Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi’i enwi’n un o enillwyr Gwobrau Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol 2022 am ei ymroddiad eithriadol i ddysgu a datblygu.
Mae Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol, fel Llywydd City & Guilds, yn gwobrwyo cyflogwyr gyda rhaglenni datblygu hyfforddiant a sgiliau rhagorol sydd wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar eu busnes neu eu staff.
Mae gan CAVC, fel un o’r colegau mwyaf yn y DU, ymrwymiad i sicrhau darpariaeth addysgu o ansawdd uchel trwy ddatblygu sgiliau digidol ei staff. Hyd yma, mae dros 200 o’r gweithwyr wedi ennill cymwysterau proffesiynol, gyda manteision i berfformiad staff a dysgwyr.
Bu’r pwyslais hwn ar fuddsoddi mewn sgiliau digidol yn amhrisiadwy yn ystod y pandemig, gan fod y Coleg wedi gallu ymgymryd â chyfnod pontio cyflym a hyderus i weithio, dysgu a datblygu ar-lein.
Dywedodd Sharon James, Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro: "Rydym yn falch iawn i ennill Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol. Fel sefydliad dysgu rydym yn rhoi sgiliau a datblygiad Teulu cyfan CAVC – staff, myfyrwyr a’r gymuned – wrth galon yr hyn a wnawn.
“Hefyd, fel y Coleg Arddangos Microsoft cyntaf a’r unig un yng Nghymru rydym yn credu’n gryf mewn manteision cael ystod eang o sgiliau digidol. Mae hyn wedi ein galluogi i gael cynllun cadarn ar waith i ddelio â dysgu a gweithio, yn ystod y cyfnodau clo.
“Hoffem ddiolch i’r Dywysoges Frenhinol am y wobr hon a’r gydnabyddiaeth o bwysigrwydd hyfforddiant i fynd i’r afael â bylchau sgiliau a phwysigrwydd buddsoddi yn eich gweithlu. Rydym yn falch iawn o’r Teulu CAVC ac yn falch ofnadwy i ennill y wobr hon.”