Dathlu llwyddiant myfyrwyr yng Ngwobrau Blynyddol Coleg Caerdydd a’r Fro 2022

7 Rhag 2022

Am y tro cyntaf ers y pandemig mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi dathlu gwaith caled, llwyddiant a dilyniant y dysgwyr mewn seremoni Wobrwyo Flynyddol fyw, ar y campws.

Ymunodd cannoedd o bobl o bob rhan o’r sbectrwm busnes lleol, partneriaid addysg a’r gymuned â dysgwyr, eu ffrindiau a’u teuluoedd ar gyfer Seremoni Wobrwyo Flynyddol CAVC, 2022. Cynhaliwyd y digwyddiad disglair ar Gampws Canol y Ddinas y Coleg, dan awenau y darlledwr, y newyddiadurwr a chyn-fyfyriwr CAVC, Jason Mohammad.

Gan ddangos uchafbwyntiau blwyddyn academaidd 2021-22 (gweler y rhestr lawn o enillwyr isod), roedd y gwobrau hefyd yn dangos y profiadau unigryw a’r cyfleoedd dilyniant y mae CAVC yn eu cynnig.

Mae pob myfyriwr a gafodd ei gydnabod ar y noson naill ai wedi ennill cystadlaethau cenedlaethol neu ranbarthol yn eu disgyblaethau; wedi datblygu yn eu prentisiaethau a chyflogaeth gyda chwmnïau enwog; wedi ennill lle mewn prifysgolion blaengar neu wedi perfformio'n eithriadol yn eu hastudiaethau.

Dywed Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Mae Seremoni Wobrwyo Flynyddol CAVC yn un o brif uchafbwyntiau fy mlwyddyn ac mae gallu eich croesawu yn ôl i seremoni fyw am y tro cyntaf ers dwy flynedd yn arbennig iawn. Ond, yr hyn sy’n ei wneud yn fwy arbennig fyth yw’r pethau anhygoel y mae enillwyr y gwobrau wedi’u cyflawni er gwaethaf dysgu a datblygu yn ystod pandemig – rwy’n hynod falch ohonoch i gyd.”

Dywedodd Pennaeth Grŵp CAVC, Kay Martin: “Mae cyflawniadau enillwyr y gwobrau yn gwbl anhygoel. Hoffwn eu llongyfarch i gyd – y myfyrwyr a’r prentisiaid gwych, yn ogystal â’r staff dawnus a gweithgar sydd wedi eu cefnogi i gyflawni cymaint.

“Mae’n fraint bod yn rhan o sefydliad sy’n darparu cyfleoedd dysgu i gynifer. Mae dysgu yn newid bywydau; weithiau'n gynnil, ac ar adegau eraill gall fod yn enfawr ac yn newid bywyd. Ond fel y dengys y gwobrau hyn, mae bob amser yn gwneud gwahaniaeth.”

Roedd y lefelau cyrhaeddiad mor arbennig o dda nes nad oedd modd dewis un Dysgwr y Flwyddyn yn gyffredinol. Yn hytrach, dewiswyd dau – enillydd Gwobr Safon Uwch, Annis Wiltshire ac enillydd Gwobr Prentisiaeth, Omer Waheed.

A hithau’n fyfyrwraig â gallu eithriadol, enillodd Annis radd A* yn y Clasuron a Hanes, gradd A mewn Cemeg a Rhagoriaeth 1 yn y cymhwyster Rhaglen Ysgolheigion. Gwobrwywyd lefel uchel ei chyrhaeddiad ym mis Medi pan dderbyniwyd Annis yng Ngholeg Wadham, Rhydychen, i astudio'r Clasuron.

“Cefais fy synnu’n fawr pan gefais wybod fy mod wedi derbyn y wobr, ac rydw i’n ddiolchgar iawn i bawb yn y Coleg,” meddai Annis.

“Roeddwn i wrth fy modd yn CAVC, ac a dweud y gwir rydw i'n gweld ei eisiau! Roedd dod yn ôl ar gyfer y gwobrau yn fy atgoffa cymaint wnes i fwynhau astudio yma.”

Mwynhaodd Annis astudio Lefel A yn CAVC.

