Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro i gynrychioli Cymru yng Ngŵyl Ysgolion y Byd yng Ngwlad Thai

18 Tach 2022

Bydd Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro yn mynd ag ysbryd y ddraig i Wlad Thai ym mis Rhagfyr ar gyfer Gŵyl fawreddog Ysgolion y Byd.

Yn enillwyr Cwpan Ysgolion a Cholegau Cymru, dyma’r seithfed tîm i’w gadarnhau a’r trydydd pencampwr cenedlaethol, ochr yn ochr â phencampwyr Seland Newydd a Lloegr, Ysgol y Bechgyn Hamilton ac Ysgol y Drindod yn y drefn honno.

Ers ei ffurfio yn 2016, mae 28 o chwaraewyr o Academi Rygbi CCAF wedi mynd ymlaen i chwarae’n rhyngwladol dros Gymru yn y tîm dan 18 ac fel rhan o garfan Hŷn Rygbi 7 Cymru. Mae mwy na 100 o chwaraewyr wedi cynrychioli rhanbarth Rygbi Caerdydd dan 18 i lefel y garfan hŷn.

Mae’r Academi yn cymryd ei lle yn yr ŵyl ochr yn ochr â’r canlynol:

• Prif dîm rygbi bechgyn ysgol De Affrica, Coleg Grey;
• Ysgol rhif 1 yn y byd yn 2021/22, Millfield o Loegr;
• Pencampwyr Cenedlaethol Seland Newydd 2022, Ysgol Uwchradd y Bechgyn Hamilton;
• Pencampwyr Cenedlaethol Lloegr 2022, Ysgol y Drindod.
• Pwerdy Iwerddon, Coleg Sant Mihangel,
• Cewri Lloegr, ac un o'r timau gorau yn Lloegr eleni, Ysgol Sedbergh.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi CCAF, Martyn Fowler: "Rydyn ni’n falch iawn o fod yn cynrychioli Cymru yng Ngŵyl Ysgolion y Byd, mae'n ŵyl wych gyda thimau o bedwar ban byd. Mae'n mynd i fod yn ardderchog i'r chwaraewyr a'r Coleg, cael bod yn rhan o gystadleuaeth mor safonol.

“Mae’n gyfle nad oedden ni eisiau ei golli, ac yn gydnabyddiaeth wych o’r hyn sy’n cael ei adeiladu yma yn CCAF gyda’n rhaglen rygbi, a llwyddiannau’r garfan yma. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gyrraedd Gwlad Thai ar gyfer yr hyn fydd yn wythnos gwbl unigryw a chofiadwy i bawb sy’n rhan ohoni."

Bydd y twrnamaint rygbi ysgolion y mae disgwyl mawr amdano yn cael ei gynnal am y tro cyntaf ar Gampws Chwaraeon Pattana yng Ngwlad Thai rhwng y 12fed a’r 17eg o Ragfyr, ac mae’n dod â’r talentau gorau o bob cwr o’r byd yn y byd rygbi i fechgyn ysgol at ei gilydd.

Mae’r Ŵyl yn addo ymgorffori gwir ysbryd rygbi, gan hyrwyddo gwerthoedd traddodiadol y gamp drwy gynnull rhai o dalentau mwyaf addawol y gêm ymhlith bechgyn ysgol, gyda chynlluniau yn eu lle i hyrwyddo rygbi yng Ngwlad Thai hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y WSF, ewch i www.worldschoolsfestival.com