Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi'i ddewis fel yr unig goleg yng Nghymru i gynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK ym mis Tachwedd – a bydd yn cynnal mwy o gystadlaethau nag unrhyw goleg arall yn y DU.
Mae chwe lleoliad wedi'u dewis ledled y DU i gynnal y rowndiau terfynol, a bydd CAVC yn cynnal 14 o'r 62 o gystadlaethau. Bydd myfyrwyr a phrentisiaid gorau'r wlad yn cael eu dwyn ynghyd i gystadlu ar draws ystod eang o ddisgyblaethau.
Wedi'i gynllunio gan arbenigwyr yn y diwydiant, mae cystadlaethau WorldSkills UK yn helpu pobl ifanc i dyfu'n bersonol ac yn broffesiynol drwy ddatblygu eu sgiliau technegol a chyflogadwyedd. Gallai’r rheini sy'n ennill medalau hefyd gael cyfle i gynrychioli Tîm y DU yn Rowndiau Terfynol rhyngwladol WorldSkills, a elwir yn 'gemau olympaidd sgiliau', a gaiff eu cynnal yn Ffrainc yn 2024.
Bydd CAVC yn cynnal Rowndiau Terfynol WorldSkills UK yn y meysydd canlynol:
• Sgiliau Sylfaen: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
• Iechyd a Gofal Cymdeithasol
• Sgiliau Sylfaen: Datrysiadau Meddalwedd TG ar gyfer Busnes
• Sgiliau Sylfaen: Trin Gwallt
• Sgiliau Sylfaen: Gwasanaethau Bwyty
• Cynhyrchu Cyfryngau Digidol
• Sgiliau Sylfaen: Arlwyo
• Sgiliau Sylfaen: Cyfryngau
• Sgiliau Sylfaen: Cerbydau Modur
• Cynnal a Chadw Awyrennau
• Trwsio Corff Moduron
• Mireinio Moduron
• Technoleg Fodurol
• Peirianneg Cerbydau Trwm
Bydd CAVC hefyd yn cynnal digwyddiadau sy'n tynnu sylw at yr ystod eang o gyrsiau sydd ganddo i'w cynnig, gan ddarparu cyngor gyrfaoedd a rhoi cyfle i ymwelwyr siarad â chyflogwyr ac arbenigwyr yn y diwydiant. Bydd darllediadau ar-lein arbennig hefyd yn cynnwys digwyddiadau byw o’r rowndiau terfynol, yn ogystal â chyfweliadau gydag enillwyr blaenorol, arbenigwyr a chynghorwyr gyrfaoedd.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi gan Steph McGovern mewn sioe seremoni medalau fyw arbennig o'i stiwdio Packed Lunch ar 25 Tachwedd.
Dywedodd Mike James, Cynrychiolydd WorldSkills UK a Phrif Weithredwr Coleg Caerdydd a'r Fro: "Rydym yn falch iawn o gynnal Rowndiau Terfynol WorldSkills UK ym mis Tachwedd. Yn CAVC mae gennym gysylltiad hir a llwyddiannus â WorldSkills, ac mae hwn yn gyfle gwych i ddod â chyflogwyr a'r dalent ifanc orau yn y DU at ei gilydd yn ein cyfleusterau o'r radd flaenaf.
"Gallwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i weithredu fel llysgenhadon ar gyfer datblygu sgiliau mewn ystod eang o sectorau a diwydiannau, gan dynnu sylw at lwybrau gyrfa posibl i bobl ifanc.
"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno pob lwc i'r holl gystadleuwyr yn y gystadleuaeth wefreiddiol hon."