Mae myfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro, Ieuan Morris-Brown a Ruby Pile, wedi dod o Rownd Derfynol WorldSkills UK gyda medal aur ac arian, yn y drefn hon.
Enillodd Ieuan ei fedal aur mewn Atgyweirio Cyrff Cerbydau, a gynhaliwyd gan CAVC, ac enillodd Ruby ei medal arian mewn Gwasanaeth Bwyty yn dilyn cystadleuaeth yng Belfast Met.
Enillodd Kavan Cox, dysgwr ACT, aelod Grŵp CAVC, fedal arian mewn Sgiliau Sylfaenol Datrysiadau Meddalwedd TG i Fusnesau hefyd.
Teithiodd deg o fyfyrwyr o Goleg Caerdydd a’r Fro ar draws y DU i gystadlu yn Rownd Derfynol WorldSkills UK - sy’n adnabyddus fel y Gemau Olympaidd Sgiliau. Tiffany Fury mewn Sgiliau Sylfaenol Trin Gwallt, Kharly Thomas, Kyl Winter a Petr Petrov mewn Sgiliau Sylfaenol Garddwriaeth, Aram Elbadian mewn Teilsio Lloriau a Waliau, Omer Waheed mewn Atgyweirio Cyrff Cerbydau, Sion Lewis mewn Ail-orffen Cerbydau Modur a Dylan Dumbleton mewn Plastro.
Dywedodd Kay Martin, Pennaeth Grŵp Coleg Caerdydd a'r Fro: “Llongyfarchiadau mawr a da iawn i Ieuan, Ruby a Kavan - rydych i gyd wedi profi eich bod ymysg y goreuon yn eich meysydd o fewn y DU. Mae’n gyflawniad anhygoel i bawb sydd wedi cymryd rhan a chyrraedd y rownd derfynol ac mae’n dyst i’ch gwaith caled a’ch dyfal barhad.
“Hoffwn ddiolch i holl staff Grŵp CAVC hefyd sydd wedi gweithio'n ddiflino, yn eu hamser eu hunain yn aml, i hyfforddi’r cystadleuwyr a’u galluogi i gystadlu ar y safon hon.”