Mae’r myfyrwyr Celf a Dylunio Lefel 3 wedi’u comisiynu gan Tai Taf i greu gwaith celf i addurno’r hysbysfwrdd am adnewyddu tai ar borth allweddol i ganol Dinas Caerdydd.
Mae'r hysbysfwrdd yn amgylchynu prosiect adnewyddu o 29 o gartrefi y mae'r gymdeithas dai yn ei gwblhau ar Stryd Tudor, Glan yr Afon. Cafodd y gweithiau celf eu dadorchuddio gan Brif Weithredwr Tai Taf, Helen White, ac Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne, yr wythnos hon.
Roedd y prosiect ar ffurf briff byw. Mae briffiau byw CCAF yn cynnwys y dysgwyr yn cael eu comisiynu i weithio i gleientiaid allanol, gan roi cyfle iddynt brofi a dilysu eu sgiliau mewn amgylchedd gwaith real a hefyd hybu eu sgiliau cyflogadwyedd.
Dywedodd Prif Weithredwr Tai Taf, Helen White: “Rydyn ni wedi ein plesio’n fawr gan ansawdd y gwaith celf sydd wedi’i gynhyrchu gan y myfyrwyr ac wrth ein bodd ein bod ni wedi gallu arddangos eu gwaith ar y porth allweddol yma i’r ddinas.
“Fe wnaethon ni herio’r myfyrwyr i ddylunio gwaith celf yn adlewyrchu pynciau amrywiaeth, cymuned ac undod, gyda phob darn yn cyflwyno golwg unigryw ar y thema yma. Unwaith y bydd y gwaith adnewyddu wedi’i gwblhau, rydyn ni’n gobeithio dod o hyd i gartrefi newydd, parhaol ar gyfer pob darn.”
Dywedodd Stephen Marsh, Clerc Gwaith ac Ymgynghorydd Technegol yn Nhai Taf: “Mae defnyddio celf yn ffordd wych o hyrwyddo ein gwerthoedd a’r hyn sy’n bwysig i ni fel cymdeithas. Drwy weithio gyda myfyrwyr CAVC, cawsom gyfle i gael barn pobl ifanc am y byd sydd ohoni a sut maent yn mynegi eu hunain ynghylch materion cymdeithasol pwysig. Tra hefyd yn gwneud y gwaith bordio amgylchynol ar ein safle atgyweirio ar Stryd Tudor yn brosiect hwyliog a chreadigol.”
Dywedodd Pippa Lane, dysgwr Celf a Dylunio Lefel 3: “Fe wnes i fwynhau prosiect Tai Taf gan ei fod yn gyfle da iawn i mi gael profiad yn y diwydiant celf a gweithio gyda chleientiaid proffesiynol. Rydw i wrth fy modd fy mod i wedi cael cynnig y cyfle i arddangos fy ngwaith celf mewn man cyhoeddus – rydw i’n gobeithio pan fydd pobl yn cerdded heibio y bydd yn bywiogi eu diwrnod.”