Gadeirydd ar Grŵp Cwricwlwm ac Ansawdd Colegau Cymru; llywodraethwr ar ddwy o ysgolion uwchradd y rhanbarth; ac aelod o Fwrdd Arweinyddiaeth Busnes yn y Gymuned Cymru a Bwrdd Sefydliad Cymunedol Rygbi Caerdydd, ochr yn ochr â gwaith gyda Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cefnogi ysgolion a cholegau drwy'r pandemig.
Yn enedigol o Aberdâr, astudiodd Kay gwrs Rheoli Lletygarwch cyn cymhwyso fel athrawes a chael swydd yng Ngholeg Aberdâr lle daeth yn Bennaeth Cynorthwyol yn y pen draw. Yn eiriolwr dros ddysgu gydol oes, cwblhaodd Kay MSc mewn Rheoli Addysg ac ymunodd â Choleg y Barri fel Is Bennaeth yn 2003, wedyn Pennaeth Dros Dro yn ddiweddarach. Yn y rôl hon, roedd Kay yn allweddol wrth i Goleg y Barri a Choleg Glan Hafren uno, gan arwain at greu Coleg Caerdydd a’r Fro, lle cafodd ei phenodi'n Bennaeth.
Dywedodd Cadeirydd Llywodraethwyr CAVC, Geraint Evans: “Rydw i wedi gweithio’n agos gyda Kay ers iddi ymuno â Choleg y Barri fel Is Bennaeth yn 2003. Yn ystod yr amser hwnnw, rydw i wedi gweld ei gwaith caled, ei gwir ffocws ar y dysgwyr a’i hymrwymiad i addysg yn y rhanbarth.
“Mae Kay wedi chwarae rhan ganolog yn natblygiad CAVC i fod y pumed grŵp colegau mwyaf yn y DU, sydd wedi ennill gwobrau nifereus ac sy’n cyfrannu hanner biliwn o bunnoedd at economi prifddinas ranbarth Caerdydd a mwy na £1bn i gymdeithas. Ac mae ei gwaith yn y gymuned yn dyst pellach i wasanaeth Kay i’r rhanbarth.
“Diolch yn fawr Kay am bopeth rydych chi wedi'i wneud ar ran y Coleg a'r gymuned ehangach. Dymunwn ymddeoliad hir a hapus i chi.”
Mewn cyfnod o bontio, i sicrhau addysgu a dysgu cyson o ansawdd uchel ar draws yr holl ddarpariaeth, mae addysgwr ac arweinydd profiadol, Sharon James-Evans, wedi’i phenodi ac mae wedi gweithio fel pennaeth CAVC yn ystod y 18 mis diwethaf.