Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi llwyddo i gael gwobr genedlaethol am ei waith yn creu cyfleoedd addysgol i bobl ifanc.
Cafodd y Coleg Wobr Llysgennad EDI yng Ngwobrau Arwyr Cyfiawnder, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) neithiwr (Nos Iau).
Mae’r gwobrau, ar y cyd â Coca-Cola Europacific Partners a NCFE, yn dathlu’r unigolion a’r sefydliadau sy’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant mewn busnes a’r sectorau addysg technegol.
Cafodd Swyddog WorldSkills ac Erasmus y Coleg, Emma Andrews, ei chanmol hefyd am ei gwaith yn helpu i bontio’r bwlch symudedd cymdeithasol drwy ddarparu cyfleoedd da i ddysgwyr gyflawni eu potensial.
Mae’r wobr yn adlewyrchu menter REACH+ CAVC, sy’n cynnig hwb canolog er mwyn darparu cyrsiau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL). Mae wedi bod mor llwyddiannus o ran gwella cyflawniad cyrsiau a lleihau amseroedd aros fel bod Llywodraeth Cymru wedi’i gyflwyno ledled Cymru.
Bu’r Coleg hefyd yn gweithio gyda Chanolfan Ganser Felindre i lansio Adnodd Iechyd a Chanser cyntaf y DU ar gyfer cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Dywedodd Dr Neil Bentley-Gockmann OBE, Prif Swyddog Gweithredol WorldSkills UK: “Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn llwyr haeddu’r wobr hon am ei waith yn ymgysylltu â’i gymunedau. Mae gwaith y coleg gyda’r ganolfan ganser yn arddangos sut mae’n cynnig cymorth go iawn i’w gymunedau amrywiol. Roedd ei ymdrechion i helpu pobl nad ydynt yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf i fynd ati ac i ddysgu sgiliau perthnasol mor ysbrydoledig, fel bod Llywodraeth Cymru wedi’i gyflwyno ledled y wlad. Llongyfarchiadau mawr i bawb oedd ynghlwm yn y coleg wrth y gwaith pwysig hwn.”
Dywedodd Sharon James, Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro: “Mae CAVC yn gweithio yng nghanol un o’r cymunedau mwyaf bywiog ac amrywiol Cymru, ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod pawb yn y gymuned honno o gymunedau yn teimlo fel eu bod wedi’u cynnwys ac yn gallu cyflawni eu llawn botensial, felly roedd gweld gwaith pawb yn cael ei wobrwyo gan WorldSkills UK fel hyn yn wych.”
Yn 2020, enillodd CAVC Coleg AB y Flwyddyn yng Ngwobrau Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Ymgysylltiad (FREDIE) y Ganolfan Amrywiaeth Genedlaethol. Mae hefyd wedi symud o’r 12fed safle i ail yn rhestr y Ganolfan o’r 100 o Weithleoedd Mwyaf Cynhwysol.