“Rwy’n meddwl mai’r bobl y gwnes i gyfarfod â nhw oedd y peth gorau am fy nghwrs, yn enwedig fy nhiwtoriaid Danny ac Emma a wnaeth fy nghefnogi cymaint trwy gydol fy amser yn y Coleg. Tybiaf mai dyma’r hyn rwy’n ei golli fwyaf nawr fy mod yn y brifysgol.

“Does dim modd y byddwn i wedi cyrraedd lle rydw i nawr heb CAVC – o ran y cymorth a gefais ar y cwrs Safon Uwch, fy nghais i’r brifysgol, a hefyd y gefnogaeth a gefais gan fy nhiwtoriaid a’r adran ADY o ran fy lles. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb yn y Coleg am fy helpu.”

Mae enillydd Gwobr Prentisiaeth, Omer Waheed, yn llysgennad gwirioneddol am yr hyn y gellir ei gyflawni trwy ddysgu sy'n canolbwyntio ar yrfa yn y Coleg, ac mewn prentisiaeth. Ar ôl dechrau cwrs Atgyweirio Corff Cerbydau Lefel 2, sicrhaodd brentisiaeth a chwblhau tair blynedd o astudio.

Yn ystod y cyfnod hwnnw enillodd Omer ddwy wobr yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, ac un wobr WorldSkills UK – cafodd ei gydnabod fel un o dalentau newydd gorau’r wlad. Mae Omer bellach yn gweithio i Gwmni Moduron Davies yng Nghaerdydd, sy'n delio â cherbydau o fri megis cerbydau Bentley ac Aston Martin.

“Does gen i ddim geiriau!” meddai Omer. “Roedd ennill y wobr yn syndod mawr i mi – roeddwn yn gwybod fy mod yn derbyn un wobr, ond roedd yr ail yn sioc lwyr. Teimlaf fy mod i wedi bod yn gwneud rhywbeth yn iawn!"

Cafodd Omer fodd i fyw yn CAVC.

“Y cyfleusterau a’r tiwtoriaid oedd y peth pwysicaf am fy nghwrs,”
esboniodd. “Roedden nhw'n ei gwneud hi'n bleser gweithio – roedd bron fel bod gartref. Ochr ymarferol y cwrs oedd yr hyn a fwynheais fwyaf.

“Rwyf bellach yn gweithio i Gwmni Moduron Davies – dyna oedd y swydd gyntaf erioed i mi ei chael. Mae’r Coleg wedi bod yn help mawr i mi – oni bai am y Coleg ni fyddwn wedi ennill y gwobrau hyn.”

Roedd y Wobr Adeiladu yn un a enillwyd gan gyd-gystadleuydd WorldSkills UK, Dylan Dumbleton. Mae Dylan, prentis Plastro Lefel 2, yn rhagori yn elfennau theori ac ymarferol ei gwrs.

Roedd Dylan yn llwyddiannus yn rhagbrofion rhanbarthol cystadleuaeth SkillBuild yn gynharach eleni, ac fe gasglodd ddigon o bwyntiau i gymhwyso ar gyfer Rowndiau Terfynol WorldSkills UK a gynhaliwyd yng Nghaeredin fis diwethaf.



“Mae ennill y wobr hon wedi rhoi gwên fawr ar fy wyneb,”
meddai Dylan. “Mae’n gamp i bawb sydd wedi ennill. Rwy'n falch – mae'n gyflawniad.

“Mae fy nghwrs wedi bod yn dda. Mae wedi bod yn dda cyfarfod â phobl newydd. Mae'n dda bod yn y Coleg a chael pobl o'ch cwmpas sy'n gwneud yr un peth. Roedd y darlithwyr i gyd yn dda iawn ac yn barod iawn i helpu.”

Roedd y profiad o gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau cenedlaethol yn fonws.

“Roedd cystadlu yn WorldSkills UK yn llawer o hwyl, ac fe wnes i ffrindiau newydd,” meddai Dylan. “Rwy’n dal i siarad â chwpl o’r gweddill a oedd yno. Roedd cymryd rhan wir yn gamp i mi.”

Mae Dylan yn credu bod ei gyfnod yn CAVC wedi ei roi ar y llwybr cywir ar gyfer y dyfodol.

