Trafnidiaeth Cymru yn dewis prydau myfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro ar gyfer eu bwydlen dosbarth cyntaf ar drenau

15 Meh 2022

Mae tri myfyriwr Lletygarwch ac Arlwyo o Goleg Caerdydd a’r Fro wedi ennill cystadleuaeth Bwydlen Ragorol Trafnidiaeth Cymru i greu prydau ar gyfer ei fwydlen newydd, Blas, ar gyfer cerbydau dosbarth cyntaf ei drenau.

Cafodd grŵp o fyfyrwyr gyfle i fynd ar daith addysgiadol ar drên TrC i weld drostynt eu hunain beth yw’r heriau coginio a la carte wrth deithio ar drên. Fe wnaeth y profiad eu helpu i sicrhau y byddai eu prydau’n addas i'w paratoi wrth i’r trên symud.

Cynhaliwyd yr ornest olaf ym mwyty CAVC, Y Dosbarth. Gwelwyd y myfyrwyr yn paru gyda chwe chogydd TrC a’r prydau’n cael eu paratoi gan banel o wyth beirniad, gan gynnwys Prif Weithredwr TrC James Price, Pennaeth Grŵp CAVC Kay Martin a Phrif Westeiwr y Gwasanaeth Dosbarth Cyntaf Cheryl Peters.

Ar ôl gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd, dewisodd y panel dri enillydd: Callum Paterson am ei gwrs cyntaf o Gregyn Gleision gyda Chig Moch a Chocos, Louis Rochon am brif gwrs o Gig Oen Cymreig â Thatws Hasselback a phwdin Sbwng Lemon a Phabi Jack Mathews.

Bydd y prydau buddugol yn ymddangos yn llenyddiaeth hyrwyddo TrC pan fydd y fwydlen yn cael ei lansio yn ddiweddarach eleni, a bydd y tri enillydd yn cael gweithio gwasanaeth gyda’u cogydd partner i goginio pryd o fwyd i riant, ffrind neu diwtor a beirniaid y gystadleuaeth ar drên.

Dywedodd Pennaeth Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Llongyfarchiadau i Callum, Louis a Jack – roedd yn benderfyniad anodd iawn. A diolch i Trafnidiaeth Cymru am ddarparu profiad diwydiant mor wych.

“Yn CAVC, ein nod ni yw darparu profiadau real, nid dim ond realistig, i’n myfyrwyr ni a bydd yr her lletygarwch ac arlwyo yma mewn amgylchedd trafnidiaeth o dan lawer o bwysau yn brofiad amhrisiadwy i bawb a gymerodd ran.”

Dywedodd Kate McIntyre, Rheolwr Ansawdd Gwasanaeth a Phrofiad gyda Thrafnidiaeth Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Choleg Caerdydd a’r Fro ar ail-lansio ein bwydlen ac roedd safon y prydau a gynhyrchwyd drwy gydol y gystadleuaeth yn anhygoel o uchel.

“Ein nod ni yw darparu amrywiaeth eang o brydau a chynnyrch lleol i deithwyr a bydd y ceisiadau buddugol yn ychwanegiad gwych at y fwydlen newydd.


“Hoffem unwaith eto longyfarch yr enillwyr a dweud diolch yn fawr wrth bawb a gymerodd ran.”