Coleg Caerdydd a'r Fro yn fuddugol yn y twrnamaint cenedlaethol 7 bob ochr Colegau Cymru i Ferched

30 Tach 2022

Mae tîm pêl-droed 7 bob ochr Merched Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ennill Pencampwriaethau Cenedlaethol Colegau Cymru.

Cafodd ei gynnal yng Nghampws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd y Coleg yn Lecwydd ac roedd deng tîm o bob cwr o Gymru yn cystadlu. Roedd CAVC yng Ngrŵp A gyda’r pencampwyr cenedlaethol presennol Coleg y Cymoedd1, Grŵp NPTC, Coleg Sir Gâr a Choleg Penfro.

Heb ildio gôl, roedd tîm Merched 7 bob ochr CAVC yn anorchfygol yn y cam grwpiau, gan orffen gyda saith pwynt.

Aethant ymlaen i ennill 2-1 yn erbyn Coleg y Cymoedd2 yn y rownd gyn-derfynol ac yna aethant ati i ennill 1-0 yn erbyn Coleg y Cymoedd1 yn y rownd derfynol. Bydd tîm CAVC nawr yn mynd ymlaen i gystadlu ym Mhencampwriaeth Prydain yn Nottingham y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Lee Kendall, Pennaeth Pêl-droed a Phrif Hyfforddwr Coleg Caerdydd a’r Fro: “Mae’r athletwyr fyfyrwyr yn haeddu bob clod - buont yn brwydro’n galed ym mhob gêm ac fe guron nhw raglen sy’n recriwtio’n genedlaethol, a dim ond newydd ddechrau rhaglen fechan iawn ydyn ni, felly rwy’n hynod falch.

“Mae’r athletwyr fyfyrwyr yn deall, yn sgil y fuddugoliaeth yn y teitl Cenedlaethol, ein bod yn obeithiol y bydd ein rhaglen yn tyfu i gystadlu’n fwy rheolaidd ac yn rhoi cyfle gwych i ddysgwyr benywaidd gyfuno astudiaeth a chwarae pêl-droed yn y dyfodol.”

Mae Academi Bêl-droed CAVC yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o’r Coleg sy’n astudio ystod o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd. Mae’r Academi yn darparu amgylchedd cefnogol ac arbenigol sy'n cyfuno hyfforddiant a chyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf gyda phortffolio eang o gyrsiau’r Coleg. Gall chwaraewyr ddatblygu yn eu gyrfaoedd chwaraeon law yn llaw ag astudio yn y Coleg a pharatoi dyfodol sydd y tu hwnt i chwaraeon hefyd.