Coleg Caerdydd a’r Fro yn y rownd derfynol yng Ngwobrau Beacon 2023-24

15 Tach 2023

Mae gwaith Coleg Caerdydd a’r Fro i ddatblygu modiwlau cwricwlwm anhiliol ar gyfer y sector addysg bellach wedi sicrhau lle iddo yn rowndiau terfynol Gwobrau Beacon, gwobrau mawreddog ledled y DU gan Gymdeithas y Colegau.

Yn cael eu hadnabod fel ‘Oscars y Colegau’, mae Gwobrau Beacon yn dathlu’r arferion gorau a mwyaf arloesol ymhlith colegau’r DU. Mae CAVC yn un o ddim ond dau goleg ledled y DU i fod ar y rhestr fer yng Ngwobr JISC am Ddefnydd Effeithiol o Dechnoleg Ddigidol mewn Addysg Bellach.

Yn 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i sicrhau y bydd Cymru yn wlad wrth-hiliol erbyn 2030 - y wlad gyntaf i wneud yr ymrwymiad hwn. Un elfen allweddol o'i Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yw datblygu cwricwlwm addysg bellach gwrth-hiliol.

Mae'r cwricwlwm ar ffurf metafyd - y byd rhithwir gwrth-hiliol cyntaf. Mae'r datblygiad arloesol hwn, dan arweiniad Coleg Caerdydd a’r Fro ar ran Llywodraeth Cymru, yn darparu profiad dysgu hygyrch a chyfranogol sydd wedi’i ddatblygu a’i gynhyrchu mewn cydweithrediad ag arbenigwyr lleiafrifoedd ethnig o ysgolion, colegau, prifysgolion a thrydydd partïon.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans:“Rydyn ni’n falch iawn o fod ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Beacon am Ddefnydd Effeithiol o Dechnoleg Ddigidol mewn Addysg Bellach.

“Mae CAVC wrth galon y rhanbarth mwyaf bywiog ac amrywiol yng Nghymru ac rydyn ni wedi ymrwymo’n gadarn i agenda wrth-hiliol. Rydyn ni wedi bod yn falch iawn o arwain ar y buddsoddiad unigryw ac arloesol yma yng nghwricwlwm Cymru ac mae cyrraedd rowndiau terfynol Gwobrau Beacon yn dangos y diddordeb cenedlaethol a rhyngwladol sydd yn y prosiect yma.”

Dywedodd Mark White CBE DL, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol AOC: “Mae Gwobrau Beacon AOC yn arddangos yn union pam mae colegau mor bwysig i bob cymuned a pham mae pobl yn eu gwerthfawrogi. Mae'r wobr hon yn cydnabod y rôl hanfodol y mae byrddau, llywodraethwyr a gweithwyr llywodraethu proffesiynol yn ei chyflawni o ran datblygu gallu i wella ansawdd y ddarpariaeth i fyfyrwyr.”

Cyhoeddir enwau Enillwyr Gwobrau Beacon AOC yng Ngwanwyn 2024.