Yn y pen draw hoffwn sefydlu fy musnes fy hun,” esboniodd. “Mae’r Coleg bendant yn fy helpu i gyflawni fy uchelgeisiau”.

Enillodd Chamali Wickramaarchchige y Wobr Gwasanaethau Cyhoeddus.

Symudodd Chamali i'r DU sawl blwyddyn yn ôl, heb adnabod neb heblaw ei gŵr. Er gwaethaf diffyg hunanhyder i ddechrau, aeth Chamali ymlaen i brofi’r hyn y gallai ei wneud, gyda’i gwaith rhagorol yn cyflawni Rhagoriaeth.

Roedd bod yn y Coleg wedi rhoi’r hyder iddi ddysgu gyrru, gan basio ei phrawf y tro cyntaf. Dywedodd ei thiwtoriaid fod Chamali yn esiampl ddisglair o’r hyn y gellir ei wneud drwy orchfygu eich ofnau, gan ychwanegu pe gallai botelu a gwerthu ei gostyngeiddrwydd a’i pharch y byddai’n gwneud ffortiwn.

“Mae ennill y wobr hon yn anhygoel,” meddai Chamali. “Rwy’n falch iawn drosof i fy hun ac yn hapus dros ben”.

Er bod y cyfan braidd yn frawychus ar y dechrau, daeth Chamali yn ei blaen yn gyflym.

“Fe wnes i fwynhau fy nghwrs yn fawr,” meddai. “Dychwelais i fy astudiaethau ar ôl amser hir a mwynheais. Roeddwn i'n hoffi'r myfyrwyr iau a'r holl staff.

“Dychwelais i’r byd addysg oherwydd roeddwn i’n meddwl y byddai’n dda cael mwy o gymwysterau er mwyn i mi allu mynd am swydd dda. Y Coleg oedd y lle iawn i mi.”

Ymgartrefodd Chamali yn fuan â bywyd yn CAVC.

“Yn y flwyddyn gyntaf cymerais ran yn yr Academi Pêl-rwyd, a mwynheais yn fawr. Fe wnaethom lawer o weithgareddau awyr agored ac fe wnes i fwynhau hynny'n fawr hefyd.”

Mae’n uchelgais ganddi i ymuno â'r gwasanaethau cyhoeddus.

“Hoffwn ymuno â’r heddlu,” meddai Chamali. “Mae’r Coleg wedi bod o gymorth mawr i mi ac mae’n dal i fy helpu nawr.

“Roeddwn i’n berson hollol wahanol pan ddechreuais i. Roedd dychwelyd i’r byd addysg yn gam mawr i mi ac roeddwn yn nerfus iawn. Fi hefyd oedd yr unig fyfyriwr tywyll ac yn un o’r rhai hŷn, ond roedd pawb yn groesawgar ac yn gyfeillgar iawn.”

Roedd y cyn-fyfyriwr Tom Caple yn un o enillwyr Gwobrau Teulu CAVC. Yn adnabyddus yn y Coleg am ei gyflawniadau yn yr Academi Rygbi, arweiniodd Tom y tîm i ennill Cwpan Ysgolion a Cholegau Undeb Rygbi Cymru yn 2021.

Enillodd Jack Boston y Wobr Cyn-fyfyriwr. Yn gyn-fyfyriwr, ar y cwrs yr oedd bryd hynny yn Radd Sylfaen CAVC mewn Technoleg Cerddoriaeth, mae Jack wedi datblygu ei yrfa ei hun yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae bellach yn brif beiriannydd recordio yn Rockfield Studios – sy’n enwog am recordio Queen, Oasis, Iggy Pop a Black Sabbath i enwi dim ond rhai.

Dathlwyd hefyd sefydliadau partner y coleg, sef FinTech Wales, Football Class Academy, Ministry of Life Education, Dow Chemicals a Thrafnidiaeth Cymru am eu dulliau arloesol a’u hymrwymiad rhagorol i addysg a hyfforddiant.

Hoffai Coleg Caerdydd a’r Fro ddiolch i Brifysgol Cymru am noddi’r digwyddiad gan sicrhau y gallu i ddathlu cyflawniad y dysgwyr mewn steil.

