Coleg Caerdydd a'r Fro yn dathlu Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd

18 Maw 2022

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi dathlu Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd gyda rhaglen lawn o gyngor ac arweiniad gyrfaol gan gyflogwyr blaenllaw.

Mae Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd yn dathlu gyrfaoedd ac adnoddau am ddim mewn addysg ledled y DU. Y nod yw darparu ffocws ar gyfer gweithgaredd cyfarwyddyd gyrfaoedd yn ystod cyfnod pwysig o fewn y calendr academaidd i helpu i gefnogi pobl ifanc sy'n gadael addysg.

Yn gyfochr â'r ffocws ar brofiadau afrealistig, go iawn i fyfyrwyr megis lleoliadau gwaith a briffiau byw o'r diwydiant, manteisiodd CAVC ar y cyfle hwn i ddatblygu gweithlu medrus a chyflogadwy fydd yn ychwanegu gwerth uniongyrchol i unrhyw gyflogwr. Gwnaeth y tîm Gyrfaoedd a Syniadau lunio rhaglen yn cynnwys mwy na 25 o gyflogwyr - yn cynnwys TikTok, L’Oréal, y GIG a'r Awyrlu Brenhinol - a siaradodd yn uniongyrchol â dysgwyr mewn sesiynau ar-lein arloesol.

Ymhlith y sesiynau eraill roedd awgrymiadau ac argymhellion ynghylch ysgrifennu CV, archwilio posibiliadau profiad gwaith, siaradwyr ysbrydoledig, gyrfaoedd yn y cyfryngau, a chyngor ar gyfweliadau swyddi.

Roedd aelodau'r tîm Gyrfaoedd a Syniadau hefyd ar y campysau ar draws y Coleg yn ystod yr wythnos, yn cynnig cyngor gyrfaol gyda thamaid o deisen a chystadlaethau diddorol.

Cafodd y tîm ymwneud â mwy na 300 o ddysgwyr yn ystod sesiynau'r wythnos, un ai drwy eu gwylio'n unigol, fel rhan o sesiynau yn y dosbarth, neu drwy'r sgrin fawr yn Atriwm Campws Canol y Ddinas.

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James: "Yn CAVC, nid ydym eisiau bod yn ffatri gymwysterau sy'n gollwng pobl i'r byd gyda'r tameidiau o bapur cywir ond nad oes ganddynt syniad o'r byd gwaith. Mae'n well gennym fod yn beiriant sgiliau, yn cynhyrchu pobl fedrus a chyflogadwy ac entrepreneuriaid dawnus i ychwanegu gwerth ar unwaith i unrhyw gyflogwr.

"Dyma pam rydym yn gweithio gyda miloedd o gyflogwyr mawr a bach i sicrhau bod yr hyn rydym yn ei gynnig yn berthnasol i anghenion presennol y farchnad swyddi, ac yn y dyfodol. Mae cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd a chynnal y sesiynau ar-lein arloesol hyn gyda chyflogwyr adnabyddus yn rhoi cyfle cyffrous i ni adeiladu ar y gwaith hwnnw ymhellach."