Mae cyn-fyfyriwr Coleg Caerdydd a’r Fro a drodd yn seren rap newydd, Juice Menace, wedi rhyddhau trac unigryw i ddathlu tîm Cymru cyn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd Merched 2023.
Mae’r trac, ‘For Her’, yn canolbwyntio ar negeseuon tîm Cymru CBDC, ‘Ar ein Cyfer Ni, Ar eu Cyfer Nhw, Er ei Chyfer Hi’ sy’n ceisio ysbrydoli cenhedlaeth o bêl-droedwyr yn y dyfodol a chydnabod cyn chwaraewyr rhyngwladol Cymru.
Dywedodd Juice Menace: “Mae’n fraint i mi gael fy ngofyn i weithio ar y gân hon. Rwy’n gobeithio fy mod wedi creu trac sain a all rymuso merched a menywod ifanc ledled Cymru a thu hwnt; mae’r trac yn wirioneddol ‘Ar ei Chyfer Hi’.
“Mae popeth o gwmpas y tîm a phêl-droed merched ar hyn o bryd yn gyffrous iawn ac rydw i mor hapus i gymryd rhan. Mae’r tîm wedi bod yn gymaint o ysbrydoliaeth drwy gydol yr ymgyrch, a gobeithio y gall y trac helpu Cymru a’r Wal Goch i’r lefel nesaf yn yr ymgyrch ragbrofol hon.”
Roedd Juice – sef Destiny Jones – yn un o’i dosbarthiadau Technoleg Cerddoriaeth CAVC pan ddaeth ei chynnig mawr. Ar ôl rhoi cwpl o steiliau rhydd a chyfuniadau allan ar-lein, pan geisiodd sgowt talent o Warner Music UK gysylltu roedd hi’n meddwl mai jôc oedd hi, dywedodd Juice wrth WalesOnline yn ddiweddar. Llwyddodd y sgowt, sydd bellach yn rheolwr arni, i gael gafael arni o'r diwedd tra roedd yn y Coleg a bu'n rhaid iddi gamu allan o'i dosbarth i dderbyn yr alwad.
Roedd y ferch 22 oed o Ben-y-bont ar Ogwr wedi rhoi’r gorau i’w harholiadau Safon Uwch er mwyn dilyn gyrfa mewn cerddoriaeth. Ond dywedodd wrth ei mam y byddai'n astudio Technoleg Cerddoriaeth yn CAVC.
Credai Juice y byddai'r cwrs yn rhoi cefndir iddi wrth recordio, cynhyrchu a rhoi caneuon at ei gilydd. Roedd CAVC, gyda'i gyfleusterau o'r radd flaenaf, staff arbenigol y diwydiant a stiwdio recordio, yn ymddangos yn ddelfrydol.
“I mi roedd yn, ‘dau aderyn, un garreg – anhygoel,” meddai Juice wrth WalesOnline. “Fe allwn i ddechrau’r peth yma’n iawn a chadw fy mam yn hapus oherwydd roeddwn i’n dal mewn addysg.”
Roedd ei thiwtor “mor gefnogol” i’w chynlluniau ar gyfer y dyfodol, ychwanegodd.
Wedi cynhyrchu cerddoriaeth yn gyson byth ers hynny, daeth cyd-rapiwr Cymreig Sage Todz at Juice am gydweithrediad â CBDC. Roedd Sage wedi gweithio ar y trac sain ‘O Hyd’ i dîm dynion Cymru.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Llongyfarchiadau i Juice – mae cael sylw i dalent tra’n dal yn y Coleg ac yna cael cais i ysgrifennu anthem ar gyfer tîm merched Cymru yn gamp anhygoel! Rydym i gyd yn falch iawn ohonot ac yn falch ein bod wedi dy helpu ar hyd y ffordd i yrfa a fydd yn sicr yn ddisglair yn y diwydiant cerddoriaeth.”