Coleg Caerdydd a’r Fro yn cyhoeddi nawdd i Tafwyl 2022

13 Meh 2022

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro (CAVC) yn falch o noddi Tafwyl pan fydd yr ŵyl yn dychwelyd i Gastell Caerdydd yr haf yma.

Mae Tafwyl yn ŵyl flynyddol wedi’i lleoli yng Nghaerdydd sy’n dathlu’r iaith Gymraeg, a’r celfyddydau a’r diwylliant Cymreig – gan gynnig cyfuniad eclectig o gerddoriaeth, trafodaeth, comedi a bwyd, i gyd yng nghanol y ddinas.

Bydd yr wythnos ymylol yn cael ei chynnal mewn lleoliadau amrywiol ar draws Caerdydd o ddydd Sul 12fed Mehefin tan ddydd Gwener 17eg Mehefin, a bydd yr ŵyl dros y penwythnos yn cael ei chynnal ar dir y castell ar ddydd Sadwrn y 18fed a dydd Sul y 19eg.

Mae Tafwyl yn ŵyl am ddim i bawb ei mwynhau, ac mae CAVC yn gyffrous am fod yn rhan o ymgyrch hirsefydlog #SiaradDysguByw y Coleg, sy’n cyfieithu fel #SpeakLearnLive.

Dywedodd Bennaeth CAVC, Sharon James: “Yn CAVC rydyn ni’n credu yng ngrym partneriaeth i ddatblygu cyfleoedd a bod o fudd i’n rhanbarth, ac mewn partneriaeth â Tafwyl rydyn ni’n gobeithio darparu awyrgylch croesawgar sy’n apelio nid yn unig at y gymuned Gymraeg ei hiaith ond hefyd y rhai sy’n dymuno ymwneud â’r Gymraeg am y tro cyntaf.

“Fel coleg mwyaf Cymru rydyn ni’n angerddol am ein gwlad a’n hiaith – ac rydyn ni’n parhau i hyrwyddo’r Gymraeg drwy gydol y flwyddyn yn fewnol i’r staff a’r dysgwyr, ac yn allanol hefyd, gan rannu ein hymrwymiad i gynnig cyfleoedd i bawb siarad, dysgu a byw yn y Gymraeg.”

Mae’r Coleg yn parhau i ymgorffori modiwlau iaith Gymraeg mewn cyrsiau allweddol, gyda dysgwyr TAR yn cwblhau rhaglenni hyfforddiant ymwybyddiaeth o’r Gymraeg Sgiliaith, ac yn darparu gwersi Cymraeg lefel dechreuwyr i’r di-Gymraeg ar draws llu o gyrsiau, o feysydd blaenoriaeth yr iaith Gymraeg fel Iechyd a Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, drwodd i ESOL.

I gael gwybod mwy am ddarpariaeth Gymraeg CAVC, gallwch ddod o hyd i fanylion yma.