Mae’r garfan ddiweddaraf o fyfyrwyr 14-16 mlwydd oed a fanteisiodd ar y cyfle i drawsnewid eu bywydau drwy lwybr gyrfa alwedigaethol arloesol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro wedi dathlu cwblhau eu cyrsiau’n llwyddiannus.
Cafodd Prentisiaid Iau Blwyddyn 11 CAVC gwmni eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u tiwtoriaid yn y seremoni raddio gyntaf ar Gampws Canol y Ddinas y Coleg ers y pandemig. Derbyniodd myfyrwyr Blwyddyn 11 eu tystysgrifau graddio yn ystod y seremoni.
Eleni, graddiodd 31 o Brentisiaid Iau. Mae gan bob un ohonynt gynnig amodol i wneud cyrsiau ôl-16 oed mewn ystod eang o ddisgyblaethau, o Dechnoleg Cerdd i Drin Gwallt a Harddwch, Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus, Adeiladu a Pheirianneg Fodurol – gyda thri ohonynt wedi cael prentisiaethau gydag ACT, aelod o Grŵp CAVC.
Roedd y seremoni raddio hefyd yn cynnwys seremoni wobrwyo. Dewi Coslett, sy’n un ar bymtheg mlwydd oed, enillodd y wobr Prentis Iau y Flwyddyn.
Dywedodd Sharon James, Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro: “Llongyfarchiadau i’n carfan ddiweddaraf o Brentisiaid Iau – mae bob un ohonoch wedi gweithio mor galed dros ddwy flynedd hynod heriol i fod yn y sefyllfa hon heddiw. Rydych wedi datblygu a chyflawni eich nodau mewn ffordd sy’n gwbl ysbrydoledig.
“Mae’n hyfryd gweld bob un ohonoch yn symud ymlaen i’ch llwybrau gyrfa dewisol. Diolch i chi ac i’r tîm gwych sydd wedi eich cefnogi – rydym yn falch iawn o bob un ohonoch chi!”
Mae’r rhaglen Brentisiaeth Iau, a ariennir gan CAVC, Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac ysgolion lleol, wedi’i dylunio er mwyn cynyddu nifer y bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn y rhanbarth. Mae’n cynnig cyfle i bobl ifanc astudio’n llawn amser mewn coleg dan arweiniad athrawon sy’n gymwys yn y diwydiant gyda chyfleusterau galwedigaethol arbenigol ac amgylcheddau gwaith go iawn, yn ogystal â chael cyfle i sefyll arholiadau TGAU Saesneg a Mathemateg hefyd.
Ers lansio’r y rhaglen yn 2016, mae dros 218 o Brentisiaid Iau o 20 ysgol yn ogystal â rhai sydd wedi derbyn addysg y tu allan i ysgolion wedi graddio o’r rhaglen. Mae tua 86% ohonynt wedi cyflawni cymwysterau galwedigaethol, graddau TGAU, ac wedi symud ymlaen i addysg bellach neu gyflogaeth.