Siwrnai gyrfa Ewan, myfyriwr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, yn ei arwain i CF10 drwy Brosiect SEARCH

21 Chw 2022

Er iddo gofrestru yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro heb fawr ddim hunanhyder, mae Ewan Heppenstall wedi dod o hyd i gyflogaeth drwy brosiect rhyngwladol mawr sy’n darparu cyfleoedd cyflogaeth a dysgu i bobl ifanc yng Nghymru.

Ymunodd Ewan, sy’n 23 oed ac yn dod o’r Barri, â CAVC yn 2018 ar raglen Sgiliau Gwaith Lefel Mynediad 2, heb hyder yn ei allu. Ond buan iawn y daeth ei barodrwydd i ddysgu ac archwilio opsiynau gyrfa i’r amlwg a symudodd ymlaen i’r rhaglen Sgiliau Gwaith Lefel Mynediad 3.

Yn 2020 cafodd dair interniaeth yn Dow Silicones fel rhan o ymwneud CAVC â Phrosiect SEARCH, menter a ddechreuodd yn UDA dros 20 mlynedd yn ôl i roi cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol. Datblygodd a thyfodd Ewan gyda phob interniaeth, ac roedd mor uchel ei barch ar y drydedd interniaeth fel ei fod wedi cael ei enwebu fel cynrychiolydd cwrs gan ei gyfoedion ym Mhrosiect SEARCH.

Mae Ewan bellach wedi dod o hyd i waith gydag adran manwerthu CF10 yn Simply Fresh, yr archfarchnad ar Gampws Canol y Ddinas Coleg Caerdydd a’r Fro. Mae tîm manwerthu’r Coleg yn cyflogi myfyrwyr yn rheolaidd, gyda nifer fawr yn dod o Adran Paratoi ar gyfer Gwaith, Bywyd a Dysgu (PWLL) CAVC ar gyfer pobl ag anghenion dysgu ychwanegol.

Dywedodd Rheolwr Manwerthu CF10, Anthony Ruston: “Mae Ewan wedi bod yn ychwanegiad i’w groesawu’n fawr i’n tîm ni – mae wedi dangos angerdd i ddatblygu yn ei rôl, mae ganddo sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol ac mae wedi magu hyder yn yr amser y mae wedi bod gyda ni. Daw Ewan â’i bersonoliaeth hyfryd i’r gwaith ac mae adborth y cwsmeriaid wedi bod yn hynod gadarnhaol ac mae wedi meithrin perthynas wych gyda llawer o’n cwsmeriaid rheolaidd.”


“Mae Prosiect SEARCH wedi newid fy mywyd i drwy fy helpu i fagu hyder, a roddodd hunan-gred i mi wrth wneud cais am fy ngyrfa yn y dyfodol,”
dywedodd Ewan. “Mae Prosiect SEARCH wedi rhoi egni, ymroddiad a chymhelliant i mi weithio tuag at fy nodau a phrofi i bawb y gallaf fod yn llwyddiannus.


“Fe wnes i wir fwynhau gweithio yn Dow Silicones fel rhan o dîm a oedd yn cynnwys fy nghyd-interniaid a chydweithwyr. Rydw i'n ddiolchgar iawn am y cysylltiadau cymdeithasol rydw i wedi'u gwneud gyda aelodau fy nhîm a chydweithwyr - roedd yn golygu fy mod i wedi cyffroi wrth fynd i'r gwaith bob dydd.


“Oni bai am Brosiect SEARCH dydw i ddim yn meddwl y byddai gennyf y sgiliau a’r hyder i fynd i fyd gwaith.”

Mae Ewan bellach wedi cynnig bod yn llysgennad ar gyfer Prosiect SEARCH, gan gefnogi interniaid y dyfodol a chyflwyno ei siwrnai a sut mae wedi newid ei fywyd i bobl sy'n ystyried ymuno â'r rhaglen.

Dywedodd Pennaeth Paratoi ar gyfer Gwaith, Bywyd a Dysgu CAVC, Wayne Carter: “Mae Ewan yn enghraifft wych o’r siwrnai y mae pobl ifanc yn cychwyn arni pan fyddant yn dod i Goleg Caerdydd a’r Fro. Fel unigolyn swil a thawel gyda phrinder hyder a sgiliau gwaith, rydyn ni wedi grymuso Ewan i gredu ynddo’i hun, ei ymestyn a’i herio a darparu cyfleoedd y gall ffynnu arnynt, gan ganolbwyntio ar bethau y gall eu gwneud ac nid yr hyn na all ei wneud.


“Mae natur gyfnewidiol ein rhaglenni ni’n rhoi lle i dwf a datblygiad yn academaidd ac yn bersonol ochr yn ochr â phrofiadau gwaith yn y byd real, sy’n arwain at addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth. Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddarparu canlyniadau gwell i bobl ifanc ond yn cydnabod bod cydweithio a phartneriaeth wrth wraidd gwireddu nodau unigol a sefydliadol.


“Mae pawb sydd wedi bod yn rhan o siwrnai Ewan – o ddysgwr i intern i gyflogai a chydweithiwr – wrth eu bodd ei fod wedi cydnabod a chyflawni ei lawn botensial a gyda’i hunan-gred, fe all gyflawni cymaint mwy. ’Allen ni ddim bod yn falchach!”