Enillydd y wobr

Categori

Cwrs

Lucy Hughes

Mynediad

Mynediad i Nyrsio a Bydwreigiaeth

Jacob Scott

Awyrofod

Lefel 3, Peirianneg Awyrofod Uwch

Annis Wiltshire

Safon Uwch

Safon Uwch

Jarred Sullivan

Celf, Dylunio ac Amlgyfrwng

Lefel 3, Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol

Keighton-Leigh Morgan

Modurol

Lefel 2, Prentisiaeth Cerbyd Trwm

Tahira Khalid

Pobi

Lefel 3, Pobi,Patisseriea Melysion

Nikita Wheeler

Harddwch a Therapi Cyflenwol

Lefel 3, Effeithiau Arbennig, Gwallt a'r Cyfryngau Theatrig

Aram Elbadian

Gwasanaethau Adeiladu

Lefel 2, Teilsio Wal a Llawr

Hanifah Salam

Busnes

Lefel 3, Gweinyddu Busnes

Maisha Haque

Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar

Lefel 3, Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Dylan Dumbleton

Adeiladu

Lefel 2, Prentisiaeth Plastro

Sudhuf Khan

Addysg a Hyfforddiant

TAR

Mitchell Perrett

Peirianneg

Prentisiaeth Lefel 2 mewn Perfformio Gweithrediadau Gweithgynhyrchu

Mina Mahtab

ESOL

ESOL+ Gweinyddu Busnes

Shirin Talebi

ESOL

ESOL+ Gweinyddu Busnes

Samuel Howells

Trin gwallt

Lefel 2, Barbro

Sarah Hart

Iechyd a Gofal

Gradd Sylfaen mewn Gofal Ieuenctid a Chymdeithasol

McKenzie Skuse

Lletygarwch ac Arlwyo

Lefel 3,

Lletygarwch

Grace Lewis

TG

Lefel 3,Cyfrifiadureg

Mehmet Ongun

Celfyddydau Perfformio

Lefel 3, Diploma Estynedig yn y Celfyddydau Perfformio

Ocean Cotty

Paratoi ar gyfer Gwaith, Bywyd a Dysgu

Porth Mynediad Galwedigaethol

Chamali Wickramaarachchige

Gwasanaethau Cyhoeddus

Lefel 3, Gwasanaethau Cyhoeddus

Josh Brown

Chwaraeon

Lefel 3, Diploma Estynedig mewn Chwaraeon

Megan Curtis

Teithio a Thwristiaeth

Lefel 3, Teithio a Thwristiaeth

Faye Saho

Gwobr Oedolion a Chymuned

Dysgu Teuluol

Omer Waheed

Prentisiaeth ~Gwobr

Lefel 3, Prentisiaeth Trwsio Corff Cerbyd

Mollie Daines

Gwobr Prentisiaeth Iau

Prentisiaeth Iau mewn Gwallt a Harddwch

Annabel Leger

Gwobr Addysg Uwch

BEng (Anrh) Peirianneg Awyrennau

Rosalie (Yuncong Li)

Gwobr Rhyngwladol

Safon Uwch

Grace McDonald

Gwobr Dysgwr Dwyieithog

Lefel 3, Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Ffion Llewellyn

Gwobr Ymrwymiad Eithriadol i’r Iaith Gymraeg

Safon Uwch

Lucas De La Rua

Gwobr Chwaraeon Perfformio

Academi Rygbi

FinTech Wales

Gwobr Busnes a Phartner


Football Class Academy

Gwobr Busnes a Phartner


Ministry of Life Education

Gwobr Busnes a Phartner


Dow Chemicals

Gwobr Busnes a Phartner


Trafnidiaeth Cymru

Gwobr Busnes a Phartner


Saffron Vanderkolk-Pellow

Gwobr Teulu CAVC

Safon Uwch

Tom Caple

Gwobr Teulu CAVC

Safon Uwch

Tegan Frizelle

Gwobr Teulu CAVC

Safon Uwch

Jack Boston

Gwobr Cyn-fyfyriwr

Gradd Sylfaen mewn Technoleg Cerddoriaeth

Annis Wiltshire

Gwobr Dysgwr y Flwyddyn

Safon Uwch

Omer Waheed

Gwobr Dysgwr y Flwyddyn

Lefel 3, Prentisiaeth Trwsio Corff Cerbyd