Coleg Caerdydd a’r Fro yn rownd derfynol Gwobrau Beacon 2022-23

16 Tach 2022

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau anrhydeddus Beacon Cymdeithas y Colegau (AoC).

Yn cael eu hadnabod fel ‘Oscars y Colegau’, mae Gwobrau Beacon yn dathlu’r arfer gorau a mwyaf arloesol ymhlith colegau’r DU bob blwyddyn. Mae’r Coleg wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Gwobr AoC am Ragoriaeth mewn Llywodraethu.

Yn ddiweddar, mae CCAF wedi trawsnewid ei gorff llywodraethu, nid yn unig i gynyddu cydraddoldeb ac amrywiaeth ei fwrdd, ond hefyd i fynd ati’n flaengar i recriwtio ymhlith y gymuned leol. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu Bwrdd Cymunedol a nodwyd fel arfer sy’n arwain y sector gan brosiect Llywodraethu Addysg Bellach Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol 2020.

Mae newidiadau pellach i annog ystod ehangach o Lywodraethwyr yn cynnwys amseroedd cyfarfod hyblyg, cael gwahanol lefelau o Lywodraethwyr i annog pobl ag ymrwymiadau amser gwahanol i ymuno â'r Bwrdd, a newid amledd y cyfarfodydd i adlewyrchu newid mewn amser real.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Beacon am Ragoriaeth mewn Llywodraethu.

“Yn CCAF rydyn ni’n gweithredu yn rhai o gymunedau mwyaf bywiog ac amrywiol Cymru. Rydyn ni’n gweld ein hunain wrth galon y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ac i gefnogi hynny rydyn ni wedi gweithio i sicrhau bod ein Corff Llywodraethu yn adlewyrchu cydraddoldeb ac amrywiaeth y cymunedau hynny.”

Dywedodd Mark White OBE DL, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol AoC: “Mae Gwobrau Beacon AoC yn dangos yn union pam mae colegau mor bwysig i bob cymuned a pham mae pobl yn eu gwerthfawrogi. Mae’r wobr hon yn cydnabod y rôl hollbwysig y mae byrddau, llywodraethwyr a gweithwyr llywodraethu proffesiynol yn ei chyflawni i ddatblygu gallu i wella ansawdd y ddarpariaeth i fyfyrwyr yn barhaus.”

DIWEDDARIAD:

Aeth Cadeirydd y Llywodraethwyr Geraint Evans a Phennaeth Llywodraethu Grŵp a Chlerc y Gorfforaeth Louise Thomas i’r seremoni wobrwyo. Yn anffodus ni enillodd y Coleg, ond mae cael ein cydnabod fel un o’r colegau mwyaf blaenllaw yn y DU am lywodraethu yn dipyn o gamp.