Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi symud o’r 7fed i’r 3ydd safle ymhlith 100 Uchaf Mynegai Cyflogwyr Mwyaf Cynhwysol nodedig y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth.
Mae'r cyflawniad yn adlewyrchu'r gwaith sy'n cael ei wneud ar draws y Coleg i ymgorffori Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE). Y Coleg yw’r unig sefydliad Addysg Bellach (AB) yng Nghymru sydd yn y 10 Uchaf a chafodd ei ailachredu ar gyfer statws Arweinwyr mewn Amrywiaeth gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth ym mis Mai eleni.
Mae CAVC wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, gan arwain ar brosiect i ddatblygu modiwlau cwricwlwm gwrth-hiliaeth yn y sector AB. Mae’r cwricwlwm ar ffurf metafyd, gan ddarparu profiad dysgu hygyrch a chyfranogol sydd wedi cael ei ddatblygu a’i lunio mewn cydweithrediad ag arbenigwyr lleiafrifoedd ethnig o ysgolion, colegau, prifysgolion a thrydydd partïon.
Yn ddiweddar, yn sgil y gwaith hwn, daeth y Coleg yn un o ddim ond dau goleg yn y DU i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer ‘Oscar y Colegau’ – Gwobr Beacon Cymdeithas y Colegau am Ddefnydd Effeithiol o Dechnoleg Ddigidol mewn AB.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi symud i’r trydydd safle ym Mynegai nodedig y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth ar gyfer y 100 Cyflogwr Mwyaf Cynhwysol.
“Fel y Coleg sy’n gwasanaethu un o’r cymunedau mwyaf amrywiol a bywiog yng Nghymru, rydyn ni’n hynod falch o’r canlyniad yma. Mae’n golygu llawer i ni gan ein bod ni’n credu ein bod ni wrth galon y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu a bod yr holl fyfyrwyr a staff yn rhan o Deulu CAVC.
“Mae hyn yn glod i’r bobl ar draws y Coleg sy’n gweithio mor galed i sicrhau bod CAVC yn defnyddio dull hollgynhwysol o reoli cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud ac fe hoffwn i ddiolch iddyn nhw i gyd am hynny.”