Dysgwr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, Cai, yn Fyfyriwr y Flwyddyn Parod am Yrfa

12 Mai 2022

Mae Cai Pugh, dysgwr Safon Uwch yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, wedi ennill gwobr Myfyriwr y Flwyddyn Parod am Yrfa yng Ngwobrau Parod am Yrfa eleni.

Mae Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn yn cydnabod dysgwyr o bob rhan o’r DU sydd wedi rhagori yn ystod eu cyfnod ar y rhaglen Parod am Yrfa ac wedi dangos cynnydd o ran datblygu eu sgiliau gyrfa. Roedd Cai yn un o 12 o bobl ifanc a gafodd eu cydnabod fel Myfyriwr y Flwyddyn.

Mae'r rhaglen yn rhan o elusen ledled y DU sy'n cysylltu cyflogwyr ag ysgolion a cholegau i agor y byd gwaith i bobl ifanc 16 i 19 oed. Gall dysgwyr yn CAVC wneud cais i ymuno â'r rhaglen i redeg ochr yn ochr â'u cwrs a chael mentora, dosbarthiadau meistr, ymweliadau gweithle ac interniaethau.

Yn ystod ei amser ar y rhaglen Parod am Yrfa, ymgymerodd Cai ag interniaeth gyda thâl yn Wedlake Bell a chafodd fentora un i un gan Wayne Evans o JoeFizz Asset Finance, yn ogystal â chymryd rhan mewn cyfres o ddosbarthiadau meistr sgiliau a gynhaliwyd gan gyflogwyr lleol.

Dywedodd Tokunbo Ajasa-Oluwa, Prif Swyddog Gweithredol Parod am Yrfa: “Fe hoffwn i longyfarch Cai ar gael ei enwi yn un o’n Myfyrwyr y Flwyddyn. Mewn blwyddyn sydd wedi bod yn heriol iawn i bobl ifanc, mae wedi dangos ymrwymiad a gwydnwch eithriadol, mae ganddo ddyfodol disglair iawn o’i flaen yn wir.”

“Cyn gynted ag y cafodd y rhaglen Parod am Yrfa ei chyflwyno i mi, fe benderfynais i gofrestru ar y rhaglen wych yma,” dywedodd Cai. “Un o benderfyniadau gorau fy mywyd i!

“Rydw i eisiau dweud diolch enfawr i gydlynydd y rhaglen yn fy ngholeg, Tracy, a’m mentor, Wayne, a fu mor garedig â fy enwebu i ar gyfer y wobr yma.”

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Da iawn Cai am ennill Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn Parod am Yrfa! Mae Parod am Yrfa yn cynnig cyfle i ddysgwyr lunio llwybr gyrfa llwyddiannus ac mae gweld Cai yn ei gofleidio mor frwd yn glod iddo ef ac i bawb sy’n ymwneud â Rhaglen Gyrfaoedd CAVC am gefnogi ei ddatblygiad a’i helpu i ennill y wobr yma.”