Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi cael ei gydnabod fel y coleg gorau yn y DU am ei waith yn hyrwyddo tegwch, parch, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac ymgysylltu ar draws y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.
Mae'r Coleg wedi ennill Gwobr Beacon Cymdeithas y Colegau (AoC) yn y categori Gwobr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth ar gyfer Arweinyddiaeth Gynhwysol. Mae Gwobrau Beacon, sy'n cael eu hadnabod yn eang fel 'Oscars y Colegau', yn cydnabod sefydliadau Addysg Bellach ledled y DU sy'n mynd y tu hwnt i'w gwasanaethau i ddysgwyr a'r gymuned ehangach.
Roedd CAVC yn un o ddeg coleg oedd yn dathlu yng Ngwobrau Beacon, a'r unig goleg o Gymru i ennill un.
Gan wasanaethu un o'r cymunedau mwyaf amrywiol yng Nghymru, mae CAVC wedi ymrwymo'n gryf i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Yn 2021 symudodd y Coleg o'r 12fed safle i'r ail safle ym Mynegai Gweithleoedd Mwyaf Cynhwysol y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth ac enillodd Goleg y Flwyddyn yng Ngwobrau Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE) y Ganolfan.
Mae CAVC yn cydweithio'n gyson â'i randdeiliaid i sicrhau bod ei gyfeiriad strategol, ei bolisïau a'i arferion wedi'u cynllunio i hyrwyddo FREDIE. Mae'r gwaith partneriaeth hwn wedi galluogi'r Coleg i ddatblygu prosiectau arloesol ac effeithiol a chefnogi strwythurau i drawsnewid cyfleoedd dysgu ar draws y Brifddinas-Ranbarth.
Mae'r prosiectau'n cynnwys gweithio gyda Chanolfan Ganser Felindre i lansio Adnodd Ymwybyddiaeth Iechyd a Chanser cyntaf y DU ar gyfer cymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a'r ganolfan ganolog REACH+ ar gyfer dysgwyr Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL). Mae REACH+ wedi bod mor llwyddiannus fel ei fod wedi'i gyflwyno ledled Cymru.
Mae'r Coleg hefyd wedi trawsnewid darn o dir nad oedd yn cael ei ddefnyddio yng nghanol Butetown yn Barc Camlas, cyfleuster aml-chwaraeon o'r radd flaenaf i'r gymuned. Mae ei raglen Teuluoedd yn Dysgu Gyda'i Gilydd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau sy'n seiliedig ar weithgareddau yn y gymuned sydd wedi'u cynllunio i alluogi rhieni a gofalwyr i helpu i ddysgu eu plentyn wrth ddatblygu eu sgiliau eu hunain.
Mae hyfforddiant staff hefyd wedi'i gynllunio i gynyddu ymwybyddiaeth o FREDIE, ac mae 99% o ddysgwyr yn dweud eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn deg a chyda pharch. Mae cyfraddau llwyddo yn gryf ar draws y Coleg ac nid oes unrhyw wahaniaeth sylweddol i unrhyw nodwedd warchodedig.
Dywedodd Kay Martin, Pennaeth Grŵp Coleg Caerdydd a'r Fro: "Rydym wrth ein bodd o gael ein cydnabod fel y coleg gorau yn y DU am ein hymrwymiad parhaus i sicrhau bod yr holl gymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u cynnwys.
"Fel y Coleg sy'n gweithredu yn un o'r cymunedau mwyaf amrywiol a bywiog yng Nghymru, rydym yn hynod falch o'r canlyniad hwn. Mae'n golygu llawer i ni oherwydd ein bod yn credu ein bod yn ganolog i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a bod yr holl fyfyrwyr a staff yn rhan o Deulu CAVC.
"Mae'r wobr hon yn dyst i'r bobl ar draws y Coleg sy'n gweithio mor galed i sicrhau bod CAVC yn mabwysiadu dull hollgynhwysol o reoli cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws popeth a wnawn a hoffwn ddiolch i’r dysgwyr a’r staff am hynny.” Hoffwn ddiolch hefyd i'r grwpiau cymunedol rydym yn gweithio gyda nhw i'w helpu i'w gwasanaethu'n well”
Dywedodd Mark White, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol AoC: "Mae Gwobrau Beacon AoC yn dangos yn union pam mae colegau mor bwysig i bob cymuned a pham mae pobl yn eu gwerthfawrogi. Mae'r wobr hon yn cydnabod enghreifftiau o ddulliau addysgu a dysgu ymarferol rhagorol. Mae gwaith y coleg buddugol yn dangos pa mor bwysig yw colegau o ran darparu'r sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr ar gyfer y byd go iawn.”
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: "Hoffwn longyfarch Coleg Caerdydd a'r Fro ar ei lwyddiant ysgubol. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi Gwobrau Beacon AoC. Rwy'n falch iawn o weld bod y Coleg wedi cael ei gydnabod am y gwaith rhagorol y mae'n ei wneud i gefnogi'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu.”