Gyrfa newydd yn y Flwyddyn Newydd gyda chyrsiau am ddim i oedolion yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro

22 Rhag 2022

Ffansi dechrau newydd? Chwilio am yrfa newydd yn y Flwyddyn Newydd, neu eisiau dysgu sgiliau newydd? Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lansio amrywiaeth enfawr o gyrsiau newydd i oedolion sy’n dechrau ym mis Ionawr – ac mae llawer ohonyn nhw am ddim neu’n rhad iawn.

Mae ystod eang o gyrsiau i ddatblygu sgiliau i ddatblygu neu newid gyrfa, gan gynnwys cymwysterau proffesiynol poblogaidd, gyda’r ffi’n cael ei dileu ar gyfer llawer o oedolion sy’n gweithio. Mae'r cyrsiau hefyd yn cael eu cynnal ar sail hyblyg, felly gallwch chi eu ffitio o amgylch eich oriau gwaith neu ymrwymiadau eraill.

Mae hefyd gyrsiau Mynediad ar gyfer symud ymlaen i brifysgol, Cyrsiau Addysg Sylfaenol i Oedolion ar gyfer y rhai sy'n dymuno datblygu eu sgiliau, a chyrsiau byr i bobl ddatblygu diddordeb.

I gael rhestr lawn o’r cyrsiau neu i wneud cais ewch i: www.cavc.ac.uk/cyrsiauforadults

Bydd y Coleg hefyd yn cynnal Noson Cyngor Galw Heibio Addysg Oedolion nos Fercher 18fed Ionawr, 4.30pm-7.30pm, ar Gampws Canol y Ddinas i oedolion sgwrsio ag athrawon neu gael gwybod a ydynt yn gymwys i gael dysgu am ddim.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Rydyn ni’n falch o fod yn cynnig ystod mor eang o gyrsiau i oedolion ar gyfer dechrau 2023. Bob blwyddyn mae miloedd o oedolion yn dysgu gyda ni i ennill cymwysterau proffesiynol i symud ymlaen neu newid eu gyrfa.

“Gyda chyllid ar gael o hyd i’n galluogi ni i gynnig y cyrsiau hyn am ddim neu gyda ffioedd is i’r mwyafrif, nawr yw’r amser i ddysgu gyda Choleg Caerdydd a’r Fro.”