Sioeau Creadigol byw Coleg Caerdydd a’r Fro yn ôl!

26 Mai 2022

Ar ôl dwy flynedd o gynnal arddangosfeydd a pherfformiadau rhithwir ar-lein, mae myfyrwyr Creadigol Coleg Caerdydd a’r Fro yn ôl ar y campws ac yn cynnal eu sioeau eu hunain.

Nawr bod y rhan fwyaf o gyfyngiadau COVID-19 wedi’u codi, mae’r dysgwyr Creadigol yn gallu trefnu a chyflwyno eu harddangosfeydd a’u perfformiadau eu hunain. Ac maen nhw ar agor i'r cyhoedd felly mae gwahoddiad i bawb!
Mae dysgwyr o Gampws y Barri’r Coleg wedi trefnu eu sioe diwedd blwyddyn eu hunain – Ymlaen – yn Art Central ar Sgwâr y Brenin, y Barri. Mae ar agor rhwng y 6ed a’r 25ain o Fehefin.

Yng Nghaerdydd, bydd y myfyrwyr yn cynnal Arddangosfa Diwedd Blwyddyn ar draws dau safle – Campws Canol y Ddinas a’r Academi’r Celfyddydau Creadigol gerllaw ar 9fed Mehefin. O 4pm ymlaen bydd perfformiadau cerddorol yn Atriwm Campws Canol y Ddinas gan fandiau amrywiol o holl gyrsiau Cerddoriaeth CAVC – a bydd y dysgwyr Technoleg Cerddoriaeth yn bresennol yn swyddfa docynnau Theatr Michael Sheen.

Bydd y myfyrwyr Dylunio Ffasiwn yn cynnal sioe a bydd y dysgwyr Celfyddydau Perfformio a Theatr Gerdd yn cynnal perfformiadau hefyd. Bydd byrddau arddangos yn y prif gyntedd ar gyfer gwaith celf o bob un o gyrsiau Creadigol y Coleg ac amrywiaeth o waith dylunio cynnyrch, a bydd y myfyrwyr Ffilm yn dangos y ffilmiau maent wedi’u cynhyrchu yn y Stiwdio Ffilm.

Yn y cyfamser, bydd Academi’r Celfyddydau Creadigol – ychydig i fyny’r ffordd o Gampws Canol y Ddinas ar Stryd Masnach – yn cael ei thrawsnewid yn oriel arddull arddangos gyda gwaith ar bob un o’r pedwar llawr gan fyfyrwyr ar y cyrsiau Sylfaen Celf, Dylunio Graffig, Ffotograffiaeth, Dylunio Gemau a Dylunio Cynnyrch.

Os hoffech chi fynychu'r Arddangosfa Diwedd Blwyddyn Greadigol ar Gampws Canol Dinas CAVC ac Academi'r Celfyddydau Creadigol gallwch gadw lle drwy glicio yma.