Defnydd arloesol Coleg Caerdydd a'r Fro o dechnoleg dysgu uwch yn sicrhau ei fod yn cadw ei statws Coleg Arddangos Microsoft

21 Medi 2022

Mae defnydd arloesol Coleg Caerdydd a'r Fro o dechnoleg i greu profiadau dysgu diddorol a chynhwysol wedi golygu ei fod wedi cadw ei statws Coleg Arddangos Microsoft am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Coronwyd CAVC fel y Coleg Arddangos Microsoft cyntaf yng Nghymru yn 2018. Mae'r statws yn dynodi bod y Coleg yn arloeswr yn sector addysg bellach Cymru a bod ganddo strategaeth ddigidol gref.

Profodd y strategaeth hon yn amhrisiadwy yn ystod pandemig COVID-19, pan lwyddodd CAVC i barhau i addysgu o dan gyfyngiadau'r cyfnod clo, gan symud i gyfuniad o ddysgu o bell ac addysgu wyneb yn wyneb.

Mae statws Coleg Arddangos Microsoft hefyd yn adlewyrchu arbenigedd staff ar draws y Coleg a'u sgiliau digidol uwch o ran y technolegau addysgu a dysgu diweddaraf i gefnogi myfyrwyr. Mae defnyddio'r offer, yr wybodaeth a'r technolegau diweddaraf yn helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer byd gwaith, sy'n golygu y gallant ychwanegu gwerth ar unwaith i unrhyw gyflogwr.

Mae pob myfyriwr yn CAVC, boed hynny'n llawn amser neu'n rhan-amser, yn cael eu cyfrif Microsoft personol eu hunain a chopi cymeradwy o Microsoft Office ar gyfer eu holl ddyfeisiau i gefnogi dysgu ar y campws ac ar-lein gartref.

Mae CAVC hefyd wedi cael cydnabyddiaeth ehangach fel arweinydd yn y DU am ddefnyddio technoleg ar gyfer addysgu a chefnogi dysgwyr, gan ennill Defnydd Eithriadol o Dechnoleg ar gyfer Gwella Addysgu, Dysgu ac Asesu yng Ngwobrau mawreddog Tes yn 2020.

Dywedodd Sharon James, Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro: "Rydym wrth ein bodd bod Microsoft wedi parhau i gydnabod ein hymrwymiad i dechnoleg dysgu uwch. Mae ein gwaith gyda Microsoft yn cefnogi ein strategaeth sgiliau digidol ac rydym wedi ymrwymo'n barhaus i ddarparu'r cyfleoedd a'r dechnoleg i staff a myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau digidol eu hunain.

"Mae hyn nid yn unig yn gwneud y profiad o weithio a dysgu gyda ni'n ddiddorol, mae hefyd yn sicrhau ein bod yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i addysgu a chefnogi ein dysgwyr. Microsoft365 a phecynnau fel Teams ac Outlook yw'r platfformau a ddefnyddir fwyaf mewn busnesau ledled y byd, ac mae ein dysgwyr i gyd yn gadael y Coleg fel defnyddwyr hyderus o dechnoleg Microsoft, waeth pa gwrs y maent wedi ei ddilyn - a bydd hynny'n ychwanegu gwerth ar unwaith i unrhyw gyflogwr.”