Digwyddiad Awyrofod Rhifyn Arbennig Cystadleuaeth WorldSkills 2022 yn ymweld â Choleg Caerdydd a’r Fro

4 Awst 2022

Ym mis Tachwedd, bydd Canolfan Ryngwladol Hyfforddiant Awyrofod (ICAT) Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynnal cystadleuaeth sgiliau fyd-eang arbennig yn ymwneud â Chynnal a Chadw Awyrennau.

Y bwriad oedd cynnal Rowndiau Terfynol WorldSkills – a elwir yn gyffredin yn ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’ – yn Shanghai eleni, ond bu’n rhaid canslo’r trefniant hwnnw oherwydd y pandemig. Yn hytrach, mae WorldSkills wedi dewis dathlu gwaith caled pobl ifanc ledled y byd, sydd wedi gweithio mor galed i gyrraedd brig eu disgyblaethau, gyda 61 o gystadlaethau sgiliau rhyngwladol a gynhelir ar draws Ewrop, Gogledd America a Dwyrain Asia.

Dim ond dau leoliad yn y DU a ddewiswyd ar gyfer hyn, ac ICAT yw un o’r rheini. Yn ICAT y bydd y gystadleuaeth Peirianneg Awyrennau yn cael ei chynnal. Bydd pobl yn teithio o bedwar ban byd i’r ganolfan Hyfforddiant Awyrofod fyd-enwog, sydd wedi’i lleoli ym Maes Awyr Caerdydd, i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Yn ôl Mike James, Prif Weithredwr Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro ac aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr WorldSkills y DU: “Rydym wrth ein bodd o gael cynnal cystadleuaeth Cynnal a Chadw Awyrennau Rhifyn Arbennig Rhyngwladol WorldSkills yn ein Canolfan Ryngwladol Hyfforddiant Awyrofod fyd-enwog.

“Mae gan Goleg Caerdydd a’r Fro hanes hir o lwyddo yng nghystadlaethau WorldSkills, ac fel Canolfan Ragoriaeth WorldSkills y DU ac enillydd Gwobr Llysgennad Cydraddoldeb ac Amrywiaeth WorldSkills y DU, rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw cystadlaethau sgiliau o’r fath.

“Mae WorldSkills yn annog pobl ifanc i gyrraedd y brig mewn amrywiaeth eang o sgiliau a thechnolegau, gan ddatgloi eu potensial, sbarduno talentau ar gyfer sectorau ac esgor ar dwf economaidd – mae pawb ar eu hennill gyda WorldSkills.”