Prentisiaeth teledu a ffilm Coleg Caerdydd a’r Fro a Sgil Cymru ar restr fer Gwobrau Prentisiaeth AAC 2023

13 Ion 2023

Mae prentisiaeth cynhyrchu ffilm a theledu unigryw sy’n cael ei gweithredu gan Goleg Caerdydd a’r Fro gyda Sgil Cymru wedi cyrraedd rowndiau terfynol gwobrau prentisiaid y DU gyfan.

Mae’r brentisiaeth, CRIW, wedi sicrhau bod CAVC ar restr fer Gwobrau Prentisiaeth AAC yr Wythnos AB ac AELP yn y categori Darparwr Prentisiaethau Creadigol a Dylunio y Flwyddyn.

Mae cynhyrchu teledu a ffilm yn ffynnu yn y Brifddinas-Ranbarth, ac ymunodd CAVC â Sgil Cymru i greu prentisiaeth ddwyieithog sy’n rhoi profiad uniongyrchol y tu ôl i’r llenni i bobl o’r gwaith llawrydd deinamig a hyblyg sydd wrth galon y diwydiant. Mae pob prentis yn cael blwyddyn o brofiad ar draws lleoliadau gwahanol ar gynyrchiadau amrywiol, gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol o safon byd a chwblhau prentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.

Mae prentisiaid CRIW wedi gweithio ar leoliadau gyda’r BBC, Real SFX, Y Golau, Urban Myths, BlackLight TV a Gorilla. Maen nhw wedi gweithio ar gynyrchiadau fel Hidden 3, Extinction, War of the Worlds, A Million Days, Casualty, Havoc a Pact II. Mae cyfraddau llwyddiant y rhaglen yn uwch na 90%.

Dywedodd y Cynhyrchydd Llinell ar Pact II: “Mae pob prentis CRIW rydyn ni wedi’i gyflogi a’i hyfforddi yn ein swyddi wedi mynd ymlaen i gael cyflogaeth bellach gyda ni. Mae hwn yn gynllun mor hanfodol oherwydd fe all y prentisiaid symud o gynhyrchiad i gynhyrchiad yn debyg iawn i'r swyddi llawrydd y byddant yn mynd ymlaen iddyn nhw drwy gydol eu gyrfa.

“Mae hyn yn dysgu’r sgiliau y bydd arnyn nhw eu hangen ac yn eu helpu i wneud cysylltiadau yn y diwydiant. Rydyn ni wedi sefydlu perthynas waith wych gyda Sgil Cymru.”

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Prentisiaeth AAC.

“Gan weithio gyda Sgil Cymru, Llywodraeth Cymru a Chymru Greadigol rydyn ni wedi datblygu rhaglen brentisiaeth sy’n arwain y sector ar gyfer pobl sydd eisiau cael profiad uniongyrchol o ddiwydiant sy’n faes twf enfawr i Gymru, a’r Brifddinas-Ranbarth yn benodol. Mae’r rhaglen yma’n cynnig cyfle gwych i bobl ifanc fod yn rhan o’r diwydiant am flwyddyn, gan gael gwybodaeth a phrofiad gwerthfawr ar yr un pryd.”