Joshua a Tony o Goleg Caerdydd a’r Fro yn helpu i arddangos bwyd a diod Cymreig cyn Cwpan y Byd Pêl-droed

23 Tach 2022

Yn ddiweddar, teithiodd Joshua Campbell-Taylor, sy’n astudio Lletygarwch yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, a’r Cogydd-Ddarlithydd Tony Awino, i Qatar i arddangos y gorau o gynnyrch bwyd a diod Cymru cyn Cwpan y Byd Pêl-droed.

Cynhaliodd Llysgennad y DU i Qatar ginio ffurfiol, a drefnwyd gan adran Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru, ac Arddangosfa Bwyd a Diod Cymru yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yno.

Roedd y noson yn wledd o gig oen Cymreig a chynnyrch arall. Roedd chwech o fusnesau yn bresennol gyda’u cynnyrch, gan gynnwys Calon Wen, Hybu Cig Cymru (HCC), Penderyn Distillery, Rachel’s Dairy, Stillers, Tŷ Nant a JW Marriott.

Gan weithio’n agos gyda’r Cogydd Buğra Keles a’i staff, creodd y Cogydd Chris Roberts, sydd hefyd yn cael ei alw’n Flamebaster, fwydlen ar gyfer y cinio mawreddog a oedd yn arddangos y gorau o gynnyrch Cymreig a oedd ar gael yn y rhanbarth. Roedd Tony a Joshua yno i helpu Chris, a hynny drwy ymgymryd â rôl Cogydd Ieuenctid.

Dywedodd y Cogydd-Ddarlithydd Tony Awino: “Teithiais i Qatar yn ddiweddar gyda’r myfyriwr coginio proffesiynol Lefel 3, Joshua Campbell-Taylor o Goleg Caerdydd a’r Fro. Gofynnodd Llywodraeth Cymru i’r Coleg ddarparu cymorth arlwyo ar gyfer digwyddiad hybu Bwyd a Diod Cymreig cyn Cwpan y Byd.

“Roedd hyn yn cynnwys cinio ffurfiol â thri chwrs ar gyfer mynychwyr o Gymru, diaspora Cymru, pobl VIP o Qatar a Llysgennad Prydain a’i wraig. Cynhaliwyd y digwyddiad ar safle Llysgennad Prydain, lle bûm yn gweithio’r cogydd arobryn, Chris Roberts, o Gymru, a thîm arlwyo pum seren JW Marriott Doha. Gwnaethom goginio i 60 o bobl VIP a chyflwyno bwydlen yn llawn cynnyrch Cymreig.”

Yn ogystal â choginio, helpodd Joshua’r Cogydd Chris Roberts ar gyflwyniad byr am y bwyd a oedd yn cael ei baratoi, hanes ei gynhwysion a’r sgiliau a’r gwaith ynghlwm wrth fwyd Cymreig.

Dywedodd Tony: “Roedd y bobl bwysig yn y digwyddiad yn canmol y cyflwyniad a’r bwyd yn fawr iawn. Braint oedd cael ein dewis i fod yn rhan o ddigwyddiad mor fawreddog, ac roedd yn gyfle gwych i godi proffil Coleg Caerdydd a’r Fro yn rhyngwladol.”

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Am gyfle ardderchog i Joshua a Tony! Diolch i Lywodraeth Cymru am roi’r profiad anhygoel hwn iddynt - edrychwn ymlaen at weithio’n agos â Llywodraeth Cymru yn y dyfodol i hyrwyddo llwybrau sgiliau a diwydiant, gydag arddangosfeydd pellach o gynnyrch a thalentau coginiol Cymru.”