Myfyriwr o Goleg Caerdydd a’r Fro, Shokhan, yn ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch

30 Maw 2022

Mae cyn ddysgwr Mynediad i Wasanaethau Iechyd Coleg Caerdydd a’r Fro, Shokhan Hasan, wedi ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru ledled y wlad am ei hymroddiad i ddysgu.
Yn dilyn taith ddysgu o wyth mlynedd gyda CAVC, bydd Shokhan yn dechrau ar Radd Nyrsio Oedolion ym mis Medi.

Yn nyrs anaesthetig yng Nghwrdistan, symudodd Shokhan i Gaerdydd yn 2010 i briodi, a dim ond Cwrdeg y gallai siarad. Roedd hi’n benderfynol o barhau â’i hastudiaethau, felly cofrestrodd ar gwrs rhan amser Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yn CAVC yn 2013.

Symudodd Shokhan ymlaen i gyrsiau ESOL Lefel 1 llawn amser y Coleg, ac wedyn i Lefel 2 ESOL+ Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Byddai’n treulio dyddiau’n cyfieithu ei haseiniadau i Gwrdeg gan ei bod yn teimlo y byddai’n gallu eu hateb yn well, ac wedyn byddai’n eu cyfieithu i’r Saesneg yn llafurus.

Ar ôl cwblhau'r cwrs ESOL+, symudodd Shokhan ymlaen i gwrs Mynediad i Astudiaethau Pellach Lefel 2, gan ennill TGAU mewn Saesneg a Mathemateg. Wedyn symudodd Shokhan ymlaen i ddiploma Mynediad i Wyddorau Iechyd yn rhan amser.

“’Fyddwn i ddim lle rydw i heddiw heb yr holl athrawon a’r staff yn CAVC,” meddai Shokhan. “Rydw i’n dal i gofio’r holl gefnogaeth garedig a’u geiriau calonogol i mi pryd bynnag oeddwn i’n cael anhawster.
“Fe gefais i lawer o adegau anodd iawn yn ystod y blynyddoedd yma yn fy astudiaethau. Mae bywyd bob amser yn cyflwyno digwyddiadau annisgwyl i mi.”

Yn 2018, derbyniodd Shokhan y newyddion trychinebus bod ei rhieni a'i rhieni yng nghyfraith wedi marw. Arweiniodd ei hagwedd bositif ac optimistaidd at fywyd Shokhan drwy ei galar a pharhaodd â’i hastudiaethau i gyflawni ei huchelgeisiau.

Drwy gydol ei hastudiaethau bu Shokhan yn jyglo gofalu am ddau blentyn ifanc, gan wirfoddoli mewn ysbyty plant a rheoli ei haseiniad Mynediad yn ystod y ddwy flynedd anoddaf, yn dilyn y pandemig. Er gwaethaf yr heriau hyn, ni chollodd Shokhan un wers na methu cyflwyno gwaith ar amser. Mae ei hagwedd tuag at ei hastudiaethau a'i gyrfa yn y dyfodol yn rhagorol.

Yn ystod ei hail flwyddyn o astudiaethau Mynediad, beichiogodd Shokhan, a pharhau gyda’r un dyfalbarhad a phenderfyniad. Parhaodd i astudio a dim ond pythefnos o wersi a gollodd ar ôl genedigaeth ei babi. Ymdopodd yn wych â chwrs dwys, ochr yn ochr ag addysgu ei dau blentyn ifanc gartref yn ystod y pandemig a gofalu am fabi newydd.

Yn ystod y cyfnod hwn hefyd roedd Shokhan yn ceisio ymdopi ag iselder ôl-enedigaeth ac yn parhau i lwyddo i gyflwyno aseiniadau rhagorol ar amser.


“Dydi astudio mewn ail iaith ddim yn dasg hawdd, a gall greu llawer o rwystrau,”
meddai Shokhan. “Ar ben hynny, gall bod â phlant bach a diffyg cefnogaeth deuluol gymhlethu bywyd, yn enwedig wrth fyw dramor.

“Fodd bynnag, dechrau ar y cwrs Mynediad oedd un o benderfyniadau gorau fy mywyd i – fy nod i oedd ennill digon o bwyntiau i ddechrau yn y brifysgol.

“Rydw i’n falch o ddweud, er gwaethaf yr holl galedi a’r heriau wynebais i, fy mod i wedi ennill tri deg chwech o ddyfarniadau anrhydedd a naw clod.”

Ar ôl blwyddyn haeddiannol o seibiant, bydd Shokhan yn dechrau ar Radd Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Medi.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Llongyfarchiadau i Shokhan ar ennill y wobr fawreddog yma i Ddysgwr y Flwyddyn Mynediad i AU Agored. Mae Shokhan wedi cael taith ddysgu nodedig a chwbl ysbrydoledig gyda CAVC, gan wynebu heriau gwirioneddol ar hyd y ffordd, ac mae’n wych gweld ei holl waith caled yn cael ei gydnabod fel hyn.”