Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro yn dathlu tymor llwyddiannus drwy herio pencampwyr

1 Meh 2022

Mae Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro wedi dathlu tymor llwyddiannus, gan ennill y bencampwriaeth, drwy groesawu pencampwyr Lloegr, Coleg Hartpury, am sesiwn hyfforddi.

Rhaglen berfformiad yr Academi Rygbi ar gyfer 2021-22 yw’r un fwyaf llwyddiannus ers i’r Academi ennill ei Thrwydded A bum mlynedd yn ôl. Mae’r chwaraewyr wedi cael llwyddiant yn uwch gynghrair RFU Cymdeithas y Colegau ac fe’u coronwyd yn bencampwyr Cynghrair a Chwpan Ysgolion a Cholegau Cymru.

Cystadlodd wyth o chwaraewyr yr Academi Rygbi am gynrychiolaeth yn y garfan genedlaethol: Harrison James a Mackenzie Martin ar lefel dan 20, a chwaraeodd Harrison Bellamy, Ethan Rudyj, Saul Hurley, Lucas De La Rua a Gabe Lacey ar lefel dan 18. Cynrychiolodd 12 o chwaraewyr eraill Rygbi Caerdydd ar lefel dan 18.

“Sut mae sicrhau eich bod chi bob amser yn symud ymlaen, heb fod yn fodlon ar flwyddyn well nag erioed?” gofynnodd Pennaeth Rygbi CAVC, Martyn Fowler. “Ein syniad ni oedd hyfforddi gyda, a chwarae yn erbyn timau gorau’r wlad yn rheolaidd i wthio ac ymestyn yr hyfforddwyr a’r grŵp chwarae nes eu bod yn gyfforddus mewn sefyllfaoedd anghyfforddus yn gyson mewn senarios gêm.”

Am y rheswm yma, croesawodd yr Academi Rygbi bencampwyr Ysgolion a Cholegau Lloegr, Coleg Hartpury, i gyfleuster chwaraeon cymunedol o’r radd flaenaf y Coleg, Parc y Gamlas, am sesiwn hyfforddi. Mae cyfarfodydd a gemau pellach wedi'u trefnu ar gyfer misoedd Awst a Medi.

Dywedodd Hyfforddwr Hartpury, Wayne Thompson: “Roedd ymweld â champws CAVC a chynnal sesiwn hyfforddi byw yn erbyn 15 cyntaf CAVC yn hynod fuddiol i chwaraewyr a hyfforddwyr Hartpury, gan ein bod ni fel Coleg bob amser yn edrych am ffyrdd a dulliau o brofi ein hunain yn erbyn y gwrthwynebwyr gorau posibl.

“Galluogodd y sesiwn hyfforddi byw rai o’r chwaraewyr gorau ar y lefel dan 18 i herio eu cyfoedion o allu tebyg, mewn amgylchedd a oedd yn darparu adnodd datblygu a dysgu amhrisiadwy i’r chwaraewyr a’r hyfforddwyr cysylltiedig. Mae’n wych gallu hwyluso sesiynau fel hyn ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddod at ein gilydd eto yn ystod y misoedd nesaf ac i mewn i’r tymor nesaf.”

Mae Academi Rygbi CCAF yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o'r Coleg sy'n astudio ystod o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd. Mae’r Academi yn darparu amgylchedd cefnogol ac arbenigol sy’n cyfuno cyfleusterau hyfforddi a chwaraeon o’r radd flaenaf gyda phortffolio eang y Coleg o gyrsiau. Gall chwaraewyr symud ymlaen yn eu gyrfaoedd chwaraeon wrth astudio yn y Coleg a pharatoi ar gyfer dyfodol y tu allan i chwaraeon hefyd.